Neidio i'r cynnwys

Mynwy yng Nghymru (Cymru Cyf X Rhif 57)

Oddi ar Wicidestun
Mynwy yng Nghymru (Cymru Cyf X Rhif 57)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cymru (cylchgrawn)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Sir Fynwy
ar Wicipedia

Mynwy yng Nghymru.

PAHAM y gwna Cymry gynorthwyo Saeson anwybodus i osod sir Fynwy yn Lloegr? Gwelir rhai awdurdodau, a ddylent wybod yn well, yn ysgrifennu "South Wales and Monmouthshire"—"Deheudir Cymru—a sir Fynwy!" Onid gwell fyddai anfon cenadaeth i ddechreu i Gaerdydd i oleuo arweinwyr dysgedig y Brif Ysgol yno ynghylch perthynas Mynwy a Chymru? Y mae yn wir fod sir Fynwy, er mwyn cyfleusdra i farnwyr ei Mawrhydi, wedi ei gosod yng nghylchdaith Rhydychen, ac fod Rhydychen yn Lloegr; ond am yr un rheswm, ac i'r un amcan, y mae sir Gaerlleon wedi ei gosod yng nghylchdaith Gogledd Cymru, ond pwy erioed glywodd son am neb yn ddigon ffol i geisio gwneyd y sir honno, oblegid hynny, yn rhan o'r Dywysogaeth? Y mae yn hen bryd dileu y ffregod ffol, a di-ystyr, "South Wales and Monmouthshire," ac yn bendifaddeu, ni ddylai llywodraethwyr Prif Ysgol Cymru roddi awdurdod i beth o'r fath. Arferai Arglwyddes Llanofer ysgrifennu ar ei llythyrau i'w chartref bob amser, "Monmouthshire, South Wales," er mwyn troi yn ol y dyb ffol o fod Gwent Gymreig yn rhan o Loegr. Paham na welai holl Gymry Mynwy yr un fath a hi, a phob Cymro fyddo yn ysgrifennu i Fynwy? Gwneler hyn i ddechreu, a defnyddier moddion ereill hefyd er cadw Cymru yn gyfan. Y mae Gwent mor Gymreig a Morgannwg, Cymry yw y trigolion, a Chymreig yw enwau ei hafonnydd, ei mynyddoedd, ei phentrefydd, a'i threfydd, ac y mae bob amser, hyd ddirywiad yr oes ddiweddaf, oes ag y bu agos i'r teimlad Cymreig ddarfod a marw ynddi, wedi arfer cael ei chyfrif yn un o "dair sir ar ddeg Cymru."

TWYNBARLWYN.[1]

Nodiadau

[golygu]
  1. Gan nad oes cyfeiriad at "Twynbarlwyn" mewn unrhyw erthygl cylchgrawn na phapur newyddion arall, gellir tybied mae golygydd y cylchgrawn, Owen Morgan Edwards, yw'r awdur.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.