Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl/Ol-ysgrifen

Oddi ar Wicidestun
Athraw Ysgol Ddyddiol Abergynolwyn Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl

gan Robert Oliver Rees


OL-YSGRIFEN

ANFONWYD talfyriad Saesneg o hanes Mary Jones i'w gyhoeddi yn misolyn poblogaidd Cymdeithas y Traethodau Crefyddol—"The Sunday at Home." Ymddangosodd, gyda'r darluniau, yn y rhifyn am fis Rhagfyr. Wedi i'r tudalenau blaenorol o'i hanes cyflawnach yn Gymraeg gael eu hargraffu, wele y newydd dyddorol yn dyfod i ni, fod ceisiadau eisoes wedi eu derbyn oddiwrth swyddogion y Feibl Gymdeithas yn amryw o wledydd y Cyfandir, megis Ffrainc, Itali, Germani, a Holland, am ganiatad i gyhoeddi cyfieithiadau o'r hanes, gyda'r darluniau, yn ieithoedd y gwledydd hyny. Bernir yn debygol y derbynir ceisiad au cyffelyb eto o wledydd eraill. Yr ydym yn ychwanegu y nodiad hwn, gan dybied nad annyddorol gan ddarllenwyr yr hanes yn Gymraeg, yn y tudalenau blaenorol, yn ein gwlad ein hunain, fydd gwybod am y dyddordeb hwn a deimlir gan gyfeillion y Feibl- Gymdeithas mewn gwledydd eraill yn stori fyth ddyddorol ein "hanfarwol Charles, o'r Bala," a'r Gymraes fechan heb yr un Beibl.

R. O. R.