Mi Saethais Gân (Mynyddog)
Gwedd
(O Longfellow).
- Mi saethais gân i fyny i’r ne’,
- A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,
- Can’s ni fu ’rioed un llygad llym
- All ddilyn saeth ar hediad chwim.
- Anadlais gân i wynt y ne’,
- Aeth gyda’r gwynt nas gwyddwn ple,
- Oblegid nid oes llygad glân
- All ddilyn llwybrau adlais cân.
- ’Mhen blwyddau hir mewn calon pren
- Y saeth a gefais ar ei phen,
- A’r gân a gefais wedi mynd
- A glynu i gyd mewn calon ffrynd.