Naw Mis yn Nghymru/Ymweliad a Myfyr Emlyn
← O Dowlais i Gaerdydd | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
O Aberduar i Aberteifi → |
PENOD XXVII.
Ymweliad a Myfyr Emlyn.
Y Parch. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), yw gweinidog yr eglwys Fedyddiedig yn Narberth, Sir Benfro, ac sydd frodor o ardal Bethabara, o'r un Sir.
Efe ydyw awdwr "Dafydd Evans, Ffynonhenry," yr hwn sydd waith a ystyrir yn un o'r bywgraffiadau goreu yn yr iaith Gymraeg. Y mae efe yn awdwr amryw gynyrchion gorchestol eraill, megys pregeth "Y Cerbydau," cyhoeddedig yn yr "Echoes from the Welsh Hills," yr "Explanatory Notes," &c.
Y mae efe hefyd yn fardd rhagorol. Mae ei ganeuon yn adlewyrchu gwawr golygfeydd ysplenydd ardal Bethabara, ei enedigol fro, a dysgleirdeb llachar y môr gerllaw, pan o dan belydrau haul ganol dydd. Ei awen sydd o anianawd nefol, a cheir ei ddarluniadau weithiau fel yn gyfunrhyw a golygfeydd "ardal lonydd yr aur delynau.”
Yn mhlith ei gynyrchion barddonol goreu y mae ei ganeuon ar ei ymweliad a Brycheiniog, ac a'r Parch. Kilsby Jones. Yn y canau hyny gwna megys delyn o Gymru, gan ddefnyddio ei mynyddoedd a'i bryniau, ei llynau, ei hafonydd, a'i ffrydiau, fel tannau iddi. A chwery bysedd ei awen ar hyd y tanau hyn nes tynu o honynt y beroriaeth fwyna erioed.
Bydd ei benillion uwch bedd y Parch. John Roberts, (Tredegar gynt), yn Minersville, Pa., fyw byth. Ni phetrusaf wrth ddweyd mai efe ydyw yr athrylith fwyaf gloew yn Nghyfundeb y Bedyddwyr yn Nghymru heddyw. Pe buasai efe yn feddianol ar haner uchelgais llawer un, gallasai fod yn cael ei restru yn mhlith dosbarth Christmas Evans o bregethwyr.
Yr wyf yn llefaru fel hyn am dano ef oddiar fy adnabyddiaeth agos ag ef, pan yn gyd-fyfyriwr yn Athrofa Hwlffordd, bump-ar-hugain o flynyddau yn ol, yn gystal ag oddiar adnabyddiaeth helaethach o hono ef o'r pryd hwnw hyd yn bresenol.
Pan yn yr Athrofa, arferai y myfyrwyr bron yn ddieithriad, edrych i fyny ato gadag edmygedd mawr.
Y Parch. B. Thomas, D. D., Toronto, Canada, yn awr, (mab yr hybarchus gyn-weinidog Narberth), ac yntau oeddynt gyfeillion mynwesol. Yr ydoedd hoenusrwydd a thuedd chwareus ddiniwed y ddau yn nodedig i'r eithaf, ac yn nodweddiadol iawn o nwyfiant personau o dalentau cryfion yn y tymor ieuanc hwnw yn oes dyn. Yn unol a rheolau athrofaol y pryd hwnw, llawer o ddigrifwch diddichell a gaent ar adeg dyfodiad myfyrwyr newyddion i mewn, yn neillduol os ceid ambell un yn cael ei nodweddu gan hunanoldeb. Byddent yn gwneyd gweithrediadau "ordeiniad" un felly yn chwerw iddo; ond dealler, byddai y cwbl yn cael eu bwriadu er daioni y myfyriwr ieuanc.
Pan yn Nghymru, teimlwn awydd cryf i alw heibio iddo, ac yn fy llythyr ato yn ei hysbysu o fy mwriad, amgauais yr englynion canlynol:
Arferaf, Myfyr, ryw fwriad—i ddod
I Dde ar ymweliad;
Hyd Narberth, os caf nerthiad,
Daw 'r ol hyn i'm ado'r wlad.
Morio wnest i'r Amerig—i'm gwel'd i,
A'm gwlad hoff, ryddfrydig;
Dros fryniau môr-donau dig,
Gwir ydyw, o'et garedig.
Ai nid gormod o nôd mwynhau—y daith
Am unwaith i ninau;
Er cael bod ddiwrnod neu ddau
Yn ngwawl dy ddenawl ddoniau.
Yn drylawn mynwn dreulio—yr amser
I ymson a chofio
Hoen y coleg, 'rwy'n coelio,
A llwyr drefn llawer i dro.
O, ryfedd, mae'r athrofa—a'i thymor
Fyth i mi yn para
Yn swynol ddyddorol dda,
O gyffwrdd drwy adgoffa.
A thithau yn ddiau dd'wed—yn debyg,
Mi dybiaf, heb arbed;
I deulu, onid dyled
Noddi glwys gyn-anedd gled?
Cawn enwi holi helynt—y students,
Pa ryw 'stad sydd iddynt;
A ninau fel dau o honynt
A rown yn wyl ran o'n hynt.
O'r tri deg yn y coleg gynt,
Arwyddaf pa rai oeddynt:
Y Thomasiaid a'r Williamsiaid,
Y Daviesiaid irdwf foesau;
Yr Evansiaid a'r Phillipiaid;
Y Griffisiaid-gwyr a phwysau.
Ioaniaid a gaed yno—teleidwyr,
White a Lloyd, ddau eto;
A Samuel oedd fel y fo,
Ac o'n Watkins cawn adgo'.
A Rees, yr hen Drysorydd—arianol,
Yr hwn ofnem beunydd;
Scursio am dano fo fydd,
Gwn, o gwelwn ein gilydd.
Fe allai na fu cyfeillion—ffyddlonach,
Nac ablach dysgyblion;
A thrwyadl yr athrawon
I mlesio i melus son.
Yr ydoedd rhai eithriadau—o honom
Yn weiniaid, yn ddiau;
Ambell ful yn cul nacau
Rhoi ei hawl i'r rheolau.
Chwarter canrif a rifwyd—er hyny
Yr einioes fyrhawyd;
Cryn y llaw, a'r coryn llwyd,
Och, yrwan ddechreuwyd.
Paid synu na rhyfeddu'n fawr—o wel'd
Giraldus yn d'orawr;
Y gwir yw, bydd gwr y Wawr,
Yn ymyl cyn pen nemawr.
Yn burwych bydd yn barod—i adrodd
Pêr fydrau'r hen gyfnod;
Fel yna gofala fod
I wynebu 'th gydnabod.
Yn fy llythyr hefyd awgrymais y pregethwn yn ei gapel pan yn galw, os yn ddewisol ganddo. Yntau a atebodd nad ystyriai hyny yn ddefnydd cysur i mi, gan nad dymunol i Gymro geisio pregethu yn Saesoneg i bobl ddyeithr ac estronol, fel yr oeddwn i i'w bobl ef.
Gan i mi orfod oedi fy ymweliad am rai wythnosau, yr oeddwn yn gohebu eilwaith ag ef, gan awgrymu eto y pregethwn iddynt os ewyllysient, a fy mod yn well Sais yn awr na chynt. Ysgrifenwn ato fel hyn am y tybiwn mai ofni fy Saesoneg yr ydoedd (oblegid Sais bychan iawn oeddwn yn yr Athrofa,) ac na fynai fod un aflerwch ieithyddol ac ymadroddol yn dygwydd ag a fuasai yn peri diflasdod i'r gynulleidfa, a thrwy hyny. i mi ac yntau. Yn gwybod hyn, dymunwn inau chwareu ychydig a'r ofn hwn, gan gymell fy ngwasanaeth trwy bregethu yn ei gapel yn Saesoneg pan y delwn; er hyny, yn ysgafn y cymellwn hyn arno, gan ddatgan fy mod yn gadael y peth yn hollol yn ei law ef, ac y byddwn yn hollol foddlawn i'r trefniadau fodd bynag y byddent.
Trefnwyd i mi bregethu yn Narberth ar nos Lun. Pan gyrhaeddais, ebe Myfyr Emlyn wrthyf, "Yr wyf wedi dy gyhoeddi neithiwr i bregethu. Dywedais y byddai i ti roddi oddeutu chwarter awr o'th bregeth yn Saesoneg, a'r gweddill yn Gymraeg." "Pob peth yn iawn" meddwn. Daeth capeliad da o bobl yn nghyd. Pregethais inau yn Saesoneg, a rhoddais ychydig eiriau yn y diwedd yn y Gymraeg.
Yn niwedd yr oedfa, cyfodai Myfyr ar ei draed, gan wneyd ymddiheuriad i'r bobl am na fuaswn wedi rhoi ychwaneg o fy mhregeth yn Gymraeg iddynt. Tystlai wrthynt iddo ef fy hysbysu o natur y cyhoeddiad, ac nad oedd ef i'w feio am na chawsent ychwaneg o Gymraeg. Ac ychwanegai y gwyddai ef paham yr oeddwn wedi pregethu cymaint o Saesoneg iddynt, sef mai eisiau dangos iddo ef oedd arnaf, fy hyddysgrwydd yn y Saesoneg, a fy ngallu i bregethu yn yr iaith hono. Hysbysai hefyd mai Sais gwael oeddwn yn dod i'r Athrofa, a rhoddai engreifftiau o fy Saesneg llarpiog y pryd hwnw, er dirfawr ddifyrwch i'r bobl. Yr oedd ef yn dweyd hyn yn y Gymraeg, ac oddiwrth waith y bobl yn gwenu ac yn mwynhau ei sylwadau, gallesid barnu nad oedd neb yn bresenol heb fod yn deall iaith Gwalia. Cydnabyddai fy mod wedi gwellhau yn fawr yn fy Saesoneg; ac os byddai i mi gynyddu cymaint yn yr iaith yn y pum' mlynedd ar hugain nesaf ag oeddwn wedi wneyd yn y chwarter canrif diweddaf, y byddwn yn Sais da erbyn hyny.
Erbyn hyn yr oedd yn amser i minau amddiffyn fy hun, a hyny a wnawn gan ddweyd nad oedd eu parchus weinidog a'm cyfaill hoffus yn hollol gywir yn ei ddehongliad o'm hamcan wrth esgeuluso pregethu Cymraeg. Yr amcan oedd, nid yn gymaint i ddangos fy hyddysgrwydd yn yr iaith, ond yn benaf er gwneyd fy hun hun yn ddealladwy i'r gynulleidfa; canys yr oeddwn wedi deall y cyhoeddiad o enau y gweinidog yn tybio rhywbeth fel hyn: "Saeson ydyw y bobl yma, wel di, ond mae rhai o honynt yn deall tipyn o Gymraeg; a rhag i ti ddygwydd methu gyda y Saesoneg, paid gofalu am bregethu llawer yn yr iaith hono; dywed ychydig bach yn y Saesneg, os gelli, yn y dechreu, ac yna ymollwng i'r hen Gymraeg." "Yna," meddwn, "yn lle trugarhau wrthyf fy hun, yn ol yr awgrym yna gan eich gweinidog, trwy beidio dweyd Saesoneg, cydymdeimlais a'r bobl yn hytrach, nad oeddynt yn deall Cymraeg yn ol yr hysbysiad a gawswn-gan ddweyd wrthynt fel y gallwn yn yr iaith a ddeallent.”
Arwyddai y bobl deimladau hynod foddhaus tra yn gwrando ar yr egluriadau pwysig yna o'r ddau du; felly yn y diwedd, a chymeryd y cyfan o'r gweithrediadau i ystyriaeth, credwyf y cafwyd cyfarfod go lew, a hyny heb archolli y Saesoneg yn ddrwg iawn, nac archolli neb arall. Ond yr oedd yr hwyl a gafwyd trwy y sylwadau diweddaf i'w briodoli yn benaf i natur dda a ffraethineb Myfyr Emlyn.
Bu galar Mr. Thomas yn fawr ar ol ei anwyl briod, "Margaret," ac y mae rhagluniaeth Duw fel pe wedi cydymdeimlo drosto, a rhoddi iddo ail Mrs. Thomas, o nodweddau gwraig rinweddol.
Ni fu fy arosiad ond yn unig dros noswaith. Canol dydd dranoeth yr oeddwn yn cefnu ar Narberth, gan deimlo fy mod wedi byw llawer iawn mewn ychydig iawn o amser, a chael mwynhad o gymdeithas cyfaill a brawd oedd o'r fath werth a dyddanwch nad allaf ei hanghofio tra fyddwyf.