Myfyrdod mewn mynwent

Oddi ar Wicidestun
Myfyrdod mewn mynwent

gan John Parry, Llaneilian


MYFYRDOD

MEWN

MYNWENT,

Ar fesur a elwir Diniweidrwydd.

Gan J. Parry Llanelian.

WELE fynwent, olaf annedd,
Gwely llygredd, gwaela' llun
Lle mae'n diwedd ddynol fawredd,
Bawb yn waredd bob yr un.
Diwedd cysur holl waith natur;
Diwedd llafur, dyddiau llid;
Diwedd caru, rhagofalu;
A cheisio baeddu yn achos byd;
Diwedd croesau a blinderau
I galonau euog lun;
Diwedd einioes pob diddanwch,
Diwedd tegwch bywyd dyn.

2 Diwedd cwyno ac ymofidio;
Diwedd wylo a dyoddef yw;
Diwedd iechyd, diwedd clefyd,
Diwedd bywyd pob dyn byw;
Diwedd 'mryson rhwng marwolion,
A fu'n elynion caethion cy'd;
Diwedd ffalsder, twyll, gorthrymder,
Enw, a balchder yn y byd;
Diwedd urddas pob perthynas,
A chymdeithas addas wedd:
Diwedd cariad, heb arferiad,
Daera bwriad, ydyw'r bedd.

3 Pawb sy'n teithio heb orphwyso,
Gan gyfeirio o hono ei hun,
Nes cyfarfod ar ryw ddiwrnod,
Yn y beddrod hwn bob un.

Diwedd llwybrau cenhedlaethau
O bob rhyw barthau ydyw'r bedd:
Lle mae trigfanau ein holl dadau
Yr awn ninau yr un wedd.
Ac er bod croesion ymddadleuon,
Ac amryw ffyrdd gan ddynion ffôl,
pawb a gytana a'r llwybr yma
I ben yr yrfa heb un ar ol.

4 Er i filoedd yn mhob oesoedd,
Uno a'u lleoedd yn y llawr;
I wneud yn rhyddion feddau ddigon,
Darfu o feirwon dyrfa fawr,
Lle i'r nesaf yw'r sain sy yma
Gan y dyrfa ag un dôn:
Ond ni cheir clywed am eu tynged,
Er ei sicred, air o sôn.
Nid oes wahaniaeth yn marwolaeth
Nac iawn wybodaeth gan y byd;
Y farn bydd tynged pawb i'w gweled
Yn agored yno i gyd!

5 Y cedyrn filwyr, y gorosgynwyr,
A'r Ymerawdwyr mwya' eriood,
Fu'n gwisgo tlysau ac aur goronau,
O amryw raddau, yma a roed.
Os buont fawrion, uwchlaw dynion,
Yn byw mor feilchion; ple mae'r fael
O'r bri a gawsant hyd oni ddaethant
O'u teg ogoniant, i'r tŷ gwael?
Nawr p'le maer achau, uchel raddau,
P'le mae eu titlau a'u henwau hwy?
P'le mae'r anrhydedd? ond cwbl wagedd
Nodi eu mawredd;—nid yw mwy!

6 Dyma weryd milwr dewrfryd
A rodd ei fywyd;—arwydd faith
O'i galondid yn mhlaid rhyddid,
Fel un diwyd yn ei daith;
Ca'dd goffadwriaeth o'i farwolaeth
A'r hyn a wnaeth eu rhoi yn wych;

Ond er addurno'r maen sydd arno,
Wele' drwyddo waela' drych!
Os bu'n hynod ei awdurdod
Trwy iawn glod yn trin ei gledd;
Prin y ca'dd feddiant yn ei lwyddiant,
Na dim o'i fwyniant;—dyma ei fedd.

7 Yn agos yma mae bedd Amelia,
Blodau'r dyrfa, hardda i'w hoes;
Benyw o ddygiad boneddigaidd,
Llariaidd, ac addfwynaidd foes;
Un rinweddol, garedigol,
Lân odiaethol, enaid wých;
Deallus, enwog, oi dull a'i synwyr
I fil o edrychwyr oedd fel drych:
Ail i seren oleu, siriol,
Neu wawr wybrenol f'ai gerbron;
Ond cyn cyrhaeddyd canol-ddydd bywyd
Y darfu hyfryd yrfa hon.

8 Wele'n frythion enwau'r meirwon,
Fel rhyw arwyddion rhyfedd iawn,
I'w darllen weithian, mawr a bychan,
Pob gradd ac oedran yma gawn:
O'r fath gymysgfa welir yma,
Yn y dyrfa, hynod yw:
Yr hèn a'r ifanc yn yr afael,
Yr isel gyda'r uchel ryw:
Y penaethiaid gyda'n deiliaid
Yn sal weiniaid, isel wawr:
Pawb, heb awydd, fel eu gilydd,
Yn huno'a llonydd yn y llawr.—

9 Yma y gorwedd rhyw anrhydedd;
Achau bonedd sydd uwch y bedd:
Fe all mai enwog, wŷr ardderchog.
Neu annrhugarog iawn eu gwedd.
Os bu rhai'n crynu rhag eu gallu,
A'u hanrhydedda megis Duw;
Ond, O, mor wagedd nerth a mawredd,
Ac yn y diwedd waned yw!

Mae eu hawdurdod wedi darfod,
Dacth diwedd nôd i'w hammod hwy:
Beth bynag oeddynt, yn awr nid ydynt,
Ac ni ofnir mo honynt mwy.—

10 Ddoe roedd gweision, ddewraidd gysur,
I'w gwilio'n brysur, eglur yw;—
Heddyw'n llymach a thylotach;—
Heb gyfeillach neb yn fyw:
Doe yn foethus, nid yn fethiant,
Yn porthi eu chwant a'u trachwant rhydd,
Hedyw is daear, hawdd ystyried,
Yn fwyd y pryfed, ofid prudd:
Doe rhoi sidan yn drwsiadus
I'w gwisgo'n barchus, ddawnus ddoeth,
Heddyw eu teiau ydyw'r beddau,
Heb un edau, bawb yn noeth.

11 Ddoe'n barablus, anrhydeddus,
O, mor bwyllus, a mawr barch!—
Heddyw'n tewi, trwm yw sylwi,
Wedi oeri yn yr arch;
Ddoe'n ddiddanus wŷr llwyddiannus,
A feddai'n barchus foddion lyd;—
Heddyw heb geisio na dymuno
Dim o hono, ond ei hyd:
Ddoe'n fuddogol; heddyw'n farwol:
Ddoe yn nerthol; heddyw'n wan:
Ddoe a'u gallu'n ymddyrchafu;
Heddyw'n llechu yn mhridd y llan.

12 Yma, etto, mae'n gorphwyso
Un i'w gofio'n enwog wych,
Gwr oedranus, nerthol, grymus,
O, mor druenus ydyw'r drych!
Ac os ei lendid a'i gadernid
A lwyr folid; wele'r fan!
Nid oes sirioldeb yn ei wyneb,
Na chwaith wroldeb yn ei ran:
Os clod enillodd ffordd y cerddodd,
I lawr fe wyrodd ar ei ol:

Os doeth a chywir, prin y sonir:
Fe'n awr ni pherchir fwy na'r ffol.

13 Yn awr y cofiais am un a hoffais;
Ef nis gwelais fynwes gu,
Ar foreddydd yn rhodio'r maesydd,
A'i ofal beunydd, fel y bu.
Pa beth a'i daliai? Pa'm yr arhosai:
Neu y llwyr oedai'n y lle'r aeth?
Nid oedd o'i allu, neb yn gofalu,
Mwy am ei denlu:—yma daeth.
Ai marw ydwyt? O, mor wywedig
A darfodedig fu d'yrfa di!
'Rwyf finau'n canfod fod fel yn barod
Yma feddrod i myfi.—

14 Can i mi ddechrea darllain enwau,
A llyth'renau wrth eu rhi,
Sydd oll yn traethu am farw a chladdu,
Gwir i'w gredu, garw gri:
Pwy mor gynar yn y ddaear,
Er mawr alar, yma a roed?
Bachgen glandeg sy dan y garreg,
Dyna'i adeg, deunaw oed.
A ydyw'n dawel wedi dianc
Wr mor ifanc ammeu 'rwy'.
Ond dyma'i benw'n dweud yn groyw
Ni ddaw o blith y meirw mwy.

15 Gellir tybio ei fod yn addo,
Rhodio, a llwyddo ar hyd y llawr;
Gwel'd ar ei gyfer wlad o bleser
Yn ei gwychder, enwog wawr:
Wrth weld mor fwynion i'w ddych'mygion,
Bob cysuron loywlon lan,
Addo i'w galon ddiogelwch,
A phob rhyw heddwch iddo i hun.
Ond cyn i'r blodau ddwyn y ffrwythau,
Annelodd angau anwylaf ddyn;
A chyn meddiannu'r hyn oedd i'w garu
Daeth yma i lygru'n wael ei lun.


16 Ai dyma gyflwr y gorthrymwr,
Ac erlidiwr gwyr ei wlad?
Ai yn y llwch hwn y llechodd,
Er a estynodd ar ei 'stad?
Hwn a dyrchafwyd ac a ofnwyd:—
Ai hyn a roddwyd yn ei ran,
Ar ol iddo ymlafurio,
I flno a thramgwyddo'r gwan?
Ac os gormesu, a gorthrymu,
Yn ddifrawychu, oedd yn ei fryd;
Fe ddaeth atalfa ar ei yrfa,
A'i enw a bydra yn y byd.

17 Yma claddwyd gŵr a garwyd:
Hwn a barchwyd yn y byd:
Ac am ei ddoniau, a'i rinweddau,
Ei goffhau a gaiff o hyd:
Ei onestrwydd, a'i ddiniweidrwydd,
A'i addasrwydd yn ei ddydd,
Ei dosturi, a'i haelioni,
Fel yn siampl ini sydd:
Hwn fu'n gofalu i gyfranu,
Ac yn achlesu gwan a chla',
A ga'dd anrhydedd gwell na mawredd,
Yn y diwedd,—enw da.—

18 Os wyf yn dirnad iawn ddëongliad,
Neu wir goffhad yr argraff hon,
Mac'n arwyddo damwain eto,
A gair i friwo'r gywir fron,
Am un roes siamplau o'i ddyoddefiadau
O fil o rwystrau fel yr aeth ;
Ac ar fôr tawel, fel yn ddiogel,
Ai swyddau'n uchel, suddo wnaeth,
Os oedd ei lygad ar ddyrchafiad,
A dyfal fwriad fel i fyw;
Ond, O, 'r fath somiant i'w ddymuniant
Yn more i lwyddiant marwol yw.

19 P'a beth a dybiaf,—mi a sylwaf,
Ai onis clywaf â sain clych,

Lais yn datgan rhybudd weithian
O ddirgel fan i'r gwan a'r gwych?
"O na fai dynion yn wir ddoethion!
O'u llwybrau trawsion, O, nas tro'nt
I ystyr sylwedd y gwirionedd
Am eu diwedd!—yma y do'nt."
O, clywn yr addysg lawn a roddir,
Fe a'n dysgir yn ofn Duw;
Ac annogaethau at rinweddau
A roi'r o'r beddau i'r rhai byw.

20 Ust! beth yw'r gweiddi o ddwys dosturi
A chyhoeddi och o hyd?
Y fath annghydfod, trueni a thrallod
A barodd pechod yn y byd:
Dwyn marwolaeth fel trefdadaeth
I ddynoliaeth oedd yn iach;
Dwyn clefydau, a chystuddiau
Yn fôr o boenau ar fawr a bach.
Pob rhyfeloedd, a therfysgoedd,
Yn eu heithafoedd a wnaeth ef;
Difrodi miloedd o deyrnasoedd,
A dinasoedd dan y nef.—

21 Os ca'dd marwolaeth trwy fradwriaeth
I'w allu helaeth oll o hyd
Hir deyrnasu ar druenision,
A'u dwyn yn gaethion dano i gyd;
Ond, wele un â duwiol anian!
Er marw ei hunan, fei mawrhaed,
I lwyr orchfygu angau a'i allu,
A'i dynn i drengu dan ei draed.
Caiff pawb sydd ynddo yn melus huno
Eu harddel ganddo'n eiddo'r nef;
A chodi o'r gweryd i ddidranc fywyd
Eto i wynfyd ato Ef.

22 Mi edrycha' pwy sydd yma
Yn y gladdfa gwaela'i gwedd,
Plentyn bychan, deufis oedran:—
Daeth hwn yn fuan iawn i'w fedd;

Cyn profi o chwerwedd, na melyswedd
Y byd, a'i ffals orwagedd ffol,
Ei law, fel arwydd o'i atgasrwydd
Ato, 'n ebrwydd tynai'n ol:
A chyn anturio ei lestr iddo,
Na mordwyo dros un don,
F'aeth yn ddiangol i'r porthladd nefol
O sŵn y ddaear hudol hon.

23 Clywaf alar heb ei gymmar,
Neu waedd dreiddgar oddi draw,
Gan deulu cyfan, mawr a bychan,
Noethion, egwan, wyth nen naw:
Trom ochenaid plant ymddifaid,
Au clwyf o'u henaid, clywaf hwy,
Ac er mor anodd, fel yn cyd adrodd:
"O'n tad a'n maethodd nid yw mwy!
Yn iach gysuron, na chyfeillion;
Yn wael a noethion wele ni,
A didderbyniad!" na mae Duw'r cariad
Yn Dad a cheidwad eto i chwi!—

24 Yn awr mi wela fod rhai yma
Ddiwedda'u gyrfa'n ddeuddeg oed:
Plant oedd hyfrydwch rhieni a'u tegwch,
O'n blaen yn dristwch blin a droed;
Er addo'n bwyllus, a chysurus
Y byddant happus ynddynt hwy:
Ond angau a'u siomodd, ac a'u dygodd,
Ac ni ail amododd mwy.
O, or weigion yw dych'mygion,
Ac amcanion dyfnion dyn!
Holl flodau llwyddiant a ddiflanant,
A disiomiant nid oes un.

25 Diau'n gorwedd o dan y garreg
Hon mae geneth wiwdeg wedd,
Fu'n dilyn arfer y byd, a'i wychder.
Ond ple mae'i balcher hi'n y bedd?
Ple mae'r gruddiau glán eu moddau,
Oedd megis delwau yngolwg dyn!

Trwm fod ei thegwch a'i phrydferthwch
Yn troi yn llwch truana llun.
Os amryw ddenodd a'i hymadrodd,
Ei geiriau a'u siomodd garw swydd:
Er maint a'i hoffodd, un ni lwydddodd:
Hi a ymguddiodd yma o'i gŵydd.

26 Wele yma fam anwylaf,
O ddawn addfwynaf oedd yn fyw:
Ei phlant bychain sy'n wylofain;—
Eu mynych lefain mwy ni chlyw,
Er aml ddyfod at ei beddrod
Mewn hoff ammod; ond mae'n ffol
Iddynt ddisgwyl wedi eu harwyl,
Y fath un anwyl fyth yn ol.
Ewch, ystyriwch, (pa'm yr wylwch?)
Mai buan y dychwelwch chwi,
I'r distawfedd, i gyd orwedd,
Eto i'w hannedd, ati hi.

26 P'run wyf ai tybied, ynte clywed
(O, mor galed!) a mawr gŵyn
Un yn d'wedyd: "O, nid ydyw
I'w sylwi'n fyw Cicelia fwyn!
A'i yna y gorwedd un a gerais,
Neu a hoffais i o hyd?
Ai hyn fu diwedd ei hanrhydedd,—
Eu dwyn i'w bedd flodeuyn byd?"
Dos wylofus ddyn, hiraethus,
A galarus yn ei glwy':
Hon a'th garodd a'th lwyr anghofiodd:
Gwel y modd:—nag wyla mwy.—

27 Trwm yw sylwiad o'r fath amgylchiad,
Ac ymddattodiad cariad on:
Trymach eto dyfal gofio,
A myfyrio am a fu.
Megis cysgod wedi darfod,
I bori syndod, heb wir sail,
Yw'r byd, pan gollir cyfaill cywir:
Yn hwn ni welir un o'i ail.

Ond O, am gyfaill uwchlaw ereill,
Pan gollo y llaill y gallu o'u llaw!
Y Cyfaill gorau yn mhob cystuddiau;
Hwn trwy angau'n ddiau a ddaw.

28 Dyna garreg—o dani y gorwedd
Ddyn y llynedd oedd yn llon."
Yr wyf yn cofio un yn cwyno
Wrth fynych deithio heibio i hon:
"Yn iach im' weithian ddim ond cwynfan,
Un man diddan mwy nid oes:
Fy holl hyfrydwch a'm dedwyddwch
Yn ddu dristwch heddyw a droes.
Y llysiau'n gynar ddo'nt o'r ddaear
Yn bur hawddgar eb yr hi;
Ond nid yw mhriod byth i ddyfod
Eto o'i feddrod ataf fi."

29 A'i byth a dd'wedais? mi gamsyniais,
Ac a bwysais yn o bell:—
Caf wel'd fy ngharwr ar wedd ei Brynwr,
A rhyw gyflwr llawer gwell:
Un angel hawddgar a'i geilw o'r ddaear,
Ac ni bydd mud na byddar mwy;
Ni all lleng oleu o angylion
Gwedi yn hon ei gadw'n hwy.
A phan y cyfyd ef o'r gweryd,
Er mor drynllyd yma yw'r drych,
Caiff wisgo purdeb anfarwoldeb
I drag'wyddoldeb agwedd wych."

30 Dacw y lleoedd y bu tyrfaoedd
Yn wylo ar gyhoedd lawer gwaith,
Wrth iddynt gyrchu rhyw un o'a teulu
I dduoer letty'r ddaear laith:
Rhai'n hiraethgar am frawd neu gymar.
A chwerwaf alar, neu chwaer fwyn;
Neu rieni am blant yn gweiddi;
Plant am rieni, o'u colli, a'u cwyn;
Ac amryw'n bruddion am gyfeillion;
(Tyst fu eu cwynion, tostaf cûr)

Er hyny gorfod eu rhoi'n y beddrod,
Ac er eu bod i'w caru'n bur.—

31 Pa faint sydd yma yn y gladdfa,
A fu i'w gyrfa'n fywiog iawn;
Ac er hyny gair o'i hanes,
Tra maen, a chofrestr mwy ni chawn!
Os pobl enwog, a galluog,
A fu galonog efo'u gwlad;
Nid oes wybodaeth o'u gwroliaith,
Na dim ystyriaeth—dyma'u 'stad.
Wel gorphwyswch mewn llonyddwch
Yn nhawelwch llwch y llawr;
A boed agweddiad eich adgyfodiad
A'i lewyrchiad fel y wawr.

32 Ofer canu a dych'mygu:
Y bedd yw'n gwely; (byddwn gall,)
Caethion, rhyddion, bychain, mawrion,
A gwyr beilchion, garw ball,
Pridd yw'n defnydd fel ein gilydd:
Y dewraf sydd i ni fydd ef fawr;
I'r pridd dychwelwn, pryd na thybiwn;
A llwyr y llithrwn oll i'r llawr.
Mae'n hamser eto heb gwbl dreulio:
O gwyliwn ymorphwyso'n ffol:
Os â fe ymaith, ni ddaw eilwaith,
Beth anwylfaith, byth yn ol.—

33 Dyma eto dyrfa'n dyfod;—
A mwy o syndod imi sydd;
Gan mor ddiddysgwyl weled arwyl
Un oedd anwyl yn ei ddydd.
Wele'i deulu'n cyd ddynesu,
Gan alara ag unol lef,
A chofio'n ddyfal mor ddianwadal
Oedd ei dadol ofal ef.
Wele'u dagrau megis ffrydiau
Yn gwlychu eu hwynebau'n awr,
Tra mae y marw yn trwm orwedd.
I'w uno â llygredd yn y llawr.—


34 Clywaf chwerw waedd y weddw:
O, fe fu farw mhriod mwyn;
A'i roi mewn daear, mawr yw ngalar;
Am fy nghymmar mae fy nghwyn,
Megis dyfnion ddwys archollion
I fy nghalon yw fy nghur.
Darfu ammod dyddiau mhriod,
Mwy na'n bod, oedd imi'u bur."
O, bydd gysurus, weddw alarus
A diddanus yn dy Dduw:
Fe ŵyr dy gyflwr: mae dy Achubwr
I ti'n farnwr eto'n fyw.—

35 Daethum weithian, wedi'r cyfan,
I le dyddan dan law Duw,—
Do, i'r llanerch y darllenir,
A rhybuddir y rhai byw
I ochelyd llwybrau ynfyd;
I 'mroi'n ddiwyd am y rhan dda;
A thrwy amynedd hyd y diwedd,
Am y rhinwedd a'u mawrhâ:
Ac y bygythir y rhai anwir,
Mai hwy a gospir am eu gwaith,
Ac y bydd y duwiol yn drag'wyddol
Gadwedigol wedi ei daith.




DIWDEDD



Argraffwyd gan M. Jones, Caerfyrddin.

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.