Mawl i Dafydd ab Dafydd

Oddi ar Wicidestun

gan Guto'r Glyn


O LWYDIARTH, MON.

Dylid henwi deiliad henwyd,
Dafydd o Dafydd ydd wyd;
Yr oedd baten o'i hendaid
In' ar dir cyn marw ei daid.
Ei dai ar ol, a'i dir ym,
A'i sel a roes i Wilym.
Os y gler a gasgl arian,
Ni chasglent na'm rhent na'm rhan;
Ni chant na'm tenant na'm tir,
Na'm trysor onim treisir.
Nid drwg golud Twr Celyn;
Nid rhan deg ond trwy un dyn.
Ceidwad trwm i'r cwrt draw
Cael wydd Twr Celyn iddaw;
Ni bu le i wan ei blaid
Heb rieni Barwniaid.
Caed hil maccwyaid haelion,
Cynfrig, a Meurig, ym Mon.
Llwyth Hywel a'r llath haiarn,
Un dewr ei dorch yn dair darn.
Iorwerth yw'n rhoi nerth i wyth,
O fron henllin frenhin-llwyth.
Molwn wr ymlaen neb,
Moler un milwr wyneb:
Gwr gwyn a dyn adenydd,
Gem ar Fon, mam Gymru fydd.
Gwr oedd ei dad a garwn,
Gwr hawdd ei garu i'w hwn.
Gwnaed y gler gam a dyn glan,
I Garw Llwydiarth gair llydan.
Canen molen y milwr;
Canwn pe gwelwn y gwr:
Canu rwy cynar yw ym,
A gweled cenau Gwilym.
Fy nhrigfan fy nhiriogaeth
Ym Mon lle gorau fy maeth;
Fy nghartref fy nghynefin:
Fu dai'r gwalch ei fwyd a'i win.
Ewch a mi i Lanerchymedd,
A Llwydiarth oll i adwedd;
A da o deuaf i'w dai
Adref umwaith drwy Fenai.
Nid yra fy nghorff drwy Arfon
Nid rhaid am enaid yn Mon.