Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

Oddi ar Wicidestun
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008
ar Wicipedia



Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008

2008 mccc 1

MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglyˆ n â threfniadau ar gyfer gwneud iawn mewn perthynas ag atebolrwydd mewn camwedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Mai 2008 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor ar 9 Gorffennaf 2008, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

1 Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIG

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd yr adran hon yn gymwys.
(2) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar ran corff neu berson a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys yng Nghymru neu yn rhywle arall fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(3) Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw—
(a) Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru;
(b) Bwrdd Iechyd Lleol;
(c) Awdurdod Iechyd Arbennig;
(d) Gweinidogion Cymru;
(e) corff neu berson sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff neu berson a grybwyllir ym mharagraff (a) i (d).

(4) Mae'r cyfeiriad yn is-adran (2) at atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn gyfeiriad at atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus o ran neu o ganlyniad i anaf personol neu golled sy'n deillio o dor-dyletswydd gofal neu sy'n gysylltiedig ag ef a'r ddyletswydd gofal honno yn ddyledus i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosio salwch, neu wrth ofalu am unrhyw glaf neu ei drin,—
(a) o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan broffesiynolyn gofal iechyd, neu
(b) o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
(5) At ddibenion is-adran (2), mae gwasanaethau yn wasanaethau cymwys os ydynt o unrhyw ddisgrifiad (gan gynnwys disgrifiad sy'n cynnwys darpariaeth y tu allan i Gymru) y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
(6) Yn is-adran (3)(e), nid yw'r cyfeiriad at berson sy'n darparu gwasanaethau yn cynnwys person sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract cyflogaeth.

2 Iawn o dan y rheoliadau

(1) Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglyˆ n ag iawn.
(2) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu mai'r canlynol yw elfennau iawn fel arfer—
(a) cynnig digollediad yn iawn am unrhyw hawl i godi achos sifil o ran yr atebolrwydd dan sylw;
(b) rhoi esboniad;
(c) ymddiheuro mewn ysgrifen; a
(d) rhoi adroddiad ar y camau a gymerwyd neu a gymerir i atal achosion tebyg rhag codi;
ond caiff y rheoliadau bennu amgylchiadau pan na fydd angen un neu ragor o'r ffurfiau hyn ar iawn.
(3) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu nad yw iawn yn gymwys mewn perthynas ag atebolrwydd sydd neu a fu'n destun achos sifil.
(4) Caiff y rheoliadau, yn benodol—
(a) gwneud darpariaeth i'r digollediad y caniateir ei gynnig gymryd ffurf gwneud contract i ddarparu gofal neu driniaeth neu ddigollediad ariannol, neu'r ddau;
(b) gwneud darpariaeth ynglyˆ n â'r amgylchiadau pan ganiateir cynnig ffurfiau gwahanol ar ddigollediad.
(5) Os yw'r rheoliadau yn darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol, cânt yn benodol—
(a) gwneud darpariaeth ynglŷn â pha faterion y caniateir cynnig digollediad ariannol mewn perthynas â hwy;
(b) gwneud darpariaeth mewn perthynas ag asesu swm unrhyw ddigollediad ariannol.
(6) O ran y rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol—
(a) cânt bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys mewn cynnig o iawn a wneir yn unol â'r rheoliadau;
(b) rhaid iddynt, os nad ydynt yn pennu terfyn o dan baragraff (a), bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig mewn perthynas â phoen a dioddefaint;
(c) ni chânt bennu unrhyw derfyn arall ar yr hyn y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig o ran digollediad ariannol.

3 Ymofyn am Iawn

(1) Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag ymofyn am iawn.
(2) Caiff y rheoliadau yn benodol wneud darpariaeth—
(a) am bwy a gaiff ymofyn am iawn;
(b) am sut y caniateir ymofyn am iawn;
(c) am derfynau amser mewn perthynas ag ymofyn am iawn;
(d) am amgylchiadau pan na chaniateir ymofyn am iawn.

4 Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawn

(1) Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a grybwyllir yn is-adran (2)—
(a) ystyried, o dan yr amgylchiadau y bydd y rheoliadau yn darparu ar eu cyfer, p'un a yw achos y mae'r corff neu'r person yn ymchwilio iddo neu yn ei adolygu yn cynnwys atebolrwydd y dichon fod iawn ar gael ar ei gyfer, a
(b) os ymddengys ei fod ar gael, cymryd unrhyw gamau y mae'r rheoliadau yn eu darparu.
(2) Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
(a) unrhyw gorff neu berson y mae'r rheoliadau yn gymwys i'w atebolrwydd, a
(b) unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn y rheoliadau.

5 Dull darparu iawn

(1) Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn â sut y mae iawn i'w ddarparu.
(2) Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—
(a) ynglŷn ag ymchwilio i geisiadau am iawn a wneir o dan y rheoliadau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer goruchwylio'r ymchwiliad gan unigolyn o ddisgrifiad penodedig);
(b) ynglŷn â ffurf a chynnwys cytundebau setlo o dan y rheoliadau;
(c) i gytundebau setlo o dan y rheoliadau fod yn ddarostyngedig mewn achosion o ddisgrifiad penodedig i'w cymeradwyo gan lys;

(d) ynglŷn â'r weithdrefn i'w dilyn pan fydd yr adeg a'r amgylchiadau cyfryw fel na chaniateir canlyn arni gyda cheisiadau am iawn o dan y rheoliadau mwyach.
(3) Rhaid i'r rheoliadau—
(a) gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau amser ac unrhyw estyniadau iddynt mewn perthynas â—
(i) trefnu a chwblhau ymchwiliad;
(ii) gwneud cynnig o iawn; a
(iii) derbyn cynnig o iawn; o dan y rheoliadau,
(b) gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodi mewn adroddiad ganfyddiadau ymchwiliad i achos pan fo unigolyn yn ceisio iawn o dan y rheoliadau, a
(c) yn ddarostyngedig i is-adran (4), gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi copi o'r adroddiad i'r unigolyn sy'n ceisio iawn.
(4) Caiff y rheoliadau ddarparu nad oes angen rhoi copi o adroddiad ymchwiliad—
(a) cyn i gynnig o iawn o dan y rheoliadau gael ei wneud neu cyn i'r achos gael ei ddirwyn i ben am unrhyw reswm;
(b) pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o achosi niwed neu ofid arwyddocaol i'r claf neu i geisydd arall; neu
(c) o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir.
(5) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu bod cytundeb setlo am iawn a wneir o dan y rheoliadau yn cynnwys ildiad o unrhyw hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd y mae a wnelo'r setliad ag ef.
(6) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu na chaniateir ceisio iawn o dan y rheoliadau bellach os daw'r atebolrwydd y ceisir iawn yn ei gylch yn destun achos sifil.

6 Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad

(1) Rhaid i'r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer diystyru'r cyfnod pryd y mae atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau at ddibenion cyfrifo p'un a yw unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol wedi dod i ben ai peidio.
(2) Mae'r cyfeiriad yn is-adran (1) at unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol yn gyfeiriad at unrhyw gyfnod o amser ar gyfer codi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd a ragnodir gan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980 (p.58) neu unrhyw ddeddfiad arall neu odanynt.
(3) Caiff y rheoliadau ddiffinio at ddibenion darpariaeth yn unol ag is-adran (1) pan fydd atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau.

7 Cyngor cyfreithiol, etc.

(1) Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (4), caiff y rheoliadau wneud y ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas—


(a) ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau;
(b) ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.
(2) Rhaid i'r rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod unigolion y caniateir gwneud cynnig o iawn iddynt o dan y rheoliadau yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl mewn perthynas ag—
(a) unrhyw gynnig a wneir,
(b) unrhyw wrthodiad i wneud y cyfryw gynnig; ac
(c) unrhyw gytundeb setlo.
(3) Caiff darpariaeth o dan is-adran (1)(a) neu (2) ynghylch pwy a gaiff ddarparu'r cyngor cyfreithiol gael ei gweithredu drwy gyfeirio at restr sy'n cynnwys darparwyr posibl ac a lunnir gan berson neu gorff penodedig.
(4) Os yw'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr meddygol, rhaid iddynt ddarparu hefyd bod yr arbenigwyr hynny yn cael eu cyfarwyddo ar y cyd gan y corff neu'r person sy'n gweithredu'r trefniadau iawn o dan y rheoliadau a chan yr unigolyn sy'n ceisio iawn.

8 Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn

(1) Dyletswydd Gweinidogion Cymru yw trefnu, i'r graddau y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diwallu pob gofyniad rhesymol, fod cymorth yn cael ei ddarparu (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion sy'n ceisio iawn, neu'n bwriadu ceisio iawn, o dan y rheoliadau.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniadau eraill y maent yn barnu eu bod yn addas ar gyfer darparu cymorth (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion mewn cysylltiad ag achosion sy'n destun cais am iawn o dan y rheoliadau.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i unrhyw berson neu gorff yn unol â threfniadau o dan yr adran hon ac adran 7.
(4) Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r egwyddor y dylai darparu gwasanaethau o dan y trefniadau mewn cysylltiad ag achos penodol, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod yn annibynnol ar unrhyw berson y mae a wnelo'r achos â'i ymddygiad neu unrhyw berson sydd â rhan yn y gwaith o ymdrin â'r cais am iawn.

9 Swyddogaethau o ran trefniadau iawn

(1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod â'r swyddogaethau o ran gweithredu trefniadau iawn o dan y Mesur hwn y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn addas.
(2) Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i'r cyfryw bersonau neu gyrff fod â swyddogaethau mewn perthynas ag—
(a) ymofyn am iawn;
(b) taliadau yn iawn o dan gytundebau setlo;
(c) darparu cyngor neu ganllawiau am faterion penodedig mewn cysylltiad â threfniadau iawn;

(d) darparu cyngor cyfreithiol di-dâl mewn cysylltiad â threfniadau iawn;
(e) monitro sut y mae personau neu gyrff yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y rheoliadau;
(f) cyhoeddi data blynyddol am y trefniadau iawn.
(3) Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson wrth iddo gyflawni swyddogaethau o dan y rheoliadau—
(a) cadw cofnodion penodedig mewn perthynas â chyflawni'r swyddogaethau hynny;
(b) rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros oruchwylio sut y mae swyddogaethau penodedig a roddwyd i'r corff hwnnw neu i'r person hwnnw yn cael eu cyflawni o dan y rheoliadau;
(c) rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros gynghori'r corff neu'r person ynglŷn â'r gwersi sydd i'w dysgu o achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau.
(4) Rhaid i'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gorff neu berson yn llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol am achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu â'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau ynghyd â'r gwersi sydd i'w dysgu oddi wrthynt.
(5) Caiff y rheoliadau ddarparu bod unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan gorff neu berson o dan y rheoliadau, drwy drefnu gyda'r corff hwnnw neu gyda'r person hwnnw ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ac amodau y mae'r corff hwnnw neu'r person hwnnw yn meddwl eu bod yn addas, gael ei harfer ar ran y corff hwnnw neu'r person hwnnw gan gorff neu berson arall neu ar y cyd â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw.
(6) Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson sy'n arfer swyddogaethau o dan y rheoliadau roi sylw i unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
(7) Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ei heffaith yw y bydd gan gorff neu berson ac sydd wedi trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau swyddogaethau o dan y rheoliadau sy'n ymwneud ag atebolrwydd rhywun arall mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny.

10 Cwynion

Yn adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
"(d) the provision of redress by or for a Welsh NHS body under the NHS Redress (Wales) Measure 2008."

11 Gorchmynion a rheoliadau

(1) Mae unrhyw bwˆ er i wneud gorchymyn neu reoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy gan offeryn statudol.
(2) Mae unrhyw bwˆ er gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a) i wneud darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau sy'n cynnwys arfer disgresiwn;

(b) i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
(c) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol; a
(d) i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, arbed neu drosiannol y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.
(3) Caniateir arfer unrhyw bwˆ er sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur hwn (yn ogystal â bod yn arferadwy mewn perthynas â phob achos y mae'n ymestyn iddo) mewn perthynas â'r holl achosion hynny yn ddarostyngedig i eithriadau neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth ar achos.
(4) Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5) Nid yw is-adran (4) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt.
(6) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sydd—
(a) yn cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu un o Fesurau'r Cynulliad, neu
(b) yn cynnwys y rheoliadau cyntaf o dan adran 1(1), neu
(c) yn cynnwys rheoliadau yn gwneud darpariaeth o dan adran 1(4)(b), adran 1(5), adran 3 neu adran 5, neu
(d) yn cynnwys y rheoliadau cyntaf i wneud darpariaeth o dan adrannau 2, 4, 6, 7 neu 9,
oni bai i ddrafft o'r offeryn gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(7) Nid oes dim yn y Mesur hwn i'w ystyried fel petai'n cyfyngu ar gyffredinolrwydd adrannau 1(1) a 12(1).

12 Pŵer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach etc.

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg drwy reoliadau wneud—
(a) unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, neu
(b) unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi. (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol wneud darpariaeth—
(a) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ddeddfiad a basiwyd cyn neu yn ystod yr un flwyddyn Cynulliad â'r Mesur hwn, a
(b) sy'n diwygio neu'n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p.30)) a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.

13 Dehongli

Yn y Mesur hwn—
mae "anaf personol" ("personal injury") yn cynnwys unrhyw glefyd ac unrhyw amhariad ar iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn;
mae i "claf" yr un ystyr â "patient" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
ystyr "y gwasanaeth iechyd yng Nghymru" ("the health service in Wales") yw'r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o'r Ddeddf honno;
ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("a health care professional") yw aelod o broffesiwn (p'un a yw'n cael ei reoleiddio gan unrhyw ddeddfiad neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud (yn llwyr neu yn rhannol) ag iechyd corfforol neu iechyd meddyliol unigolion;
mae i "salwch" yr un ystyr ag "illness" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

14 Teitl byr a chychwyn

(1) Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
(2) Daw'r adran hon i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.
(3) Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod neu'r diwrnodau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Nodiadau gan Wicidestun (dim yn ran o'r cyhoeddiad gwreiddiol na'r ddeddf)[golygu]


Trwyddedir y ffeil hon yn ôl termau'r Drwydded Llywodraeth Agored y Deyrnas Unedig v3.0.