Naw Mis yn Nghymru/Hwyrddydd gydag Arwystl
← Rhagoriaethau Nacaol Cymru | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Yn Nghwm Rhondda → |
PENOD VI.
Hwyrddydd gydag Arwystl.
Y Parch. H. W. Hughes (Arwystl), Dinas, gerllaw Pontypridd, Morganwg, sydd hen weinidog enwog i'r Bedyddwyr, ond sydd wedi rhoi gofal gweinidogaethol yr eglwys i fyny er's rhai blynyddau. Yr oeddwn yn gydnabyddus ag ef er cynt, ac yn edmygwr mawr o hono. Ac yn awr, pan yn agos ato yn Nghwm Rhondda, teimlwn yn awyddus i alw gydag ef. Ar yr adeg hon cyfarfyddais a'r Parch. Hugh Jones, gweinidog presenol yr eglwys, ac amlygais iddo fy mwriad i alw heibio; yntau a'm taer gymhellodd i wneyd hyny.
Yn hwyr y dydd y gelwais; dygwyddodd fod cyfarfod poblogaidd yn cael ei gynal yn eu capel, i gyflwyno tysteb i frawd o ddiacon parchus oedd ar ymadael i le arall i fyw. Ofnwn, pan ddeallais am y cwrdd, y gallasai fod yn anffafriol i amcan fy ymweliad, ond yn ffortunus dygwyddodd droi yn ffafriol.
Nis gallaf ganiatau i'r darllenydd wybod manylion yr ymweliad, nes i mi yn gyntaf ei ddwyn i gydnabyddiaeth, i ryw raddau, â fy nghyfaill Mr. Hughes (Arwystl). Yr wyf bron yn sicr fod pawb sydd yn gwir adnabod Mr. Hughes, yn ei fawr hoffi; a gwn fod llawer o'r rhai ydynt yn ei adnabod felly, yn mawr edmygu ei deithi meddyliol, ei arabedd, ei chwaeth, a'i allu fel cyfansoddwr. Ond at y nodweddau a grybwyllwyd a fawrygaf, gyda llawer, yn nghymeriad Mr. Hughes fel dyn cyhoeddus, ychwanegaf un nodwedd arall, sef ei ddull o draddodi. Ystyriaf fod y dull hwn yn dwyn cysylltiad agos a'i ystum, ei ardrem, ei wefusyddiaeth, ei oslef, ei aceniaeth, a'i bwysleisiaeth. Saif Arwystl ar ben ei hun fel traddodwr. Pan y daw i'r pwlpud, bydd ei ymddangosiad yn tynu sylw, bydd ei wynebpryd yn dweyd, bydd symudiadau ei wefusau yn datgan, bydd ei fyr besychiad yn awgrymiadol. Pan y saif i fyny i lefaru, buan y bydd yr elfenau a nodwyd yn cyd-ddweyd. Mae ei ddull o draddodi yn ffurfio delweddau ei ddrychfeddyliau; ac mae ei ddrychfeddyliau yn ffurfio delweddau ei ddull o draddodi. Ond ofer y ceisiwn ei ddarlunio rhaid ei wrando er gallu ffurfio syniad cywir am ei ragoriaethau fel llefarwr cyhoeddus.
Ychydig, efallai, yn y Dywysogaeth sydd gyfartal iddo fel meistr y gynulleidfa, pan y byddo yr awel o'i du; ond pan y byddo y gwynt yn groes, y mae fe ddichon, yn nghyfrif rhai, yn waelach na llawer llai nag ef. Wrth iddo hwylio yn erbyn gwynt croes, bydd y dylanwad gwefreiddiol a dreiddia ysbrydoedd dynion, yn absenol. Y pryd hwnw, ymdrecha yn galed â'r tonau; metha ddilyn siarter ei areithyddiaeth; metha gael gafael yn amserol ar y rhaff angenrheidiol; bydd yr ymadroddion yn ddarniog, ac yn gwrthod ufuddhau i'r parabl; bydd y gwefusau yn anesmwyth rhwng geirau. Weithiau gwyra yn sydyn oddiwrth ei bwnc i afael mewn teganau, yna daw mân-besychiadau; brys symuda y gwefusau a'r tafod, fel i finio eu hunain o'r newydd. Ambell dro, bydd y drychfeddyliau fel yn chwareu ag ef, ac yn ymguddio rhagddo.
Braidd na fyddai yn fwy dewisol genyf wrando arno. pan yn y "ditch," na phan yn hoewi ar ei uchelfanau, canys byddai ei waith yn ymdrechu â'r bregeth yn erbyn y rhwystrau, rywfodd, yn fwy llawn o ddoniolwch. Dygwyddodd tro helbulus o'r fath hwn arno unwaith yn Brymbo, G. C., pan yn galw heibio i'r eglwys yn y lle, i roddi iddynt bregeth ymadawol, ar ei symudiad o Lerpwl i gymeryd gofal yr eglwys yn Dinas. Ar ei ffordd yno, dygwyddodd iddo golli y trên iawn, fel y bu haner awr llawn ar ol amser dechreu, cyn gallu cyrhaedd. Yn teimlo yn ofidus o herwydd y diweddarwch hwn, esgynodd gyda brys i'r pwlpud. Yn fuan, canfyddid ei fod wedi ei daflu o hwyl pregethu, ac nad oedd hwn i fod yn un o'i droion goreu. Rhoddwn yma y rhan gyntaf o'r bregeth, fel engraifft o'r gweddill.
Ei destyn oedd Luc, 12:32: "Canys rhyngodd bodd i'r Tad roddi i chwi deyrnas." Wedi gwneyd esgusawd am ei ddiweddarwch yn cyrhaedd, a chrybwyll yr achos, aeth rhagddo yn y modd a ganlyn: "Gan fod yr amser wedi myn'd, ceisiwn ddweyd tipyn yn fyr ac yn felus. Teyrnas teyrnas (byr-beswch), teyrnas—peth gogoneddus iawn yw teyrnas. ('Diolch!' ebe hen frawd dan y pwlpud.) Wel, wel, mi welaf fod Shon Gruffydd eto yn fyw, wedi bod gynt yn mrwydr fawr Waterloo rhyfedd daioni a gofal Duw am dano. Teyrnas-teyrnas. 'Rhyngodd bodd;' y fath gariad, y fath ras a gofiodd am lwch y llawr. Teyrnas, teyrnas (dau beswch byr). Mae genych weinidog rhagorol, Mr. Parry, gweddiwch lawer drosto fo. Teyrnas, peth gogoneddus iawn yw teyrnas. 'Roedd Adda yn wr boneddig mawr yn Eden, (y gwefusau yn brys-symud), ond fe gododd fortgage ar ei estate, ac fe gododd ormod; cododd ormod—methodd ei thalu yn ol (yn oslefol), do, do, methodd ei thalu yn ol. Ond buddugoliaeth Calfari, enillodd fwy yn ol i mi, mi ganaf tra bwy byw. Gwnaf, mi ganaf. Teyrnas!-teyrnas!!"
Bellach, awn rhagom at hanes fy ymweliad a'r pregethwr neillduol ac enwog hwn.
Daeth cynulleidfa fawr a pharchus yn nghyd i gwrdd cyflwyniad y dysteb i'r brawd o ddiacon oedd ar ymadael a'r lle. Yr oedd yn gwrdd poblogaidd, pob cornel ac eisteddle yn llawn. Program hir o adroddiadau, areithiau a chanu i fyned trwyddo. Eisteddai Mr. Hughes yn y sedd bellaf, wrth y pared, ar y chwith o'r pwlpud. Minau a eisteddwn mewn sedd gyfleus yn ffrynt y pwlpud. Cawswn fy hun mewn man manteisiol i lawn fwynhau y gweithrediadau, ac hefyd i fod yn ngolwg Mr. Hughes, oedd draw ar y dde i mi. Yr oedd un peth, fodd bynag, yn peri gradd o flinder i mi, sef nad oeddwn eto wedi cael cyfleustra i ysgwyd llaw ag ef; ac er ei fod mor agos ataf, nid oedd yn gyfleus i fyned ato. Yr oedd y cyflawniadau ar y cyfan yn gymeradwy, ac yn ymddangos eu bod yn rhoi boddlonrwydd cyffredinol, er yn ddiau nad oedd pob rhan yn peri yr un dyddordeb i bawb. Fel yn gyffredin, yr oedd pob un yn mwynhau oreu yr hyn oedd yn ateb oreu i'w chwaeth. Rhai a fwynhaent y canu, eraill yr areithio, eraill yr adroddiadau, ac nid oes amheuaeth nad cyflwyniad y dysteb oedd yn peri y mwynhad mwyaf i'r diacon a'i deulu. Ond yr hyn a barai y dyddordeb mwyaf o lawer i mi oedd gweled gwyneb Mr. Hughes. Tybiwn fod mwy o hyawdledd, ystyr, delweddiad, a dillynder yn ei wynebpryd ef ar y pryd, nag yn holl ranau y gweithrediadau. Nid oedd un ran o'r cyflawniadau heb ei sylw, ac yn effeithio yn amrywiol ar ei feddwl a'i wyneb. Tybiaswn fy mod yn darllen ei feddwl yn nelweddion ei wyneb.
Yn garedig iawn, trefnasai Mr. Jones, y gweinidog, fod Arwystl a minau i gyfarfod a'n gilydd yn ei dy ef, ar ol y cwrdd, ac felly y bu. Er cymaint oedd y mwynhad a gawswn yn y cwrdd, addawswn i mi fy hun nad oedd hyny ond blaenffrwyth bychan o'r hyn oedd i ddilyn.
Wedi cyfarfod yno, yr oedd yn rhaid ail fyned dros yr ysgwyd dwylaw a'r cyfarchiadau a gawsid ar y diwedd, yn y capel. Llawer o bethau newydd a hen ddeuent i'r bwrdd, gan mwyaf hen bethau. Melus yr adroddai Arwystl am helyntion Cymanfaoedd a chyrddau mawrion y blynyddau gynt, ac am gymeriadau diniwaid a hen ffasiwn. Wrth wrando arno yn adrodd y pethau yna, a'u cyffelyb, yr oeddwn yn barod i ofyn, paham yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn, er fod Solomon yn dysgu “mai nid o ddoethineb yr wyt yn gofyn hyn."
Y cyfnod pan arferai Arwystl fyned oddiamgylch i ddarlithio, oddeutu deng mlynedd ar hugain yn ol, oedd cyfnod euraidd ei fywyd. Testynau ysgrythyrol oedd i'w ddarlithiau, ac nid gwael destynau di-bwys, i faldorddi ffolineb, a chreu crechwen, fel yn rhy aml gyda llawer. Ei destynau ef fyddent deithiau yr Apostol Paul, a helyntion yr Israeliaid ar eu hymdaith o'r Aipht tua Chanaan. Byddai wrth ei fodd, ac yn ei elfen, yn trafod y materion hyny. Yr oedd y dygwyddiadau neillduol yn galw allan ei ymadferthion goreu, a mawr oedd ei boblogrwydd. Difyrus iawn, yn bresenol, oedd cael ganddo rai adroddiadau o helyntion y cyfnod darlithyddol.
Yr oedd fod y ddau weinidog, Mr. Hughes a Mr. Jones, yn gyfeillion mor fynwesol, yn fantais fawr i fwyniant yr ymweliad. Yr oedd anianawd cyfeillgarwch yn allwedd i'r brawd Jones i ddatod cloion switches, er troi cerbyd yr ymddyddan i'r llinellau hyny a ddymunai, neu mewn geiriau eraill, yr oedd yn gwybod pa fodd i dynu allan Mr. Hughes, ac i gael oddiwrtho sylwadau pert, adgofion difyr, hoenusrwydd diniwed, ac arabedd bywiog.
Yn mhlith pethau eraill, dywedai Mr. Hughes ei fod unwaith i ddarlithio yn Merthyr, ac iddo, yn ol ei addewid, ddod at ei gyhoeddiad yn brydlawn gyda trên y prydnawn. Yn yr orsaf yno, dysgwylid ef yn bryderus gan ddau frawd penodedig, ond dygwyddodd yn nghanol y lluaws pobloedd, i'r ddau frawd fethu taro ar y darlithiwr. Aeth y ddau genad ymaith yn siomedig iawn, ac yn methu dyfalu paham nad oedd y boneddwr dysgwyliedig wedi dod. Aeth Mr. Hughes (y gwr dysgwyliedig), i dy teulu adnabyddus perthynol i'r eglwys, a alwasai am y ddarlith. A chyn hir, aeth i'r capel i ragbaratoi ar gyfer y ddarlith. Y brodyr siomedig yn cymeryd yn ganiataol na ddaethai y darlithydd, a benderfynasant nad oedd dim gwell i'w wneyd o dan yr amgylchiadau na myned yn brydlon at y capel, er hysbysu y bobloedd a ddeuent yno, o'r ffaith ofidus. A phan ddaeth yr awr, aethant at y capel, ac er eu syndod, a'u boddhad, pwy a welent yn y capel ond Mr. Hughes wedi gosod mapiau i fyny ar y parwydydd, a threfnu pethau angenrheidiol eraill, ac yn barod am y ddarlith. Nis gallaf fynegi bob yn rhan, yr ymddyddanion dyddan a gafwyd. Braidd nad oedd clock yr ystafell wedi anghofio taro gan gymaint y dyddordeb. Hyn wyf yn sicr, nad oedd yn taro prin un ran o ddeg yr hyn wnai pan ddechreuodd yr ymddyddan. Ac yr oedd y bobl tu allan fel yn talu gwarogaeth i bwysigrwydd yr ymweliad hwn, a'r ymddyddanion, oblegid nid hir y buont heb ddwyn eu hunain i ddystawrwydd, fel nad oedd y twrw lleiaf yn yr holl amgylchoedd.