Neidio i'r cynnwys

Naw Mis yn Nghymru/Pregethwyr a Phregethu

Oddi ar Wicidestun
Wythnos yn Llanelli Naw Mis yn Nghymru

gan Owen Griffith (Giraldus)

Yn Abertawe

PENOD XVI.

Pregethwyr a Phregethu.

Dymunwn agoshau at y pwnc hwn gyda gofal a pharch arbenig. Pe ceid fi yn taflu llinyn mesur Seisnig Americanaidd dros wyr pwlpudau Cymru dylid fy ystyried yn angharedig ac annoeth, os nad yn haeddu cerydd. A chaniatau y byddai yn llesol nodi beiau amlwg mewn arddull fflangellog, diau y byddai yn deg i mi wed'yn arfer goruchwyliaeth mwy tyner a chefnogol, wedi i'r ddysgyblaeth chwerw gyntaf gario ei heffaith ddyladwy. Byddai yn resyn gadael y dyoddefydd beius yn ddiymgeledd, heb gyfaddasu cyfferiau meddygol pellach at ei gyflwr gwellhaol. Gan hyny, pe dechreu- aswn yma drafod pregethwyr Cymru mewn dull llymfeirniadol, buaswn yn rhwymo fy hun, yn ol pob rheol deg, i fyned trwy holl gwrs y ddysgyblaeth yn y dyfodol. Pell oddiwrthyf fyddo honi y fath hunan-bwysigrwydd. Bwriadwyf yn hytrach i'r ychydig sylwadau a wnaf yma, gynwys yn unig draethiad syml o deithi a chymeriad presenol pregethwyr a phregethu yn y wlad hono ag y mae agweddau ei bryniau prydferth mor arwydd-luniol o bwlpudau ei chapeli.

Dealler mai am bregethwyr a phregethu yn mhlith y Bedyddwyr y cyfeiriwyf yn benaf yn ein sylwadau.

Ugain mlynedd yn ol, sefydlwyd Undeb Bedyddwyr Cymru. O'r Undeb hwn y mae llawer o ddaioni i'r enwad wedi ffynonellu. Urddasolodd yr enwad â'i gweithrediadau. Y mae ei ddylanwad daionus yn parhau. Nid y lleiaf o'r ffrydiau bendithfawr a dardda allan o hono, yw y ffrwd iachusol hono a reda i gyfeiriad y pwlpud. Daw y gangen ffrwd hon i gysylltiad a'i gwrthddrychau mewn gwahanol fanau. Fel prif le cyd-gyfarfyddiad, nodaf gyrddau blynyddol yr Undeb. Yno mae yn ffrydio yn rhaiadr lifeiriol ar weinidogion a phregethwyr. Peth gwerthfawr er meithrin uchelgais dyladwy mewn gweinidogion yw nôd uchel. Mae cyrddau yr Undeb yn cynysgaeddu nôd felly. O'r blaen, yr oedd uchel-fanau uchelgais yn gyd-wastad. Nid oedd y Gymanfa, fel cynt, yn meddu safle arbenigol i'r teilwng. Gynt, y pregethwyr blaenaf a safent ar y muriau. Edrychid i fyny atynt gan bawb. Y pryd hwnw yr oedd gan weinidogion ieuainc, ac eraill anhysbys, nôd uwchafol i gyrchu ati. Yr oedd yr atdyniad at i fyny yn cyrhaedd trwy holl gylch llefarwyr cyhoeddus israddol. Yn anffodus, tynwyd y pwlpud uchel i lawr at safle y cyffredinolion. Yr annheilwng, yn lle ymgymwyso at safle y pregethwr mawr, a hyf ymwythiodd i'r safle cyn ei haeddu, a dilynwyd ef gan y lluaws eiddigeddus. Tynwyd yr uchelfan gysegredig i wastadedd dinodedd. Y canlyniad fu dirywiad alaethus. Yr oedd adferyd stage y Gymanfa i'w huchder gyntefig y pryd hyn yn anmhosibl mewn ffordd uniongyrchol.

Cyn hir, megys trwy ddylanwad greddf bywyd, ffurfiwyd yr Undeb ar raddfa fawr, eang a chyffredinol, i gynwys yr holl Gymanfaoedd. Mwyach yr oeddynt hwy yn is-ddarostyngol i awdurdod uwch. Daeth esgynlawr yr Undeb yn uwch na stage y Gymanfa. Dyma arbenig-fan newydd i'r teilwng. Os meiddia yr annheilwng i'r fan hon, dibrisir ef hyd lawr. Ofer yw i neb ond y medrus anturio i'r fath le. A thra y dalio yr esgynlawr hwn i gadw fyny ei gymeriad uchel presenol, bydd yn fendith i urddas y weinidogaeth yn yr enwad.

Caed safle i'r llefarwr yn uwch ar ochr mynydd Seion nag a geid yn y Gymanfa gynt. Caed canolbwynt anrhydeddus i edrych i fyny ato. Caed nôd teilwng o flaen uchelgais gweinidogion ieuainc. Ac mae cyrhaedd rhagoriaeth fel llefarwr ar esgynlawr yr Undeb, bydded araeth, draethawd neu bregeth, o angenrheidrwydd yn feithrinol i urddas pregethwrol.

Mae yr Undeb yn gweithredu yn ffafriol i'r pwlpud mewn ffyrdd eraill. Mae dynion goreu yr enwad yn bresenol, ac yn arfer eu dylanwad yn y cynulliadau blynyddol. Yn mhresenoldeb y rhai hyn, cywilyddia yr annheilwng. Mae y dylanwad yn ymburol. Mae yr Undeb yn casglu o dan ei adenydd, megys yr iar ei chywion, amryw gymdeithasau ieuainc gobeithiol. Un o'r rhai hyn yw cymdeithas ddirwestol. Hon a ymlecha yn yswatiol o dan gysgod ei amddiffyn. Mae y gweinidogion a flaenorant gyda y gymdeithas hon yn rhestru yn mhlith y gweinidogion blaenaf yn y Dywysogaeth. Ac nid yw hyn ond dechreu. Mae yr elfen ddirwestol, o'r ganolfan hon, yn prysur enill tir. Mae llinell wahaniaethol yn ymffurfio. Mae yr Undeb, trwy ei chymdeithas ddirwestol, yn gweithredu yn fendithiol ar gymeriad y weinidogaeth, yn bregethwrol a bugeiliol. Y mae amryw ffyrdd eraill drwy ba rai mae y dylanwad daionus canolog hwn yn cyrhaedd y pwlpud.

Tuedda cyrddau yr Undeb i greu ystyriaeth o gyfrifoldeb gorphwysedig ar weinidogion y gair. Tueddant i eangu syniadau parth elfenau llwyddiant crefydd. Tueddant i greu brwdfrydedd a sel sanctaidd, sydd mor hanfodol i ddylanwad pregethwrol. Pwy bynag, gan hyny, a gymero y drafferth i edrych ar safle pregethwyr a phregethu yn gysylltiedig a'r Undeb, rhaid tynu y casgliad fod iddynt safle pur ffafriol. Mae yn ffaith gysurus fod dosbarth diwygiadol uwchraddol o weinidogion yn lluosogi yn bresenol yn Nghymru. Mae y colegau-drysau i'r weinidogaeth yn cael eu gwylied yn fwy gofalus nag erioed.

Mae tôn ymddyddan gyfrinachol a chymdeithasol y gweinidogion, yn wastad yn bur. Mynych y cyfarfyddwn a brodyr yn y weinidogaeth yn tueddu i siarad mwy am faterion crefyddol na dim arall. Llawer a deimlent ddyddordeb i fy holi am sefyllfa yr eglwysi a chrefydd yn America. Amryw a lawenychent yn y ffaith fod rhai pethau yn ddyeithr i'r bywyd gweinidogaethol yn America, ydynt yn rhy adnabyddus iddo yn Nghymru.

Mae y bobl yn dal i edrych i fyny at bregethwyr. Fel rheol, mae gweinidog yn cael parch mawr yn Nghymru. Cyfranir yn dda at ei gynal. Peth mynych ydyw cyfarfod a gweinidog yn byw mewn cystal ty ag a gyfaneddid gynt gan offeiriad. Dengys hyn, i raddau helaeth, safle gweinidogion a phregethwyr yn Nghymru.

Ond dysgwylir i mi, efallai, nesu yn agosach at y pwnc. Ebe ymofynydd, "A yw pregethwyr Cymru yn gyfartal mewn doniau a gallu, i'r hyn oeddynt ddeg mlynedd ar hugain yn ol?" Am bregethwyr tu allan i enwad y Bedyddwyr, nis gallaf ddweyd nemawr i ddim yn yr ystyr hwn. Gallaf fod yn dra sicr wrth ddweyd nad yw rhestr pregethwyr mawrion can hired ag ydoedd yn ngorph enwad y Bedyddwyr. Mae yn eithaf posibl fod y pregethwyr yn gyffredin yn cymharu yn dda a rhai gynt. Mae y mwyafrif presenol o bregethwyr yn fwy dysgedig a gwybodus yn ddiau. Maent yn fwy diwylliedig. Mae eu manteision yn rhagori. Mae y gystadleuaeth yn fwy deffroedig. Amlygir deheurwydd arbenig wrth drafod pynciau.

Yn y pregethu ac nid yn y pregethwyr y mae y gwahaniaeth mwyaf amlwg. Na ryfedder wrth i mi ddweyd fod y pregethwyr llawn cystal a chynt, ag eithrio y cewri, ond nad yw y pregethu cystal. Ni allaf osgoi yr argyhoeddiad nad yw pregethu Cymru yr hyn ydoedd yn amser y' tadau, ddeg mlynedd ar hugain yn ol. Barnwyf fod y pregethu wedi eiddilo. Ymddengys y nodau gwanychol mewn amryw agweddau. Ni cheir yr un difrifoldeb a chynt. Wrth nodi hyn, cofier, nid ydym yn cyfeirio at unrhyw ysgafnder penodol, ond dweyd yr ydym nad oes yr un ardrem lem-ddifrifol yn ganfyddadwy ag a welodd rhai sydd yn fyw yn arweddu gweinidogaeth y tadau.

Nid yw y pregethu presenol mor gyfeiriadol ag eiddo y tadau. Anelid at gydwybodau gynt, anelir at ddifyru a boddhau yn awr. Amcenid at argyhoeddi gynt, amcenir hefyd at hwyl yn awr. Cyfeirid at nôd gynt, cyfeirir yn fwy gwasgaredig yn awr. Nid yw y pregethu yn tybio cymaint, er efallai yn siarad mwy. Mae yr ymegniad yn llawn cymaint, ond yr effaith yn llai. Mae y synwyrau corphorol yn llawn mor gyffroadol, tra mae rhai o synwyrau yr enaid yn dawel. Arwydda y pethau hyn nad yw y pregethu mor gyfeiriadol ag y bu unwaith.

Nodwn eto wahaniaeth nad yw er daioni. Nid oes yr un brwdfrydedd ag a fu. Ni cheir yr un angerddoldeb. Nid yw y tân yn ffaglu cymaint. Mae y pregethu diweddar yn fwy ofnus na'r hen. Clywid gynt daranu yn nod yn y nefolion yn erbyn drygau ysbrydol, hyd leoedd; prin yn awr y sibrydir gair yn erbyn drygau felly. Mae yr hyfder mawr wedi myned ar ddifancoll. Mae swn awdurdod y comisiwn wedi gostegu, ac yn ei le ceir swn areithyddiaeth ac hyawdledd parablol. Ni adnabyddir i raddau dymunadwy yn yr arddull bresenol, fod yr efengyl yn allu Duw. Nid oes yr un mîn rywfodd ar y weinidogaeth ag a brofwyd. Nid yw yr awelon ychwaith yn chwythu mor gryfion.

A yw pregethu presenol Cymru, tybed, mor wreiddiol ag oedd gynt? Credwn fod sail i amheuaeth. Nid ydwyf o'r rhif a gredant nad yw pregethwr i ddefnyddio pob help o fewn ei gyrhaedd. Wrth gwrs y mae yn iawn iddo wneyd. Eto, mae yn eithaf posibl fod y shop mor llawn o nwyddau, fel na fydd lle i'r gwerthwr eu trafod yn briodol. Argyhoeddiadau personol y pregethwr sydd yn rhoddi graen ar bethau. Os llywodraethir tafod a meddwl dyn yn ormodol gan eraill, anhawdd cael cysondeb yn ei leferydd. Enaid pregethu ydyw enaid y pregethwr, faint bynag fydd hwnw, ac edrych ar ochr ddynol i'r mater. Tuedda llenyddiaeth estronol orlifol i filwrio yn fawr yn erbyn gwreiddioldeb pregethu. Milwria hefyd yn erbyn gwreiddioldeb arddull Gymreig. Nid oes angen ymhelaethu yma er profi fod llyfrgelloedd pregethwyr Cymru yn dra llawn o'r math hwn o ddefnyddiau darllen ac efrydiaeth. Gormod o waith i unrhyw dalent Gymreig ydyw Cymreigio meddylddrychau ac iaith y fath lenyddiaeth estronol Seisnig, i raddau dyladwy. Mae pregethu Cymraeg mewn caethiwed peryglus yn nghanol y fath elfenau estronol. Tybir gan rai, efallai, oddiwrth y sylwadau hyn, fy mod yn awgrymu diffyg eithafol mewn gwreiddioldeb yn mhregethu presenol Cymru. Dim o'r fath beth. Y cwbl a ddymunwyf ddweyd ar y pen hwn yw, nad oes yr un graddau o wreiddioldeb a chynt. Wrth gwrs, nid ydym i anghofio y ffaith fod temtasiynau llyfrol yr oes hon yn llawer lluosocach nag oedd rhai yr oes o'r blaen. Mae cynyrchion pen-campwyr meddylwyr Seisnig yn anghyffredin doreithiog. Mae perygli bregethwr golli ei hunaniaeth meddyliol pan y mae cymaint o feddyliau yn pwyso eu hunain arno.

Ac nid llenyddiaeth Seisnig yw yr un fwyaf estronol. Y llenyddiaeth Ellmynaidd sydd fwyaf dinystriol i bregethu gwreiddiol Cymreig. Mae cynyrchion meddylwyr Germanaidd yn dywyllion a dyryslyd i'r Saeson. Ond pan y ceir y cyfryw yn ail law, trwy yr iaith Saesoneg, mewn syniadau Cymraeg, y mae y syniadau a'r damcaniaethau Germanaidd yn dywyllion ac yn ddyeithr yn wir. Os ydym yn gywir yn y syniadau hyn, pa ryfedd fod gwahaniaeth-fod dirywiad yn mhregethu Cymru pan yn gymysgedig a'r fath elfenau estronol-pa ryfedd os yw gwreiddoldeb yn eisiau?

Ond nid ydym eto wedi myned at yr haen isaf a orwedd o dan bregethu Cymru heddyw. Y mae un haen o ddylanwad yn is i lawr na dim a enwyd, ag sydd yn argraffu ei delw yn amlycach ar bregethu na'r un o'r haenau ydynt yn nes i'r arwyneb.

Agoshawn at yr haen neillduol hon trwy ofyn pa agweddiad o'r cymeriad dwyfol a fyfyrir? Y mae prif nodwedd y pregethu yn troi ar y cwestiwn hwn. Ateber pa nodwedd, pa briodoledd neu briodoleddau o'r natur a'r cymeriad dwyfol fydd yn awyrgylch feddyliol y pregethwr, yna hawdd fydd dweyd beth fydd nodwedd ei bregethau. Hawdd canfod fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle yn yr ystyr hwn yn y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru, er amser y tadau, yn neillduol os eir mor belled ag amser Christmas Evans. Yn eu hamser hwy, yr oedd y priodoleddau o gyfiawnder, toster a phenarglwyddiaeth yn peri daeargrynfäau argyhoeddiadol. Yr oedd y cyfryw elfenau dwyfol, wrth gael eu sylweddoli yn ddyladwy yn eneidiau y pregethwyr, yn ymruo allan yn ofnadwy ddylanwadol yn eu gweinidogaeth. Cyrhaeddai y fath bregethu galonau celyd. Ni fyddai geiriau Duw trwy y fath genadon, yn dychwelyd yn weigion. Glynai y saethau yn nghalonau gelynion y brenin. Yr oedd y gwrthgloddiau mwyaf nerthol yn gorfod rhoi ffordd. Nid oedd yr elfenau dwyfol yn colli eu cymeriad trwy fyned trwy fyfyrdod a thraddodiad y genad. Hawdd oedd canu :

"Cerdd yn mlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân."

Prif lyfrau pregethwyr yr oes o'r blaen, heblaw y Beibl, oedd eiddo yr hen Buritaniaid ar y priodoleddau dwyfol. Trwy y cyfryngau hyn, deuent i gysylltiad uniongyrchol a'r nerthoedd hanfodol er gwneyd argraffiadau dyfnion ar bobloedd. Caffai y pregethwyr olwg eang ar y priodoleddau dwyfol yn ngweithiau y bobl dda hyny.

Yr oedd yr hen Buritaniaid wedi cyfansoddi eu gweithiau rhagorol yn ngoleuni tanbeidiol y diwygiad Protestanaidd. Pan ruthrodd Luther fawr wrol allan o ganol caddug yr eglwys Babaidd, gan ddal i fyny yn ei law ffaglen ddysglaer, yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd, caed golwg newydd ar y cymeriad dwyfol. Oddiwrth y goleu newydd hwn daeth goleuni y Puritaniaid; ac oddiwrth y naill a'r llall y daeth y diwygiad Protestanaidd i Loegr a Chymru. Cyfranogai pregethu yr oes o'r blaen o'r dylanwad gogoneddus hwn.

Yn bresenol, mae y dull yr edrychir ar y cymeriad dwyfol i raddau yn gwahaniaethu. O'r blaen, yr oedd cyfiawnder, gallu, doethineb a gras yn ffynonellau dwyfol ddylanwad. Yn awr, mae cyfiawnder a thoster o'r golwg-gras i gyd ydyw llais y weinidogaeth.

Ychydig o bregethu uffern a geir yn y pregethu presenol. Y mae yr arddull yn felodaidd a maddeugar iawn ei thôn. Y mae yr effeithiau yn niweidiol ar y pregethwr ac ar y bobl. Y mae yr olwg a gymerir ar y priodoleddau dwyfol yn rhy gyfyng ac un-ochrog, ac oblegid hyny mae y pregethu yn gyfyng ac un-ochrog. Y mae yr oll o'r priodoleddau wedi eu bwriadu i dywynu allan yn y weinidogaeth efengylaidd ar gyflwr andwyol a cholledig euog ddyn. Ac nid cynt nag y daw y weinidogaeth i wisgo y nodwedd eang yna y gwelir pregethu Cymru yr hyn ag y dylai fod.

Nodiadau

[golygu]