Mis Mai

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

gan Dafydd ap Gwilym

Duw gwyddiad main da y gweddai
dechreuad mwyn dyfaid Mai.
Difeth irgyrs a dyfai
dyw Calan mis mwynlan Mai.
Digrinflaen goed a’m oedai,
dillyn beirdd ni’m rhudwyllia.
Da fyd ym oedd dyfod Mai.
Harddwas teg a’m anrhegai
hylaw ŵr mawr hael yw’r Mai.
Anfones ym iawn fwnai,
glas defyll glân mwyngyll Mai.
Fforingod brig ni’m digiai,
ffŵr-dy-lis gyfoeth mis Mai.
Diongl rhag brad y’m cadwai,
dan esgyll dail mentyll Mai.
Llawn wyf o ddig na thrigai
beth yw I mi? byth y Mai.
Dofais ferch a’m enerchai,
dyn gwiwryw mwyn dan gôr Mai.
Tadmaeth beirdd heirdd a’m hurddai,
serchogion mwynion yw Mai.
Mab bedydd Dofydddifai,
Mygrlas, mawr yw urddas Mai.
O’r nef y doeth a’m coethai
i’r by, fy mywyd Mai.
Neud glas gofron, llon llatai,
neud hir dydd mewn irwydd Mai.
Neud golas, nid ymgelai,
bronnydd a brig manwydd Mai.
Neud ber nos, nid bwrn siwrnai
neud heirdd gweikh a myweilch Mai.
Neud llon eos lle trosoi
neud llafar mân adar Mai.
Neud esgud nwyf a’m dysgai,
nid mawr ogoniant ond Mai.
Paun asgellas dinastai,
pa un o’r mil? Penna’r Mai.
Pwy o ddail a’i hadeilai
yn oed y mis onid Mai?
Magwyr laswyrdd a’i magai,
mygr irgyll mân defyll Mai.
Pyllog, gorau pe pallai,
y gaeaf, mwynaf yw Mai.
Deryw’r gwanwyn, ni’m dorai,
eurgoeth mwyn aur gywoeth Mai
dechrau haf llathr a’i sathrai,
diegr a’i mag, diagr yw Mai.
Deilgyll gwyrddrisg a’m gwisgai,
da fyd ym yw dyfod Mai.
Duw ddoeth gadarn a farnai
a Mair i gynnal y Mai.