Nansi'r Dditectif/Ymwared
← Yng Ngafael Lladron | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Y Dyddlyfr → |
PENNOD XV
YMWARED
FEL y ciliai sŵn traed y lleidr daeth ofn a dychryn dros Nansi druan. Daeth iddi fod y lleidr wedi bod cystal â'i air. Yr oedd ynghlô yn y cwpwrdd ac yr oedd ymwared yn annhebygol iawn. Bellach nid oedd ganddi ond edrych ymlaen at lwgu'n raddol.
Yr oedd wedi cynhyrfu gormod yn yr ysgarmes â'r lleidr i fedru meddwl yn glir iawn. Curai'n orffwyllog ar y drws â'i dyrnau cyn iddi sylweddoli nad oedd hynny ond ffolineb.
"Help, help," gwaeddai â'i holl egni. Daeth rhyw don o wallgofrwydd anobaith drosti a rhoddodd ffordd i'w theimladau. Nid oedd ryfedd i Nansi dorri i lawr am unwaith. Yr oedd ei threialon wedi ei threchu am ychydig. O'r diwedd, wedi llwyr ddiffygio, llithrodd yn swp cyn nesed i'r llawr ag y caniatai maint cyfyng y cwpwrdd iddi.
"Efallai y daw'r dynion yn ôl, ac y gollyngant fi allan," meddai'n obeithiol. "Ni wnant byth adael i mi yma i lwgu." Ond hyd yn oed pan oedd meddyliau fel hyn yn deffro ei gobaith clywai sŵn modur yn cychwyn, a gwyddai nad oedd obaith iddi o'r cyfeiriad hwnnw. Yr oedd y lladron creulon wedi ei gadael i'w ffawd.
Yr oedd y tŷ yn ddistaw fel y bedd. Er nad oedd gan Nansi obaith o gwbl fod neb yn agos i'r bwthyn, daliodd i waeddi am gynorthwy. Yr unig ateb oedd atsain ei llais ei hun yng ngwacter y tŷ.
"O, na bawn wedi dweud wrth Rona lle yr oeddwn yn mynd," gofidiai'n ddigalon." Cred hi fy mod gartref erbyn hyn. Cred fy nhad fy mod yn ddiogel yn y gwersyll am wythnos ymhellach. Nid oes neb a feddylia fod dim o'i le ynglŷn â mi."
Yr oedd pethau rhyfedd yn rhedeg drwy ei meddwl. Beth ddaeth o'r gofalwr? Awgrymai'r lleidr fod rhyw beth ofnadwy wedi digwydd iddo, a gallasai Nansi'n hawdd gredu hynny.
Ail ddechreuodd ddyrnu ar y drws. Ceisiodd ei wthio â'i chorff. Yr oedd ei migyrnau yn gwaedu a'i chorff yn gleisiau duon.
Tawelodd am ysbaid eto. Dechreuodd feddwl. Ni fu erioed mor agos i wylo'n ddilywodraeth. "Rhaid imi ddal arnaf fy hun," meddai, "ni wna dagrau fy helpu. Mae rhyw ffordd allan oddi yma a fy ngwaith i yw ei ganfod." Yn raddol yr oedd Nansi yn dyfod ati ei hun. Daeth syniad newydd i'w meddwl. Dechreuodd deimlo â'i dwylo yn y cwpwrdd fel o'r blaen. Tynnodd amryw o ddilladau am ei phen, nes creu llwch annioddefol. Teimlai'n enbyd oddi wrth y gwres yn y cwpwrdd. Yn sydyn, wrth ymysgwyd, trawodd ei phen mewn rhywbeth caled. Teimlodd amdano â'i llaw a thybiodd mai darn o bren fel ffon braff ydoedd yn gafael ynddo. Ar hwn mae'n debyg y crogid y dillad.
"Pe cawn hwn yn rhydd, efallai y medrwn wneud defnydd ohono," meddai Nansi'n obeithiol, "y mae'n teimlo'n gryf a phwrpasol."
Rhoddodd Nansi ei holl bwysau arno, ac wedi ymdrech galed daeth un pen yn rhydd. Gwaith hawdd wedi hynny oedd rhyddhau y pen arall ac yn fuan yr oedd y pastwn yn ei llaw.
Ceisiodd ei ddefnyddio fel trosol, drwy ei wthio rhwng gwaelod y drws a llawr y cwpwrdd. Oherwydd y lle cyfyng cafodd gryn drafferth i gael ei throsol i waelod y cwpwrdd i ddechrau. Gwelodd wrth iddi bwyso â'i thraed ar waelod y drws, y gallai gael trwyn y trosol oddi tano.
"Yn awr amdani," meddai Nansi wrthi ei hun. oedd ei gwroldeb yn cryfhau bob munud, ond teimlai'n rhyfeddol o gysglyd a diymadferth. Yr oedd yn demtasiwn gref iddi gau ei llygaid a chysgu a theimlai ei hun yn llithro'n braf i ryw wlad ddieithr hyfryd. Nid oedd Nansi wedi sylweddoli ei pherygl mwyaf. Nid llwgu oedd yn ei bwgwth yn awr ond mygu yn awyrgylch afiach y cwpwrdd.
Daeth y sylweddoliad iddi fel saeth. Ymdrechodd i daflu'r hunlle oddi arni. Gwnaeth un ymdrech neilltuol i godi pen rhydd y trosol a dygodd y glec sydyn ei synhwyrau yn ôl iddi. Yr oedd y drws ar fin ildio.
A'r nesaf peth a glywodd oedd sŵn traed gwyllt. Rhuthrodd rhywun i'r ystafell a hyrddiodd ei hun ar ddrws y cwpwrdd o'r tuallan. Yr oedd Nansi wedi ei syfrdanu. Ai un o'r lladron oedd wedi dychwelyd i sicrhau nad oedd dianc iddi? Trodd y syniad heibio. Yr oedd y lladron yn rhy gyfrwys i wneuthur hynny. Nid oedd yn debygol y dychwelent i beryglu eu rhyddid eu hunain. Mwy na hynny yr oedd wedi clywed sŵn eu modur yn ymadael. Gollyngodd Nansi'r trosol a churodd yn wyllt â'i dyrnau ar y drws.
"Pwy sydd yna?" gofynnai llais cryf o'r tu allan.
"Agorwch y drws, yr wyf bron mygu yma," atebai Nansi.
"Hanner munud imi gael yr allwedd," meddai'r llais.
Clywodd Nansi'r allwedd yn crafu yn nhwll y clo. Rhoddodd dro. A chyn i neb agor y drws iddi yr oedd Nansi wedi hyrddio ei hun allan o'i charchar.
Gwyddai ar unwaith, heb iddo ddywedyd yr un gair, mai Tom Ifans, y gofalwr, oedd yn ei hwynebu ar lawr yr ystafell. Un edrychiad oedd yn ddigon iddi wybod ei fod dan ddylanwad diod feddwol. Yr oedd yn amlwg ar fin dod ato'i hun, a syllai arni'n hurt.
"O ba le y daethoch chwi?" meddai'n syn. "Beth sydd wedi digwydd yn y tŷ yma?"
"Y cwbl fedraf fi ddweud wrthych yw fod lladron wedi bod yma, ac wedi ysbeilio popeth o werth," atebai Nansi. "Mae'n amlwg nad oeddych chwi ynghylch eich dyletswydd," ychwanegai yn llym.
"Wel, miss, peidiwch bod yn galed wrthyf," ebe yntau, "hyd nes y clywch fy stori. Y bore, daeth rhyw ŵr heibio, a dechreuodd fy holi ynglŷn â'r hafotai yma. Gofynnai a oedd rhai ar werth neu ar osod. Dywedais innau fod hwn ar osod beth bynnag, gan nad oedd Mrs. Morus a'r teulu yn bwriadu dod yma eleni, ac wedi dweud wrthyf am gael tenant iddo os medrwn. Hoffai'r lle yn fawr ac wrth fynd oddi yma, meddai, 'Mae gennyf fodur yn y ffordd. Deuwch gyda mi cyn belled a Thafarn y Gors. Euthum innau ddigon difeddwl, gan mai anaml iawn y caf gyfle i weld neb yma i gael ymgom a gwydryn. Wedi inni gyrraedd y dafarn, rhyw—ddwy filltir o ffordd oddi yma y mae,—galwodd am ddiod. Yfais un gwydryn ac ni chofiaf ddim amdanaf fy hun wedi hynny. Rhyw dri chwarter awr yn ôl deffroais, ac amheuais fod rhywbeth o'i le. Mae'n rhaid fod y cnaf wedi rhoddi rhywbeth yn fy niod i'm gwneud i gysgu. Rhedais yr holl ffordd yn ôl yma, a dyma fi."
"Dyna'r felltith y ddiod yna," ebe Nansi, "ond nid oes amser i siarad am hynny yn awr. Rhaid i chwi geisio cael y lladron i'r ddalfa. Ewch i wneud eich hunan yn barod, a meddyliwch am ryw ffordd i hysbysu plismon.
Aeth Tom Ifans allan â'i ben i lawr. Teimlai Nansi mai dyma ei chyfle olaf i gael gafael ar y dyddlyfr. Aeth at yr hen gloc unwaith yn rhagor. Yr oedd wedi anghofio ei helbulon cyn gynted ag y cofiodd am y dyddlyfr. Agorodd y drws ac edrychodd drachefn i mewn i'r cas. Teimlodd â'i llaw hyd ei ochrau. Oedd, yr oedd hoelen a bach a allasai fod wedi dal y dyddlyfr ar y tu fewn i'r ochr chwith. Methai yn lân a deall beth allasai fod wedi digwydd iddo. Ai tybed ei fod wedi disgyn i lawr yn y fan a'r lle? Ni allai gyffwrdd â'r llawr o'r tu fewn. Yr oedd yn bosibl fod y llyfr yn y fan honno. Ond sut y caffai olau i weled. Yr oedd ei chorff bron yn gwbl tu fewn i'r cloc erbyn hyn. Estynnodd yn is ac yn is. Beth oedd hwnyna? Teimlai â blaenau ei bysedd rywbeth tebyg i fach arall yn is i lawr na'r cyntaf. Gwthiodd Nansi ei chorff i mewn ymhellach eto. Cafodd fantais o hanner modfedd i ymestyn. Teimlai ei bysedd linyn yn crogi oddi ar y bach. Gafaelodd ynddo. Yr oedd rhyw bwysau wrtho. Tynnodd Nansi ef i fyny fel pe bai'n tynnu pysgodyn o ddŵr. Gwingodd ei hun allan o'r hen gloc â'r llinyn yn dynn yn ei llaw. Ac yng nghynffon y llinyn yr oedd llyfryn bychan. Trodd y tudalennau. "O'r diwedd," meddai yn uchel a'i chalon yn curo fel morthwyl. Ie, dyddlyfr Joseff Dafis ydoedd, yn union fel y dywedodd Abigail Owen amdano. Ni fuasai neb wedi ei ddarganfod heb wybod ymha le i chwilio amdano. Hawdd gweled nad dyddlyfr cyffredin mohono. Yr oedd cyfeiriadau at bethau ynddo am gyfnod o amryw flynyddoedd.
"Rhaid cuddio hwn yn ofalus, hyd nes y caf gyfle i'w chwilio yn drwyadl mewn lle diogel," ebe Nansi. "Bydd Tom Ifans yn ôl yn union."
Ar y gair cyrhaeddodd Tom, ac yr oedd Nansi'n falch fod ei hymchwil ar ben cyn iddo ddod ar ei thraws. "Yr wyf wedi cael modur," meddai, "i fyned i lawr i Sarnefydd, ac yno cawn hysbysu'r heddlu.
Aethant allan cyn gynted ag y gallent ac i'r modur â hwy. Modur un o'r cymdogion o'r hafotai ydoedd ac yn digwydd bod ar ei ffordd i Sarnefydd pan ataliwyd ef gan Tom.
Er nad oedd y siwrnai yn hir, ac er y gwyddai Nansi fod y dyddlyfr yn berffaith ddiogel yn ei gwisg, ni allai beidio â theimlo â'i llaw amdano bob yn ail munud.
Wrth fynd i lawr heol y dref, gwelai fodur yn sefyll ar ochr yr heol, a digwyddodd i'w llygaid ddisgyn ar ddyn yn sefyll gerllaw iddo yn ysmygu'n hamddenol. "Y lleidr," meddai Nansi'n sydyn a dirybudd. Heb yn wybod iddi yr oedd ei llais yn uchel.
"Ymhle?" gofynnai'r cymydog.
"Wrth y modur ar y chwith yna," meddai Nansi yn wyllt. "Rhowch eich pennau i lawr," ebe'r gŵr caredig, "a chofiwch rif y modur. Byddwn yng ngorsaf yr heddlu cyn pen dau funud."
Prin yr oedd wedi llefaru nad oedd yn bracio'i fodur o flaen gorsaf yr heddlu. Wedi dweud eu stori yn frysiog daeth rhingyll a dau swyddog allan gyda hwynt. Aethant i fyny'r heol yn ôl. Safai'r modur yn yr un man o flaen gwesty. Cyn cyrraedd ato disgynnodd yr heddlu o'r modur. Yr oedd y tri lleidr wrthi'n dod allan o'r gwesty. Tra yr oeddynt yn brysur yn cychwyn y modur llithrodd y tri swyddog i fyny atynt yn ddi-stwr gan erchi iddynt aros. Cymaint oedd eu syndod fel na feddyliasant am ddianc. Yn wir yr oedd dihangfa yn amhosibl erbyn iddynt sylweddoli pwy oedd y tri a'u cyfarchant. Gorfu i'r tri fynd ar eu hunion i'r orsaf. Yno gofynnodd y rhingyll i Nansi, "Ai dyma'r dynion a welsoch yn yr hafoty?"
"Ie," ebe Nansi, "a dyma'r dyn a'm clôdd yn y cwpwrdd." "A dyna'r dyn a'm perswadiodd innau i yfed," ychwanegai Tom Ifans yn ddiwahôdd.
Yr oedd tystiolaeth Nansi a Tom, ynghyda'r moduraid o nwyddau ddygwyd o'r byngalo yn ddigon i'r heddlu fwrw'r tri lleidr i'r ddalfa.
"Maent yn sicr o garchar am hyn," ebe'r swyddog. "A ydych chwi yn barod i roddi tystiolaeth yn eu herbyn?"
"Ydwyf," ebe Nansi, "os yw hynny yn angenrheidiol."
"Gadewch i mi gael eich enw a'ch cyfeiriad, ynteu, os gwelwch yn dda," ebe'r swyddog. Pan welodd manylion a ysgrifennwyd i lawr gan Nansi ar ffurflen, edrychodd y swyddog arni gyda diddordeb newydd.
"Nansi Puw, Trefaes," meddai, "Ai chwi yw merch Mr. Edward Puw?"
"Ie," atebai Nansi.
"Wel," meddai'r swyddog, "yr ydych yn dechrau dilyn ôl troed eich tad yn gynnar iawn."
"Damwain oedd imi fynd i'r bwthyn," meddai Nansi. "Ie. Ond nid pob geneth fuasai'n cadw ei phen, fel y gwnaethoch chwi."
"Buasai unrhyw un o'r genethod o'r gwersyll yn gwneud yr un peth," ebe Nansi, erbyn hyn yn dechrau teimlo'n anghyfforddus dan glod y swyddog.
"Os nad wyf yn camgymryd," canlynai yntau, "mae y tri hyn yn hen ddwylo. Yr ydym yn eu hamau ers peth amser, ond yn methu'n lân â'u cyhuddo ac i ni gael sicrwydd y ceid hwy yn euog. Ond y maent yn y rhwyd yn ddiogel yn awr, diolch i chwi. Dylai perchennog y byngalo yna roddi gwobr sylweddol i chwi am fod yn foddion adfer ei eiddo iddo.
"Nid oes arnaf eisiau yr un wobr gan Mr. Morus," ebe Nansi, "gwell gennyf i chwi beidio sôn am un."
"Nid yw hynny yn gwneud i ffwrdd â'r ffaith yr haeddwch un, atebai'r swyddog. "Soniaf wrth Mrs. Morus am y peth cyn gynted ag y gwelaf hi."
"A ydych chwi'n teimlo'n ddiolchgar imi?" gofynnai Nansi yn sydyn.
"Nis gallaf ddweud pa mor ddiolchgar y bydd yr holl heddlu yn y sir i chwi," atebai yntau, "mae y rhain wedi ein poeni am flynyddoedd."
"Yna, cewch ddiolch i mi drwy addo na soniwch am fy enw wrth Mrs. Morus," ebe Nansi.
"Os felly y teimlwch, Miss Puw, yr wyf fi'n berffaith fodlon. Ni soniaf air amdanoch wrthi."
Yr oedd gan Nansi ddigon o reswm dros geisio cadw ei henw allan o'r achos.