Moliant Cadwallon

Oddi ar Wicidestun

gan Afan Ferddig

Aches ymleinw tafl twrf ym myddin,
Twrf Cadwallon hael eddyl fuddin —
Esgar hyddhafal â thân chwefrin.
Rhahawd ei gadfeirch a'i radlawn — feddud,
Ei folud ar llyr llawn,
Na fid gwynt Deau a môr eigiawn
Hefelys i long nâr llu estrawn.
Hydd esgyr ei wyr a daly iawn.
Ni fad-aned mab byth mor rhadlawn.
Cynnefod Echel aeth cywryd gamawn.
Tewid rhiau crawn rhag udd proestlawn,
Garddai er pan aned dyn dyfnddawn — Cymru
Pan rygreas Crist Cadwallawn.
Ys amnoddwy Duw ei ddewr — orchorddon
Nis arlluddion' gwynt a thonnawr,
Cychwedl a'm doddwy o Wynedd glawr
Lladd ei gwyr yn aer anoleithawr.
Diau trafodynt lladd â llafnawr.
Rhifed odudded a gynhennawr
Yd wna; o Gadwallon pan gymhwyllawr — ym myd
Tra berheÿd nef uch elfydd lawr.
Osid ardd ym Môn ryphebyllas,
Maelgwn hefelydd haelon efras.
Neud ar arch Brynaich ni ryddadlas
Ac Edwin arnu yn dad rhwy dwyllfras.
Ni buglawdd ei wartheg, nis arllafas — neb.
Cyman a gweithen i dan addas
Ar wyneb Cymru, Cadwallon was.
Dybydd inn' ddofydd y luyddawg — Prydain,
Y digones gwychr Wallawg
Eilywed Gatraeth fawr fygedawg.
Biw rhewydd rhan rhad luosawg — yn aer
Yng nghatref gwynwesti farchawg.
Esgor lludded Llong, llan gleddyfawg.
Ysbyddawd Cadwallon Gaergaradawg — fre,
Wrth ei gyfwyre gynne Efrawg.
Cywair ddienwair y funer — Prydain,
Pryd iôr fuddig adfer.
Cedwid grudd Cymru can ddiffer — ei ysgwyd,
Ei ysberi pell yd glywer
(Caeawg cynhorawg cawgawg ffêr)
Pefr Borth Ysgewin, cyffin aber.
Canador cathl gwynfyd gwenleufer
Goluchaf glew hael hilig naf nêr
Aded gynt, ethynt yn hydrfer — hallt
Rhag gawr. Pall-gorthrycher
A fo uch no thi, hael ddifynfer — arglwydd
Onid gorail awyr a sêr
Cadwallawn Einiawn arial ymher…
O Gymru dygynnau tân yn nhir Elfed
Bei yd fynt heb lurig wen waedled
Rhag unmab Cadfan, Cymru ddiffred.
Draig dinas Cymru Cadwallon.
Colofn cyrdd Cymru Cadwallon Môn.
Cymru gan hoelion a fo mor dde.gori