Neidio i'r cynnwys

Naw Mis yn Nghymru/Adeg Etholiad

Oddi ar Wicidestun
Yn Nghwm Rhondda Naw Mis yn Nghymru

gan Owen Griffith (Giraldus)

Risca a'r Cwm

PENOD VIII.

Adeg Etholiad.

Yr oedd etholiad 1885 yn y Deyrnas Gyfunol yn neillduol gynhyrfus. Yr oedd dros ddwy filiwn o bleidleiswyr newyddion yn ychwanegu y cynhwrf. Ar yr etholiad hwn yr oedd yn dwrf chwyldroadol trwy y wlad. Yr oedd nerthoedd cryfion ar waith. Lluchid i'r golwg haenau isaf cymeriad cenedloedd, pleidiau a phersonau. Yr oedd y nerthoedd yn gweithio oddifewn i fyny i'r arwyneb. Torent trwy haen gref Ceidwadaeth henafol. Gweithient yn rhwygawl trwy uch-fantell cymdeithas. Mewn manau, megys yr Iwerddon, a'r dinasoedd mawrion yn Lloegr ac Ysgotland, ymferwai llosgwy (lava) eiriasboeth o areithiau tanllyd trwy ddrysau a ffenestri llawer mynydd uchel o adeilad lle cynelid cyrddau. Ymruai llefau dwfn argyhoeddiad trwy lawer cymydogaeth. Ceid iaith blaen hawliau dynol yn dryllio yn chwilfriw iaith ddifwlch lednais dysg. Gosodasid troell naturiaeth yn fflam. Yr oedd llawer ffynon felus yn bwrw allan ddwfr chwerw.

Nid oedd Cymru yn rhydd oddiwrth y cynhwrf. Er nad oedd agos mor eithafol a manau eraill o'r Deyrnas, eto yr oedd hithau yn llawer mwy cynhyrfus nag arferol ar y fath adegau.

Wrth wneyd crybwyllion am yr etholiad yno, dosbarthaf yr adeg i ddwy ran. Y rhan flaenaf oedd pan y bu yr ymgeiswyr a'u cefnogwyr yn anerch y bobl; a'r rhan olaf oedd pan y bu i'r bobl anerch yr ymgeiswyr, trwy eu pleidleisiau a mynegiadau trydanol y pellebyr. Nodaf rai helyntion etholiadol yn y ddwy ran, ag yr oeddwn yn llygad a chlust dyst o honynt; a rhai eraill.

Cyfarfodydd cyhoeddus y Torïaid oeddynt y mwyaf trystfawr a chynyrfus. Yn y cynulliadau hyn, weithiau, cymerai y Rhyddfrydwyr gwerinawl fantais i amlygu eu teimladau tuag at ymlynwyr Torïaidd rhagrithiol, yr hyn a barai i'r gweithrediadau droi allan yn ryfeddol gynhyrfus. Cynelid cwrdd Toriaidd trystfawr o'r fath yn agos i'm hen gartref, ar nos Sadwrn. Cafodd yr ymgeisydd Torïaidd ei hun bob llonyddwch i lefaru, ond mor fuan ag y cododd un o'i bleidwyr cynffynol ef i draethu ei len, yr oedd y twrf yn fyddarol. Ofer oedd i'r un ffug-bleidiwr agor ei enau. Er i amryw o'r cynffonwyr wneyd ymdrech deg i gael gwrandawiad, yr oedd pob ymdrech yn ofer. Tra nad oedd gair i'w glywed oddiwrth y llefarwr, gwelid ysgwydiadau ei freichiau, a symudiadau ei wefusau. Braint werthfawr i'r ffug-bleidwyr y noson hono fu llwyddo i adael y gymydogaeth, a myned adref heb gael tori eu hesgyrn. Cawsant brofi beth oedd pwysau cawodydd llaith-drymion o'u holau; ac hefyd cawsant eu gwneyd yn lliwiol oddiallan yn debyg fel yr oeddynt eisoes oddimewn.

Ni fum bresenol ond yn nghyfarfodydd y Rhyddfrydwyr. Yr ymgeiswyr a wrandewais ni amlygent ddoniau neillduol fel llefarwyr cyhoeddus. Yr oedd rhai o honynt yn dra anystwyth eu parabl, ac yn fynych byddai yr araeth yn cael ei hatal yn ei chwrs yn mlaen, gan rwystrau gyddfol a geneuol, yn debyg fel yr atelir cwrs ffrwd brysur gan anwastadrwydd afrywiog y pant-le y rhed hyd-ddo. Wrth wrando ambell un teimlwn yn anhyfryd. Annymunol oedd gwrando ar areithiwr y dymunid iddo lefaru yn dda, ac yntau yn methu. Yr oedd afrwyddineb yn peri i'r gwrandawyr anffurfio eu hunain wyneb a chorph yn ddiarwybod iddynt.

Cymerai gwrthwynebwyr fantais ar siarad gwael, i arllwys difriaeth, yr hyn oedd yn gwneyd sefyllfa llefarwr parabl rwystrol, a'i wrandawyr cefnogol, yn annymunol i'r eithaf. Addefaf i mi gael fy hun mewn cyflwr gwrandawol annymunol o'r fath, amryw droion yn y cyfarfodydd politicaidd hyn. Ac eto, mae llefarwr haciog, fo ofalus ar ei eiriau, ac i ddweyd y gwir, yn fwy dewisol na llefarwr amleiriog ymdywalltiadol llifeiriol ei eiriau, na fo ofalus am ffeithiau. Ac yn gyffredin, mae y prin a'r baglog ei eiriau, yn fwy tebyg o fod yn gywir ei ddywediadau, na'r hwn fyddo yn gallu marchogaeth iaith yn garlamol. Gall llawer o barabl-aratwch un fod yn effaith gofal am fod yn gywir; a gall llawer o barabl-gyflymder y llall fod yn effaith diofalwch am beth felly. Heblaw hyn, gall un fod yn sylweddol ddwfn-dreiddiol, a'r llall fod mor ddisylwedd a mân-us; y naill yn arafu yr araeth, y llall yn ei chyflymu.

Mewn cwrdd politicaidd y bum ynddo yn Mhwllheli, yr oedd y mathau yna, ac eraill, o areithyddiaeth mewn arferiad. Cafwyd araeth ddoniol yno gan y Parch. Mr. James, Nefyn (brawd Waldo). Dywedai fod Cymru yn nodweddiadol fel Gwlad y Bryniau, ond fod dau fryn yn fwy nodedig, y dyddiau hyny, na'r bryniau eraill yn gyffredin-sef Bryn Adda, a'r Bryn Gwyn (Bryn Adda yw enw cartrefle Mr. Jno. B. Roberts, Rhyddfrydwr, a Gwynfryn yw enw eiddo Mr. Nanney, Tori.) Ond Mr. James ddywedai mai gwell ganddo ef o lawer oedd Bryn Adda na Bryn Gwyn; fod y bryniau pan yn wynion, yn oerion iawn, ac yn gwneyd pobl yn grynedig ac annedwydd; fod Bryn Adda yn dra gwahanol-fod hwn yn meddu golygfeydd rhamantus, a gerddi dymunol yn amgylchu ei odreuon.

Gwr henafol hefyd a lefarodd mewn natur dda, nes nawseiddio tymerau ffyrniglawn y gwrthwynebwyr. Nid oes well cyngor na mai trwy addfwynder y mae dysgu rhai gwrthwynebus.

Mr. Gee, Dinbych, yr hwn sydd foneddwr parchus, a Rhyddfrydwr adnabyddus, a lefarodd yn y cwrdd. Ni fedd y genedl neb a fedr ddadleu hawliau Rhyddfrydiaeth yn well nag efe, ac o bawb a glywsom yn siarad ar wladyddiaeth, efe oedd y rhagoraf. A siaradodd yn ardderchog y tro hwn. Eglurai ddeddfau masnach rydd, y lles oddiwrthi i Brydain, y cynydd masnachol dirfawr a wnaeth er pan y dilewyd y tollau ar nwyddau tramor.

Bum mewn cwrdd politicaidd poblogaidd a gynelid ar fin yr etholiad, yn Llandudno. Llywyddid yn fedrus gan y Parch. H. Hughes (W.) Anerchwyd y cyfarfod gan amryw, ac yn mhlith eraill, y Parch. James Spinther James, M. A., ac offeiriad o Lanelwy. Yr offeiriad, tra yn dod o ganol ffau Dorïaidd i lefaru dros ryddfrydiaeth, gafodd fanllefau uchel o gymeradwyaeth.

Wrth ddeall fod gwr o America yn bresenol, yr oedd yn rhaid iddo fyned i'r esgynlawr i siarad. Dysgwylient i Americawr wrth gwrs fod yn Rhyddfrydwr, a dysgwylient hefyd iddo ddweyd y drefn yn erbyn gorthrwm. Dywedais wrthynt fy mod yn rhyfeddu fod yr areithwyr a glywswn yn dweyd can lleied yn erbyn y drygau tirol ac eglwysig ag y dylasid eu symud. Rhoddwn iddynt restr o'r drygau hyny, ac engreifftiau o waseiddiwch y bobl dan law y gorthrymwyr cyfoethog. Dywedwn y dylasent ymroi i ymosod ar y drygau crybwylledig. Amlygwn ofn fod y drygau hyny yn cael eu trafod ganddynt yn eu cyrddau politicaidd a dwylaw rhy dyner.

Nid oes yr un gweinidog yn Nghymru yn fwy selog fel Rhyddfrydwr, na'r hynod a'r hyglodus Barch. Robert Jones, Llanllyfni. Un boreu Llun, pan y dychwelai o fod yn pregethu y Sabboth yn Aber, cyfarfuwyd ag ef yn ngorsaf Bangor gan genad oddiwrth y Rhyddfrydwyr, yn crefu arno fod yn bresenol mewn cwrdd mawr Rhyddfrydol yn Nghaernarfon y noson hono; yntau a gydsyniodd. Nid oedd un llefarwr mor boblogaidd ag efe. Yr oedd ei ddull yn hynod, ac eto yr oedd efe yn hollol ddifrifol. Dywedai iddo fod unwaith yn Nghaerdydd pan oedd dyn yn cael ei crogi, ac iddo fyned i weled yr olygfa, ond iddo fod am amryw wythnosau cyn dyfod ato ei hun ar ol hyny. Er hyny y buasai yn gallu dal gweled crogi hyd yn nod Faptist fuasai yn pleidleisio gyda y Toriaid. Ebai efe, "Saith for a saith fynydd a fyddo rhyngwyf a phob Bedyddiwr a fotia gyda y Torïaid."

Yr ydym yn bresenol yn nesu yn mlaen at raiadrau y cynhwrf.

Dygwyddais fod yn ardal y Cefnmawr ar ddydd yr etholiad yno. Gweithiai y Torïaid yn egniol i sicrhau pleidleisiau. Gwneid defnydd effeithiol o ddylanwad mawr Syr Watkin yn y parth hwnw. Cipid personau o'r neilldu cyn eu myned at y bwth, er ceisio eu henill. I roi atalfa ar hyn, ymffurfiodd llu o fwnwyr a gweithwyr, oll yn Rhyddfrydwyr, yn orymdaith reolaidd, gan agoshau at y bwth, a chanu, "Hold the fort, for we are coming."

Tra dyddorol i mi oedd bod yn Llandudno yn ystod rhai o ddyddiau yr etholiadau. Elwn bob hwyr i ystafell swyddogol y Rhyddfrydwyr, lle y derbynient ac y darllenent y telegrams a gynwysent ganlyniadau rhifyddol yr etholiadau yn ystod y dydd. Ar draws yr ystafell hon yr oedd gwahanfur, yn ei dosranu yn ddwy adran. Nid oedd y gwahanfur hwnw yn cyrhaedd ond hyd haner y ffordd i'r nenfwd, yr hyn oedd yn fantais ar rai adegau i'r tra ymofyngar, wedi iddo weithio ei fodolaeth i'w ymyl uchaf, i gael gweled a chlywed pethau oeddynt yn myned yn mlaen ar yr ochr arall. Yn yr adran allanol o'r ystafell, yr oedd y lluaws pobl yn pryderus ddysgwyl am y newyddion, ac yn amlygu eu teimladau yn amrywiol yn ol natur y newyddion, ac yn ol eu natur hwythau tuag atynt. Y Cadeirydd oedd ddyn ieuanc tua deg ar hugain oed, golygus, addfwyn a deallgar, yn gallu amlygu ei feddwl yn bur rhwydd a difwlch yn yr iaith Saesoneg. O bob tu i ganol-fur yr ystafell yr oedd amryw feirdd a llenorion lleol o gryn fri. Rhwng y telegrams, adroddid aml i englyn a phenill—rhai yn dda, a rhai heb fod yn dda. Pan y byddai y newyddion yn ffafrio y Torïaid, clywid murmur o anfoddlonrwydd. Pan y byddai y teimlad yn gymedrol dwym, murmurid yn y ddwy iaith; ond pan yn frwdfrydig anghyffredin, byddai y Gymraeg yn boddi y Saesoneg, ac ar adeg felly byddai defnydd mynych yn cael ei wneyd o eiriau cryfion yr Omeraeg. Ond yr hyn a ogleisiau fy asbri yn benaf oedd gwaith y cadeirydd yn darllen y telegrams, ac yn traddodi mân-areithiau eglurhaol a chalonogol. Yr oedd yn well genyf ei glywed yn gwneyd hyny yn Saesoneg, braidd, nag yn yr hen Gymraeg. Yr oedd math o lediaith Cymreig yn gymysgedig a diniweidrwydd Cymreig yn ei leferydd a'i eiriau, ag oedd yn foddhaus iawn i mi. Yr oedd y nodweddau neillduol hyn yn parhau yn foddhaus, ac i swnio yn ogleisiol hyd yn nod pan y byddai y newyddion yn anffafriol i'r Rhyddfrydwyr. Anhawdd fy nghael i gredu fod un swyddfa darllen telegrams yr etholiadau, yn un rhan o'r Deyrnas Gyfunol, yr adeg hono, mor ryw fwyn bleserol ag oedd y swyddfa hon, na chyfeillion mor hoff yn un man i'w cael. Ni haeraf na allasai fod rhai ystafelloedd darllen telegrams mewn manau yn Nghymru yn agos at hon mewn brwdfrydedd, megys y rhai hyny lle y derbynid sicrwydd fod yr ymgeisydd y pleidleisiasai pobl yr ystafell drosto, wedi bod yn fuddugoliaethus; ond ni fuasai hyny drachefn yn sicrhau dim heblaw brwdfrydedd mawr. Ni fuasai yn rhoddi lle i ddysgwyl am arabedd dawn a digrifwch bechgyn Llandudno.

Cawsai yr etholwyr newyddion eu hunain mewn helbulon newyddion, os yn Rhyddfrydwyr. Parai lleffetheiriau y landlord benbleth mewn llawer teulu. Pur anhawdd, yn aml, fyddai ymryddhau o'r fagl. Yr oedd y rhwyd yn cael ei gosod ar bob agorfa amgylchynol. Anhawdd oedd gallu dweyd "Na." Cynaliwyd aml i gyngor mewn aml deulu i benderfynu y cwestiwn. Weithiau methid cadw cyfrinion y mater o fewn cylch cyffredin y teulu. Gwnai dwysder yr ager dori y cylchau. Mewn rhai eithriadau, efallai, cymerai y gwr y prif wâs i'w gyfrinach, a'r wraig wasanaethyddes brofedig i'w chyfrinach hithau. Yr oedd rhwystr arall yn cyfodi ar ffordd y fotiwr newydd. Wedi penderfynu i bwy i fotio, sut i fotio oedd y mater pwysig nesaf. Yn y bwth, yr oedd galwad am i'r fotiwr roddi croes gyferbyn a'r enw dewisol ganddo; ac i ddyn o dan gynhyrfiadau yr adeg, a llygaid cyfreithiol gwyliadwrus gerllaw, nid yn hawdd oedd i lawer un gwan, roddi y croesiad yn gywir, yn neillduol pan gofier fod y Rhyddfrydwyr a'r Torïaid yn flaenorol wedi rhoddi cyfarwyddiadau gwahanol i'r fotiwr mewn perthynas i pa fodd, a pha le i roddi y marc croes ar y tocyn yn y bwth. At hyn eto yr oedd penbleth arall yn dychrynu y Rhyddfrydwr newydd―y perygl i'r landlord Toriaidd wybod pa fodd y pleidleisiodd y deiliad. Parai y perygl tybiadol hwn achreth flin i lawer gwladwr oedd yn myned at yr ethol-fan am y tro cyntaf erioed. Crynai llawer llaw gref wrth wneyd y croesiad. Nid oes amheuaeth nad oedd llawer o'r croesiadau yn groesach nag oedd eisiau. Parodd yr anhawsder cysylltiedig a pha fodd, a pha le i roi croes-farç, i filoedd o bleidleiswyr newyddion gamsynied y lle, os nad y modd. Tystiolaethid i'r Rhyddfrydwyr golli nifer fawr o bleidleisiau o herwydd y dyryswch.

Yr oedd y Torïaid cyfoethog yn eu palasau amgaerog hefyd mewn penbleth. Gwelent yr awdurdod a'r gallu gwleidyddol yn llithro o'u dwylaw i ddwylaw y bobl. Yr oedd yr ystyriaeth o hyn yn ferwinol iddynt. Treiddiai y ffaith lem hon trwy fodolaeth drwchus y mawrion. Nid oedd eu parciau helaeth, a'u muriau caerog yn effeithiol i'w diogelu rhagddi. Nid oedd y palasau fflachiog eu ffenestri, na mwynianau pentyrol eu hystafelloedd, a'u dawns-barlyrau yn ddigonol i gadw y bustl-deimlad draw. Nid oedd dim tarianau i'w cael rhag rhwygiadau y brysebau hysbysol o lwyddiant Rhyddfrydiaeth a methiant Toriaeth. Pan y byddai arglwydd y tir yn ymgeisydd aflwyddianus, y ceid y siom-frathiadau dyfnaf. Cafodd rhai o wyr y palasau yn Sir Ddinbych a Sir Gaernarfon, eu harcholli yn dost gan ruthriadau y frwydr boliticaidd hono Ymadawodd awdurdod Seneddol o rai teuluoedd am y tro cyntaf o fewn haner cant o flynyddau ac ychwaneg. Tro ar fyd oedd peth felly.

Yn ystod y dyddiau yr oedd y cynhwrf gwlad-lydan wedi ei ddirwasgu i redeg ar hyd llinellau culion gwefrol y telegraph, yr oedd yr effeithiau yn ymsaethol a'r picellau yn drywanol i lawer calon ffrom-falch. I eraill yr oedd y brysebau yn cael eu dysbedain fel sain yr arian glych. Trwy holl Gymru bron yr oedd y brysebion fflachiadol yn ymffurfio yn golofn o dân arweiniol i gyfeillion rhyddid, ac yn golofn o niwl a thywyllwch i'r ymlidwyr Torïaidd.

Credwyf fod y cynhwrf etholiadol hwn yn cyrhaedd i lawr yn isel i'r deyrnas anifeilaidd. Yr oedd yr ysgyfarnogod a'r cwningod yn sicr o fod yn anesmwyth am y canlyniadau. Yr oedd y tyrfau yn peri iddynt godi eu clustiau i fyny yn fwy nag arfer, a pheri iddynt ddyfal fyfyrio. Ac yn sicr, dylasent hwy fod yn cymeryd dyddordeb yn y materion terfysglyd hyn, canys y maent yn dwyn cysylltiad a'u hawliau. Y mae llwyddiant y Rhyddfrydwyr yn y man, yn sicr o gyfyngu ar eu terfynau.

Yr hyn y mae pobl Cymru yn sefyll yn arbenig mewn angen am dano ydyw cael eu dysgu i ddeall eu hawliau. Y mae fod cynifer o'n cenedl yn fotio i'r Torïaid, yn brawf diymwad nad ydynt yn deall beth y maent yn ei wneuthur, canys anmhosibl credu y rhoddent eu pleidleisiau iddynt o gwbl pe deallent eu bod yn milwrio yn erbyn eu buddiant eu hunain. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng Cymry America a Chymry Cymru yn trafod politics. Mae ein cydgenedl yn America mor ddeheuig a neb pwy bynag yn nefnyddiad eu hetholfraint, tra y mae pobl Cymry yn mhell ar ol y Saeson yn y peth hwn. Pan gollodd y Cymry eu hannibyniaeth, collasant bob dyddordeb mewn gwladyddiaeth. Yr oedd hyn yn eithaf naturiol. Ac o hyny hyd yn gymharol ddiweddar, rhyw oddefol y maent wedi bod o dan law y Saeson. Pan oeddwn fachgenyn, Robert y gof a Shon Owen y teiliwr oedd yr unig ddau yn holl Garn Dolbenmaen oedd yn gwybod dim am bolitics. Y mae yn dra gwahanol yno yn awr, ond eto y mae lle i welliant, ac felly trwy holl Gymru. Eisiau dysgu y bobl sydd; a phan wneir hyny, bydd tro ar fyd yn Mhrydain Fawr. Pan y dysgir y bobl pa fodd, a thros bwy i bleidleisio, pan gynrychiolir y werin yn y Senedd, daw y bobl yn rhydd o'u cadwynau. Mae yn hen bryd i hyny gymeryd lle. Mae y mawrion wedi bod yn gorthrymu y tlawd a'r gwan am ddigon o oesau. Chwareu teg i'r bobl gyffredin a ddaw. Henffych i'r dydd. Nid oes neb yn fwy teilwng o barch na'r bobl weithgar, onest; hwynt-hwy, yn mhob gwlad, ddylent, ar bob cyfrif, gael y parch mwyaf. Hwynt-hwy yn Mhrydain ydynt nerth yr ymerodraeth. Pa reswm yw fod y wlad yn meddiant rhyw ychydig gyfoethogion? Pa reswm fod miliynau o arian y bobl yn myned i'r giwdawd sydd yn amgylchynu y Frenines a Thy yr Arglwyddi? Mae yn rhaid i'r anghyfiawnderau hyn ac eraill gael eu symud yn y dyfodol agos, neu ynte bydd yn fawr gynhwrf yn y wlad, ac y mae y newyddion diweddaraf o Gymru fel yn arwyddo fod y cynhwrf eisoes wedi dechreu.

Nodiadau[golygu]