Neidio i'r cynnwys

Morfudd fel yr haul

Oddi ar Wicidestun

gan Dafydd ap Gwilym

Gollwyn ydd wyf ddyn geirllaes,
gorlliw eiry mân marian maes;
gŵyl Duw y mae golau dyn,
goleuach nog ael ewyn.


Goleudon lafarfron liw,
goleuder haul, gŵyl ydyw.
Gŵyr obryn serchgerdd o’m pen,
goreubryd haul ger wybren.
Gwawr y bobol, gwiwra bebyll,
gŵyr hi gwatwaru gŵr hyll.
Gwiw Forfudd, gwae oferfardd
gwan a’i câr, gwen hwyrwar hardd.
Gwe o aur, llun dyn, gwae ef
gwiw ei ddelw yn gwaeddolef.


Mawr yw ei thwyll a’i hystryw,
mwy no dim, a’m enaid yw.
Y naill wers yr ymdengys
fy nyn gan mewn llan a llys,
a’r llall, ddyn galch falch fylchgaer,
yr achludd gloyw Forfudd glaer,
mal haul ymylau hoywles,
mamaeth tywysogaeth tes.
Moliannus yw ei syw swydd,
maelieres Mai oleurwydd.
Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair,
mygrglaer ddrych mireinwych Mair.