Myn Mair
Gwedd
- Fy hatling offrymaf dros enaid dan glo,
- fy nghanwyll offrymaf yn eglwys y fro,
- ’r offeren weddïaf saith seithwaith yn daer
- er cadw ei enaid anfarwol.
- Myn Mair, Myn Mair.
- Sant Pawl a Sant Peder, holl seintiau y nef,
- a Mair, Mam y Duwdod, eiriolwch yn gref
- dros iddo gael heddwch a gwerthfawr ryddhad,
- paradwys agored, a breichiau ei Dad.
- Myn Mair, myn Mair.
- Mam Iesu’r brydferthaf o ferched y byd,
- Morwynig Frenhines y nefoedd i gyd,
- dlos lili y dyffryn, gwiw rosyn y nef,
- eiriola dros enaid fy nghyfaill yn gref.
- Myn Mair, Myn Mair.