Neidio i'r cynnwys

Nansi'r Dditectif/Cyfarfyddiad Anghysurus

Oddi ar Wicidestun
Y Ddwy Chwaer Eto Nansi'r Dditectif

gan Owain Llew Rowlands

Ymchwiliadau Nansi

PENNOD VI
CYFARFYDDIAD ANGHYSURUS

ER holl benderfyniad Nansi, llithrai'r dyddiau heibio heb lygedyn o oleuni iddi ar dynged ewyllys Joseff Dafis. Methai yn lân â chael allan a oedd y Morusiaid wedi cael gafael ar yr ewyllys a'i peidio. Er na soniai air wrth ei thad, gwyddai ef yn dda ei bod yn pryderu.

"Yr ydych yn poeni ynghylch y chwiorydd," meddai wrthi un diwrnod. "Ofnaf eich bod yn cymryd eu helbulon yn ormod o ddifrif. Nid oes dim fedrwch ei wneud ynglŷn â'r ewyllys. Felly, y peth gorau ydyw anghofio amdani. Ychydig iawn ydych wedi bod allan o'r tŷ er pan fu'r chwiorydd yma. Ewch i siopa, neu ewch am dro i symud tipyn ar eich meddwl."

"Ydwyf, yr wyf wedi bod yn meddwl llawer am Besi a Glenys," cyfaddefai Nansi. "Yr oeddwn mor sicr y gallem wneud rhywbeth yn eu ffordd."

"Rhowch orffwys i'ch meddwl ac efallai cewch weledigaeth well," anogai ei thad, yn garedig.

Ar ôl cinio aeth Nansi am dro i'r dref. Yr oedd y tŷ ychydig o bellter oddi wrth Trefaes, a cherddai Nansi'n gyflym mewn ymdrech i chwalu'r cymylau oddi ar ei meddwl. Treuliodd ychydig amser yn edrych ffenestri'r siopau. Aeth i mewn i un masnachdy a cherddodd o gwmpas i edrych beth allai brynu. Yn sydyn canfu ei hun yn dilyn dwy eneth, ac adwaenodd hwy ar unwaith. Arafodd ei cham.

"Gwen a Phegi Morus. Nid oes arnaf eisiau eu gweld hwy. Af i lawr yr ochr arall rhag i mi orfod eu cyfarfod wyneb yn wyneb."

Ond ni chafodd siawns i wneud fel y bwriadai. Gwelodd Gwen yn taro yn erbyn y cownter wrth fynd heibio iddo. Tynnodd ei llawes fâs fawr yn deilchion i'r llawr er mawr fraw i Nansi a phawb arall o gwmpas y llecyn hwnnw.

Edrychodd Gwen ar y darnau hyd y llawr. Cododd gwridi'w hwyneb. Yna gydag osgo falch cerddodd ymlaen. "Esgusodwch fi, miss, rhaid i mi ofyn i chwi dalu am y cawg addurn yna," ebe'r eneth ifanc ofalai am yr adran honno o'r siop, yn foesgar.

Trodd Gwen yn chwyrn a syllodd yn wawdlyd arni. "Talu amdano?" llefai, "nid myfi a'i torrodd."'

"Ond gwelais chwi yn ei daro i lawr oddi ar y cownter," atebai'r eneth yn ddyryslyd.

Erbyn hyn yr oedd gofalwr y siop wedi cyrraedd, ac amryw o gwsmeriaid wedi tyrru o gwmpas. Nesaodd Nansi hefyd yn anymwthgar i'r fan.

"Dywed yr eneth ddigywilydd hon mai myfi dorrodd y cwpan," bloeddiai Gwen yn sarrug a'i hwyneb llidiog wrth wyneb y gofalwr, "nid oeddwn yn agos i'r cownter ar y pryd. A minnau'n ei gweled â'm llygaid fy hun yn ei tharo i lawr. Onid felly yr oedd, Pegi?"

Cadarnhaodd Pegi yr anwiredd creulon yn ddibetrus. Edrychodd y gofalwr yn amheus o'r chwiorydd at yr eneth, ac ar y chwiorydd drachefn. Yr oedd yr eneth ifanc druan heb air i'w ddweud. Yr oedd y cyhuddiad mor annisgwyliadwy.

Gwelodd y gofalwr mai camgymeriad difrifol fyddai beio cwsmeriaid da ar gam, ac am hynny tueddai'n llwfr i adael y bai orffwys ar yr eneth. Plygodd i lawr i archwilio'r darnau.

"Rhaid i rywun dalu am y golled hon," eb ef yn chwyrn, "yr oedd yn ddernyn gwerthfawr."

"Gedwch i'r eneth dalu amdano o'i phoced ei hun," atebai Gwen, mor chwyrn ag yntau. "Hi fu ddigon bler i'w daro i lawr, a hi ddylai dalu amdano."

Yr oedd yr eneth yn fud. Yr oedd wedi cynhyrfu gormod i ddweud yr un gair i amddiffyn ei hun. Gwelodd Nansi fod y gofalwr yn petruso rhwng dau feddwl. Teimlai ei fod ar dynnu'r cyhuddiad yn erbyn Gwen yn ôl, a'i fod ar fin ymddihaeru iddi. Gwthiodd Nansi'n mlaen i ganol y dyrfa.


"Disgwyliai Nansi'n ddistaw tu ôl i'r gwrych."
Gweler tudalen 44


"Yr ydych yn camgymryd, Miss Morus," meddai'n dawel, gan edrych yn syth i lygaid Gwen, "gwn i sicrwydd nad yr eneth a dorrodd y cwpan, canys gwelais y ddamwain fy hunan."

"Pwy hawl sydd gennych chwi i ymyrryd?" gofynnai Gwen yn ffromllyd, "nid yw ddim o'ch busnes chwi."

"Efallai nad ydyw, ond ni allaf edrych arnoch yn cyhuddo'r eneth ddiniwed hon o'r hyn nas gwnaeth.

"A welsoch chwi'r peth yn digwydd?" gofynnai'r gofalwr.

"Do," ebe Nansi'n bendant. "Fel yr elai Miss Morus heibio'r cownter, cydiodd ei llawes yn y llestr."

"Anwiredd noeth," meddai Gwen yn ddirmygus, "ond yr wyf wedi blino ar yr ymdaeru yma. Beth oedd pris y peth?"

Tynnodd y gofalwr daflen o'i boced. "Tair punt," meddai.

"Beth?" gwaeddai Gwen, ei llais erbyn hyn i'w glywed ym mhob rhan o'r masnachdy, "ni chewch byth deirpunt gennyf am hen declyn fel yna. Ni thalaf fi mohonynt." "Nid dernyn cyffredin mohono, miss, ac ofnaf y bydd raid i mi bwyso arnoch i dalu y pris ofynnir amdano."

"A wyddoch chwi pwy ydwyf?" gofynnai Gwen yn ffroenuchel.

"Mae'n debyg nad oes neb yn y dref heb adnabod Mr. William Morus," ebe'r gofalwr yn lluddedig.

"Y mae fy nhad yn berchen

"Nid yw yn berchen y siop hon," ebe'r gŵr ar ei thraws, wedi colli ei amynedd erbyn hyn. "Os na thelwch am y fâs, bydd yn rhaid imi alw'r awdurdodau i mewn."

"Ni feiddiech," ebe Gwen yn fygythiol, "ni chefais i erioed y fath sarhad.'

Ar hyn sibrydodd Pegi rywbeth yng nghlust ei chwaer. Lliniarodd llais Gwen.

"Dyna fe," meddai, "talaf am y dernyn, ond gellwch fentro y clywch ychwaneg am hyn." Yna trodd yn ffyrnig ar Nansi, "Nid wyf wedi gorffen gyda chwithau ychwaith. Cewch chwithau ddioddef."

Ni atebodd Nansi yr un gair. Er fod ei gwaed yn berwi, llwyddodd i wenu'n hamddenol, a ffyrnigai hyn y ddwy chwaer fwy na dim. Talodd Gwen y teirpunt a cherddasant allan o'r siop.

Byrlymiai'r dagrau i lygaid geneth y siop. Gafaelai'n dynn yn llaw Nansi gan ddiolch iddi.

"Ni fedraf byth ddiolch i chwi," meddai, mewn llais crynedig. "Ni fuasai neb arall wedi sefyll trosof fel yna. Buaswn yn sicr o golli fy lle onibai amdanoch chwi."

"Na hidiwch yn awr," atebai Nansi, "mae'r cwbl trosodd yn awr. Gwelais Gwen Morus yn taro'r peth i lawr, ac yr oedd yn rhaid i mi ddod ymlaen i gadw chwarae teg i chwi.'

"Ofnaf y gwnewch elynion i chwi eich hun wrth fy amddiffyn," ebe'r eneth."

"Peidiwch poeni am hynny. Ni fu'r ddwy chwaer erioed yn gyfeillion mawr i mi.'

"Efallai hynny. Ond welsoch chwi wyneb yr hynaf o'r ddwy? Gellwch fentro y ceisiant eu gorau i dalu yn ôl i chwi ryw ffordd neu'i gilydd."

"Gadewch iddynt geisio," gwenai Nansi, "os bydd hynny rywfaint o gysur iddynt. Mae genethod yr ysgol wedi hen arfer â'u bygythion, a phrin neb yn cymryd yr un sylw ohonynt.

Ni feddyliodd Nansi lawer am y peth, ond gan fod llawer o'r dyrfa yn y siop yn dal i syllu arni, a hynny'n annymunol ganddi, prysurodd allan o'r siop, a phenderfynodd yr elai adref drwy'r parc.

"Mae fy ngwaed yn berwi bob tro y meddyliaf am y Morusiaid yna yn cael arian Joseff Dafis," meddai wrthi ei hun, "yn enwedig pan gofiaf cymaint yw angen Besi a Glenys. Yr oedd ymddygiad Gwen at eneth y siop yn warthus."

Croesodd Nansi'r parc yn gyflym. Arhosodd ennyd wrth y llyn ac o edrych ar hyd y llwybr gwelai Gwen a Phegi yn eistedd ar un o seddi'r parc mewn ymddiddan difrif. Eisteddai'r ddwy wyneb yn wyneb, yn amlwg wedi anghofio pawb a phopeth. Dywedai rhywbeth wrth Nansi mai hi oedd testun y sgwrs. Os oedd am ddilyn ei llwybr byddai yn rhaid iddi basio heibio iddynt. "Os gwelant fi mae'n debyg y byddaf mewn helbul â hwy," meddyliai Nansi. "Gwn yn eithaf da na allaf gadw fy nhymer. Gwell fyddai i mi fynd dros y gwrych yn y fan yma, a cherdded ar hyd-ddo, a chroesi drosto drachefn y tuhwnt iddynt.'

Yr oedd Gwen a Phegi mor ddwfn yn eu hymddiddan fel na sylwasant ar Nansi o gwbl. Gan chwerthin ynddi ei hunan, neidiodd Nansi dros y gwrych, a cherddodd tu ôl iddo cyn ddistawed â llygoden. Y peth diwethaf ym meddwl Nansi oedd gwrando ar sgwrs y chwiorydd. Cerddai mor ddistaw er hynny fel y daeth eu geiriau yn eglur hollol i'w chlustiau. Dau air yn unig oedd yn ddigon i'w throi yn ddelw. Safai fel pe wedi ei pharlysu. Y ddau air a glywsai oedd "Joseff" ac "ewyllys."

"Ho," ebe hi, "siarad am yr ewyllys aie? Efallai y clywaf yn awr rywbeth am yr ewyllys goll a'r hyn ddigwyddodd iddi.'

Ni fuasai Nansi'n breuddwydio am wneud y fath beth â neb arall. Ond y tro hwn teimlai fod ei chydwybod yn berffaith glir. Cripiodd yn wyliadwrus yn nes i odre'r gwrych i wrando am ychwaneg. Yr oedd y gwrych yn drwchus, a thrwy wyro i lawr, medrai glywed geiriau'r ddwy chwaer yn eglur, tra parhâi hi yn anweledig iddynt hwy.

Curai ei chalon yn gynhyrfus. O na chlywai rywbeth i brofi fod y Morusiaid wedi amddifadu Besi a Glenys o ran o ffortiwn Joseff Dafis.

Nodiadau

[golygu]