Merch Ein Hamserau: Rhan 4

Oddi ar Wicidestun
Merch Ein Hamserau: Rhan 3 Merch Ein Hamserau
Rhan 4'
gan Robin Llwyd ab Owain
Rhan 4'
Merch Ein Hamserau: Rhan 5
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.


A gaf i heno wagio fy enaid,
Arllwys ei gynnwys i'th ffiol gannaid
A chynnau ag ochenaid - ganhwyllau
Ein Nadoligau yn nwfn dy lygaid?

Yn dy winc araf mae trydan cariad,
I minnau heddiw mae hen wahoddiad,
I ni'n dau mae'n dyhead - heb ddadl
Yn drwm o anadl ein storm o uniad.

A daw'r eira'n rhugl o Gaer Arianrhod
Fy nghorff a'm noethni fel pili-palod.
Cael ym mhinacl y mannod - betalau
Taer dy amrannau yn cau mewn cawod.

Can i mi'n gyfoes f'offeryn oesol,
Reggae gwahoddiad a'r Blues tragwyddol,
Can yn ifanc hynafol - dy nodau
A chan ar rythmau'r caniadau cnawdol.

Rhof innau'r cordiau ar dap-recordydd,
Rhoi drama einioes ar fideo'r 'mennydd
A rhoi ar go'n dragywydd - freuddwyd llanc
A'th lwynau ieuanc yn fythol newydd.

Yn y cnawd gwynias mae can digonedd,
Ym mru yfory mae hen gyfaredd,
Clun ynglun, gweinied fy nghledd - drwy'r storm chwil
Yng nghaer fy hil mae had fy ngorfoledd.

I'n gwar ymryson daeth grym yr oesau,
Ym mhair marwolaeth mae murmur o olau
A ffrwd ein cyffroadau, - mae gwawrddydd
Hyn na llawenydd yn had ein llwynau.

Mae hen wahoddiad yn fy mhinwydden
Eilwaith. Amdanaf mae dy ffurfafen
Yn hyder am fy nghoeden - cyn toddi
A ni'n meirioli mewn mor o heulwen.