Neidio i'r cynnwys

Naw Mis yn Nghymru/Cofion at Berthynasau a Chyfeillion

Oddi ar Wicidestun
Yn Sirhowi a Tredegar Naw Mis yn Nghymru

gan Owen Griffith (Giraldus)

Yn Nghwm Rhymni

PENOD XIX.

Cofion at Berthynasau a Chyfeillion

Caredigion lawer yn Nghymru a geisient genyf eu cofio yn garedig at berthynasau a chyfeillion yn America. Minau, fel rheol, a addawswn gydsyrio a'u ceisiadau. Dysgwyliwn wrth addaw, y cawswn gyfleusdra i weled y personau y cofid atynt. Wrth ymweled a gwahanol fanau, ychwanegai rhif y ceisiadau hyn yn ddirfawr. Yn y man dechreuwn sylweddoli mawredd fy nghyfrifoldeb. Ceisiais fod yn fwy gochelgar rhag amlhau addewidion o'r fath. Modd bynag parhau i ychwanegu yr oedd rhif y ceisiadau cofianol. Wedi glanio yn America dechreuais drosglwyddo y cofion mor fuan ag y gallwn i'r personau priodol, ac mae y gwaith hwn yn myned rhagddo yn gyson, a dysgwyliaf y byddaf o fewn ychydig fisoedd eto wedi cyflawni fy addewidion yn y fusnes gofianol yn bur llwyr oddieithr yn y Talaethau Gorllewinol. Gwelaf, wrth edrych dros fy nydd-lyfr, fod amryw o'r rhai y cofir atynt, yn y Talaethau pell Gorllewinol, y rhai nad allaf ddysgwyl eu gweled yn bersonol, o'r hyn lleiaf yn y dyfodol agos. Er gwneyd y diffyg hwn i fyny, penderfynais roi rhestr yn y llyfr hwn o'r cofion hyny ag y mae eu gwrthddrychau yn y parthau pellenig, gan hyderu y treigla y cofion atynt yn llwyddianus, yn debyg fel y treiglai brysebion o fryn i fryn yn yr hen amseroedd yn Nghymru. Mae yn bosibl y gwna personau a welont y cofion yma hysbysu ffryndiau mwy Gorllewinol am danynt, ac y bydd i'r rhai hyny drachefn hysbysu rhai pellach eilwaith, nes o'r diwedd y cyrhaeddant y person bwriadedig. Ac os dygwydd na chyrhaeddant yn ddiogel mewn rhai engreifftiau, gall y cofion, yn ddiau, wneyd dirfawr les i deimladau cymdeithasol pobl ar eu hymdeithiad heibio iddynt. Gallant fod yn foddion i lareiddio teimladau chwerwon. Gallant ddeffroi rhai difraw a difeddwl am ffryndiau mewn parthau pellenig. Gallant alluogi pobl i weled llinynau mor fendigaid a chryfion sydd yn rhwymo y ddwy wlad wrth eu gilydd. Gallant fod yn esiamplau da i amryw. Rhoddaf yma restr dalfyredig o'r cofion, o'm dydd-lyfr :

Mae William Evans, ger Machynlleth, yn anfon ei gofion caredig at ei ewythr, Zachariah Davies, brawd ei dad, yn Ashtaroth, Col. Ceisiodd genyf ei hysbysu y bwriada ymfudo yn fuan i America. Cwynai fod amgylchiadau amaethwyr yn gwaethygu yn barhaus yn Nghymru, a bod y rhenti mor uchel fel mai anmhosibl cyfarfod a'r gofynion.

Evan Risiart, Nant-y-brân, Brycheiniog, a hoffus gofia at ei hen gymydog John Hughes, San Francisco, California. Mae Beti Rowland, Cae Isaf, yn cyd-anfon ei chofion.

Ceisiodd Shon Wmffra Dafydd, Tyddyn-y-clawdd, ger Minfro, genyf ei gofio yn y modd mwyaf caredig at David Williams, y saer, Ratcliff, Texas. Dywedai fod ei fab yn llwyddo yn dda fel doctor, a llawenychai yn y dysgwyliad y bydd yn fuan yn un o ddoctoriaid goreu y parthau hyny.

Mari Ifan, Llan-on, a serchus gofia at ei chwaer, a dybia sydd yn byw yn Arkansas.

Henry Jones, Pant-y-goitre, Ceredigion, a enfyn ei gofion mwyaf cynes at John Davies, y blaenor (hen flaenor yn y capel gerllaw), Bath, Dakota.

Richard Jones, Ochr-y-bryn, Pennant, am siarsiodd i gofio yn garedig at ei fab yn Karkeo, Tennessee. Ceisiodd genyf grefu arno ysgrifenu atynt, a dweyd wrtho fod ei fam yn wylo yn hidl yn aml oblegid ei ddifatererwch yn peidio ysgrifenu. Y fath resyn yw fod bechgyn yn anghofio eu rhieni a'u hen gartref. Ysgrifened y bachgen hwn yn fuan, yn ol y cais, ar bob cyfrif.

John Parry, Twyn-yr-odyn, ger Caerdydd, a'm hysbysai fod ganddo fab yn Silver Plume, Col., ac nad yw wedi clywed oddiwrtho er's peth amser, a'u bod fel teulu yn anesmwyth yn ei gylch. Cofied John am ei rieni.

Mae Ellen Evan (ebe hi gelwch fi Neli Ifan Shon), Pen-y-rhiw, Sir Fon, yn cofio at ei modryb, Gweno Hughes yn Postville, Neb.

Samuel Roberts, Tan-y-grisiau, anfonai ei gofion at ei gefnder, Gabriel Jones, Wyoming, W. Virginia.

John Ellis, ger Ystum-cegid, Eifionydd, a geisiai genyf hysbysu ei frawd-yn-nghyfraith, John Meredydd, a dybia sydd yn byw yn ngymydogaeth Frostburgh, Md., y dysgwylia gael ei wneyd yn Ustus Heddwch yn fuan, yr hyn fydd yn beth newydd yn mhlith yr Ymneilduwyr yn y parth hwnw. Gwyr yr eglwys wladol, ebai, sydd wedi arfer dal yr holl swyddi. Mae Mr. Meredydd yn ddyn cyfrifol iawn, ac aelod dichlyn gyda y Trefnyddion Calfinaidd. Cofia yn garedig at Mr. Meredydd a'i deulu.

Thomas Richards, Llwyn-Dafydd anfona ei gofion caredicaf at yr hen Gymro twym-galon Dafydd Edwards, sydd yn byw yn rhywle yn Kansas (ni chofiais roddi enw y lle yn fy nyddlyfr.) Ceisiai Mr. Richards genyf ei hysbysu fod yr iaith Gymraeg yn dod i fri yn brysur y dyddiau hyn yn Nghymru, a bod eu cynrychiolwyr yn areithio yn Gymraeg yn y Parliament, os bydd galwad.

Cymydog i Mr Richards-Griffith Pugh—a dystiai fod y Gymraeg yn dechreu cael ei hefrydu yn y colegau a'r prif-ysgolion; a bod ambell i ardal yn dechreu defnyddio ei hawl i'w dwyn i arferiad gystadleuol yn yr ysgolion dyddiol. Bydd Dafydd Edwards yn sicr o fod yn falch clywed newyddion da fel hyn parth yr hen Omeraeg. Y ddau a gofient yn garedig ato.

Mae Gwladys Jones, y Bwlch, yn anfon ei chofion mwyaf cynes at Nansi Tomos, Charlemagne, Ill. Dymunai arnaf ei hysbysu fod ganddi dy newydd hardd yn awr yn lle yr hen dy to gwellt gynt, ond ei bod yn hiraethu am yr hen dy yn barhaus, ac yn ofni na fyddai byth mor ryw ddedwydd yn y ty newydd ag yn yr hen dy.

Sian Owen, y Brithdir a gofia yn garedig at ei nith yn Miltonia, Washington Territory. Perai i mi ei hysbysu, os gwelwn hi, fod Mali Sioned wedi priodi rhyw hen lanc cyfoethog, a'u bod yn byw yn gysurus gerllaw iddynt.

Daniel Hughes, gôf, ger y Pandy, Powys, a gofia yn frwdfrydig at Philip Williams, Juston, W. Virginia. Cefais lawer o hanes yr ardal hono yn y dyddiau gynt, gan Mr. Hughes. Rhoddai air uchel iawn i Philip Williams fel cymydog dyddan a charedig, a dywedai i'r ardal gael colled ddirfawr ar ei ymadawiad i America.

Nathaniel Williams, Tyddyn-dicwm, a gofia yn y modd mwyaf caredig at Richard Ambrose, Aurora, Ill. Adroddai Mr. Williams wrthyf am helynt ddigrif ddygwyddasai yn ddiweddar yn y gymydogaeth rhwng dau ddyn o'r enw Hugh Siams a Dafydd Powell. Dywedai i achos yr helynt ddygwydd adeg "lladd" mawn yn y fawnog gerllaw, trwy i Dafydd syrthio dros ei ben i dwll dwfn a dorasai bachgen Hugh yn y mawndir meddal, pan ydoedd y bobl yn absenol adeg ciniaw. Torasid y dyfndwll, mae yn debyg, ar lwybr Dafydd, a chuddiasid ei arwyneb a thywarchen ysgafn, yn cael ei dal i fyny gan fân frigau. Adroddid fod golwg ddyeithr ar y syrthiedig yn dyfod i'r lan o'r gabolach fawndirol. Cyffrodd hyn Dafydd gan ysbryd dial, ac nid hir y bu cyn cael gafael ar y bachgen, awdwr y gyflafan. A phan oedd y troseddwr ieuanc o dan y gurfa, dyma ei dad yn prysuro i'w amddiffyn, a bu yn helynt blin.

Mae Mali Roland, y Gwyndy, hen chwaer dduwiol a gyfanedda gerllaw y Plas Hen, yn dymuno ei chofio at deulu William Bowen, Yiow, Washington Territory. Adroddai cymydog wrthyf fod yr hen chwaer uchod yn nodedig am ei chrefyddolder; a'i bod yn enwog am roi hwyl i'r pregethwr os caffai ddigon o rad ras yn y bregeth. Meddyliai Mali lawer o deulu Mr. Bowen fel pobl grefyddol, pan y preswylient gerllaw iddi.

Nodiadau[golygu]