Merched Llanbadarn
Gwedd
gan Dafydd ap Gwilym
- Plygu rhag llid yr ydwyf –
- pla ar holl ferched y plwyf!
- am na chefais, drais drawsoed,
- onaddun yr un erioed,
- na morwyn fwyn ofynaig
- na merch fach, na gwrach, na gwraig
- py rusiant, py ddireidi,
- py fethiant, na fynnant fi?
- Py ddrwg i riain fewiael
- yng nghoed twylldew fy nghael?
- Nid oedd gywilydd iddi
- yng ngwal dail fy ngweled i
- ni bu amser na charwn,
- ni bu mor lud hud a hwn
- anad gwyr annwyd Garwy-
- yn y dydd ai un a dwy
- ac er hynny nid oedd nes
- ym gael un no’m gelynes
- ni bu Sul yn Llanbadarn
- na bewn, ac eraill ai barn
- a'm wyneb at y ferch goeth
- a'm gwegil at Dduw gwiwgoeth.