Mewn Album

Oddi ar Wicidestun

MEWN ALBUM

CERDDA rhai adwaenom heno
Ewrop bell ddi-gainc,
Lle mae dafnau gwaed ar fentyll
Prydain Fawr a Ffrainc.
Cysga eraill a adwaeno
Yn y fynwent brudd;
Lle maer awel fyth yn wylo,
Wylo nos a dydd.
Troeog iawn yw llwybrau bywyd
Megis gwynt yr hwyr;
Pa le'n cludir ninnau ganddo,
Duw yn unig wŷr.