Mor beraidd i'r credadun gwan
Gwedd
← Mi af ymlaen yn nerth y nef | Mor beraidd i'r credadun gwan gan John Newton wedi'i gyfieithu gan David Charles (1803-1880) |
Does neb ond Ef, fy Iesu hardd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
114[1] Enw Crist.
M. C.
1.MOR beraidd i'r credadun gwan
Yw hyfryd enw Crist:
Mae'n llaesu'i boen, yn gwella'i glwy',
Yn lladd ei ofnau trist.
2.I'r ysbryd clwyfus rhydd iachâd,
Hedd i'r drallodus fron;
Mae'n fanna i'r newynog ddyn,
I'r blin, gorffwysfa lon.
3.Hoff enw! fy ymguddfa mwy,
Fy nghraig a'm tarian yw;
Trysorfa ddiball yw o ras
I mi y gwaela'n fyw.
4.Iesu, fy Mhroffwyd i a'm Pen,
F' Offeiriad mawr a'm Brawd,
Fy mywyd i, fy ffordd, fy nod,
Derbyn fy moliant tlawd.
John Newton, Cyf. David Charles (1803-1880)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 114, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
[[Category:David Charles (1803-1880)