Mor hardd, mor deg, mor hyfryd yw

Oddi ar Wicidestun

Mae Mor hardd, mor deg, mor hyfryd yw yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Mor hardd, mor deg, mor hyfryd yw
Dy babell sanctaidd di, O Dduw!
Mor loyw y disgleiria hi
Gan lewyrch dy wynepryd di.


Rhagori mae ei chywrain waith
Ar holl balasau'r ddaear faith;
A'r nef ac edrych oddi draw
Ar adail lân dy ddwyfol law.


Pan welom yno'th annwyl wedd,
Pan brofom yno'th hyfryd hedd,
Cydganu gwnawn ar lafar lef,
"Ti dygodd ni i borth y nef."


Mae un diwrnod yn dy dŷ,
Dan dirion wên dy wyneb cu;
Yn well na mil yng ngwledd y ffôl,
Sy'n gadael chwer'der blin ar ôl.


Rho imi 'r fraint o'th weld ar frys,
O fewn dy lân fendigaid lys;
Prydferthwch mwya'th babell yw
Dy bresenoldeb di ein Duw.


Nef yw i'm henaid ym mhob man,
Pan brofwyf Iesu mawr yn rhan;
Ei weled Ef a golwg ffydd
Dry'r tywyll nos yn olau ddydd.


Mwynhad o'i ras maddeuol mawr,
Blaenbrawf o'r nef yw yma'n awr;
A darllen f'enw ar ei fron
Sy' nefoedd ar y ddaear hon.