Naw Mis yn Nghymru/Yn Sir Fon
← Wrth Feddau Enwogion | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Yn Gwrando Mr. Spurgeon → |
PENOD XII.
Yn Sir Fon
Er nad yw ardal fy ngenedigaeth yn mhell oddiwrth derfynau Sir Fon, eto aethai dros haner cant o flynyddau heibio cyn i mi gael y fraint o sangu ei chynteddau. O'r diwedd daethai y cyfleustra. Dygwyddodd hyny yn Mawrth, 1886. Yr oedd galwad arnaf, tra yno, i fod yn brysur, canys dwy wythnos yn unig oedd yn y trefniant i mi aros yn yr ynys.
Rhaid i mi addef nad oeddwn yn deall arwyddion y tywydd a'r amserau yn rhy dda ar yr adeg hono o'r flwyddyn. Pe gwybiaswn fod y fath dywydd tymestlog ar fin ymdywallt ar y wlad y pryd hwnw, diau mai anhawdd fuasai cael genyf gychwyn i'm taith o Gaernarfon. O ran hyny, prin yr oedd neb o brophwydi y tywydd yn gallu rhagweled y storom fawr oedd yn nesu. Nid oes dim yn America y byddaf yn arfer cwyno mwy o'i herwydd na'r tywydd oer a'r eira mawr. Ac yn awr ofnwn braidd fy mod yn cael tipyn o gerydd gan ragluniaeth am hyny, trwy gael fy arwain i fod ar daith yn Mon yn ystod y dymestl anarferol o wynt ac eira a ysgubodd dros holl Ogledd Cymru y pryd hwnw. Prin y bum allan ar dywydd mwy tymestlog yn America nag oedd hwnw. Yn wir, daethai mis Mawrth y tro hwn i mewn fel llew, ac nid oedd yn rhy debyg i oen yn myned allan. Cwynai y bobl yn anghyffredin oblegid erchylldra a gerwindeb y tywydd. Tystiai hen bobl nad oeddynt yn cofio y fath dywydd tymestlog er's llawer o flynyddoedd, os erioed. Boreu y dydd Llun y torodd yr ystorm ar y wlad, daeth agerlong fawr i'r lan gerllaw Caergybi. Colli ei chwrs a wnaethai oblegid tywyllni y dymestl. Y "Missouri" ydoedd, llestr perthynol i'r Warren Line, Lerpwl. Llong fawr iawn, yn cario yn agos i 6,000 o dunelli. Y trydydd diwrnod ar ol ei dyfodiad i'r lan, aethum, yn nghwmni Mri. Owen Owens ac Uriah Williams, Pontripont, i'w gweled. Cawsom gryn drafferth i fyned i safle da i gael golwg arni. Gorweddai yn ymyl y lan, ar ei hochr. Yr oedd nifer o fân fadau o'i chwmpas, yn cael eu defnyddio gan rai ugeiniau o ddynion, i'w dadlwytho. Yr oedd cryn lawer o'i llwyth eisoes ar y glanau. Gwelais niferoedd o gyrph yr anifeiliaid a gludasai yn nofio gerllaw, eraill o honynt yma a thraw ar y traeth. Cotwm oedd llawer o'r llwyth, blawd, gwenith, afalau, cig moch, a phethau gwerthfawr eraill at wasanaeth dyn. Y fath golled aruthrol. Gresyn oedd gweled llong mor ardderchog yn y fath gyflwr! Wrth ddyfod oddiwrthi, yn nghyfeiriad Caergybi, gwelais ugeiniau o anifeiliaid a gludasai, a achubwyd rhag boddi, mewn maes gerllaw, yn edrych yn eithaf hamddenol, yn cnoi eu cil, a rhai mewn teimladau, chwareus, a'r oll yn ymddangos fel pe na fuasai dim o bwys wedi dygwydd iddynt. Ofnid fod y llong fawr yn wreck perffaith, ac nad oedd modd byth ei chael oddiyno ond yn ddarnau. Daethai i'r lan, mewn cilfach yn ngenau yr hafan yn yr hon yr arferai y mail ddyfod i mewn o'r Iwerddon ar dywydd mawr, pan yn analluog i fyned i borthladd Caergybi.
Telais ymweliad a'r eglwys Fedyddiedig yn Nghaergybi, a chefais oedfa gysurus-cynulleidfa fawr, ac yn gwrando yn weddus. Mae yr eglwys hon y fwyaf o lawer sydd gan yr enwad yn Mon. Rhifa tua 400 o aelodau. Bu yr hybarch William Morgan, D. D., yn weinidog yma 48 o flynyddoedd, a thrwy ei offerynoliaeth ef yn benaf y daeth yr achos yno i'w safle uchel bresenol. Y mae olion amlwg o'i lafur a'i ddylanwad i'w gweled ar yr eglwys a'r gynulleidfa.
Tranoeth, aethum i fonwent y capel i weled ei fedd ef, a hefyd bedd yr enwog P. A. Mon, tad y llenor adnabyddus Ap P. A. Mon. Bu farw Dr. Morgan Medi 15, 1872, yn 71 mlwydd oed. Bu farw P. A. Mon Chwef. 19, 1842, yn 52 mlwydd oed. Ar gareg ei fedd y mae yr englynion canlynol, o eiddo Cynddelw:
Yma gorwedd y mae gwron—un oedd
Yn addurn i'r Brython;
Rhyw gawr yn mhob rhagorion
Y bu y mawr B. A. Mon.
Ei orddawn oedd yn urddas-i'n cenedl,
Ein ceiniaith a'n barddas;
Hydreiddiol awdwr addas,
Llyw ei fawr gred oedd llyfr gras.
Gweinidog presenol yr eglwys hon yw y Parch. R. Thomas, brawd y Parch. Isaac Thomas, Caersalem Newydd. Y mae wedi gweinidogaethu yma er's dros bymtheng mlynedd, ac y mae efe wedi derbyn i gymundeb yr eglwys y nifer a ganlyn yn ystod ei weinidogaeth : Trwy fedydd, 253; trwy lythyrau, 210; trwy adferiad, 72; cyfanswm, 535. Gresyn na fuasai cofiant teilwng wedi ei ysgrifenu i'r hen wenidog. Deallwn fod y diffyg hwn wedi dygwydd trwy amryfusedd a chamddealltwriaeth personau yr oedd y defnyddiau ganddynt.
Gwelais y fan y collodd Iolo Mon ei fywyd. Druan o Iolo-mae y muriau a syrthiasant arno wedi eu hailgodi, ond y mae yr adfeilion y claddwyd ef ynddynt heb eu hadferyd eto.
Cefais hefyd frys-olwg ar dref Caergybi—y breakwater a gorsaf-borthladd y "London and North-Western Railway." Y mae y breakwater yn werth ei weled, yn ddiau. Yn sicr y mae John Bull yn gryn ddyn! Mae yn gallu gwneyd gorchestion iawn. Nid oes modd cerdded ar hyd y mor-fur hwn heb deimlo hyny. Dyna gadarn yw y morglawdd hwn, a dyna arian lawer a gostiodd. Pa ryfedd fod Shon Bwl y fath allu yn y byd yma! Yn nghysgod y mur hwn yr oedd un o brif longau rhyfel Prydain, yr "Hotspur," yr hon a gymerai ran yn nhânbeleniad Alexandria. Oddiamgylch iddi yr oedd amryw longau yn ymgysgodi. Edrychai yr "Hotspur" yn ddiniwed ei gwala, ond gwylied pawb rhag ei gwrthwynebu ddim. Yr oedd y llong arswydfawr hon yn y porthladd hwn er's misoedd, meddir, a'r amcan oedd gwylied y Gwyddelod! Druain o'r Gwyddelod! Mae amser gwell, er hyny, ar wawrio arnynt yn awr, yn ol pob tebygolrwydd. Y mae nifer lluosog o bobl oreu Prydain ac America yn cydymdeimlo yn fawr a hwynt.
Pan oeddwn yn Pontripont, lle tua phedair milldir o Gaergybi, galwyd fy sylw at y nifer lluosog o hen bobl sydd yn y plwyf. Yr hyn a barodd hyn i ddechreu oedd, fod dau neu dri yn y fan a'r lle o hen bobl yn cael siarad am danynt ar y pryd. Cymellwyd fi gan chwilfrydedd i wybod am nifer yr hen bobl yn yr holl blwyf, sef plwyf Rhosgolyn. Nifer poblogaeth yr holl blwyf yw 350. Yr oedd y nifer a ganlyn o hen bobl yno yn mis Ionawr 1886:
Mrs. Margaret Williams | 86 | |
Mrs. Margaret Owen | 86 | |
Mrs. Ann Chambers. | 86 | |
Mrs. Sarah Griffiths. | 91 | |
Mr. Owen Roberts. | 93 | |
Mr. Richard Evans. | 92 | |
Mr. Richard Jones. | 86 | |
Miss Margaret Williams | 80 | |
Mr. Richard Williams (F'ewyrth Dic). | 80 | |
Mrs. Margaret Williams. | 78 | |
Mr. John Williams (John Rasol). | 81 | |
Mrs. Mary Jones. | 80 | |
Mr. Ellis Jones | 78 | |
Mr. William Williams. | 80 | |
Mr. Richard Williams | 78 | |
Mrs. Ann Jones. | 76 |
Ni wnaethum ddewisiad arbenig o'r plwyf hwn. Er dim a ddeallais, gall nifer yr hen bobl mewn plwyfi eraill fod yn llawn mor lluosog.
Clywais ddweyd lawer gwaith fod pobl Mon mor garedig i bregethwr a phobl Sir Benfro. Hyd ag y gwelais i, ni chefais le i amheu y dywediad. Bum yn Amlwch, hen faes yr enwog a'r hybarch ddiweddar Hugh Williams. Haeddbarchus ydoedd efe yn ei ddydd, a'i enw sydd beraroglus yn y lle ac yn y Sir. Nid oedd neb yn fwy teilwng o'i swydd nag efe yn Mon. Mae yr eglwys yn Amlwch yn parhau yn llewyrchus a lluosog. Cymhara yn dda ag unrhyw eglwys yn y lle o ran rhif a dylanwad. Y gweinidog presenol yw y Parch E. Evans, yr hwn sydd yn llenwi ei le yn dderbyniol iawn. Symudasai yma o Dreffynon tua thair mlynedd yn flaenorol. Y mae llawer o ddelw gyfrifol-barchus yr hen weinidog gynt ar yr eglwys hon yn barhaus.
Pan oedd Hugh Williams wedi sefydlu yn Amlwch, a Christmas Evans yn llafurio yn Mon, adroddir ddarfod i gryn derfysg gyfodi yn yr eglwysi oblegid Ffwleriaeth a Chalfiniaeth. Yr oedd Christmas wedi ei wreiddio erbyn hyn mewn Calfiniaeth-Hugh Williams yn Ffwleriad proffesedig. Yr oedd gan y naill a'r llall eu dilynwyr. O'r diwedd daeth yn bur derfysglyd trwy y gwersylloedd. Yr oedd pethau yn gwisgo agwedd fygythiol. Galwyd gweinidogion o Swydd Dinbych, ac yn eu plith y Parch. Ellis Evans, Cefnmawr, i geisio cymodi y ddwy blaid. Cyfarfyddwyd yn Bodedeyrn, a llwyddwyd i ffurfio rhyw fath o gymod, canys dywedai Christmas Evans, wrth Ellis Evans, yr hwn o herwydd ei ochelgarwch, ni ddaethai yno nes oedd pob peth drosodd-" Wel Ellis, yr ydym ni wedi claddu y diawl." "Da iawn," ebe Ellis Evans, "ond gobeithio na ddarfu i chwi mo'i gladdu o yn fyw." "Hawyr bach, oes arnat ti chwant ei godi o fyny i gael gweled?""
Gerllaw Amlwch y mae Pensarn, ac aethum yno cyn dychwelyd o'r ardal. Ni welais wrandawyr mwy hwyliog yn un man yn Mon nag yno. Rhaid fod sefyllfa yr achos yn llewyrchus yno gynt, pan oedd gweithiau mynydd Paris yn myned yn dda. Y mae fod y cyfryw wedi mwy na haner sefyll wedi peri i laweroedd o bobl weithgar y parthau hyny symud ymaith i leoedd eraill. Dylanwadodd hyny yn anffafriol, yn ddiameu ar yr achosion crefyddol, ac y mae Pensarn wedi dyoddef yn fawr oblegid hyny.
Y rhan galetaf o'r daith yn Mon oedd myned un hwyr o orsaf y Valley i Lanfachreth. Dygwyddodd hyn ar adeg yr eira mwyaf. Yr oedd y lluwchfeydd mor uchel mewn rhai manau fel yr oedd yr heolydd wedi cau i fyny yn hollol. Nid oedd olion teithio o unrhyw fath i weled odid yn un man. Yr oedd yn hwyrhau yn brysur, a minan i fod yn pregethu yn Llanfachreth y noson hono. Yr oedd yn annymunol oddiallan, ond yn fwy felly oddimewn. Ymderfysgai fy meddwl ynwyf. Nid oedd dim i'w wneyd ond ymdrechu tynu yn mlaen. Yr oedd yr eira yn myned yn ddyfnach, ddyfnach, fel y neswn at y Llan. Mynych yr oeddwn yn gorfod tori allan o'r heol a throsodd i'r meusydd. Mynyddoedd o eira yn fy nghyfarfod yno drachefn, a cheisiwn ddychwelyd i'r heol. Yn y man, modd bynag, trwy hir ymdrechu cyrhaeddais y pentref yn ddiogel. Derbyniwyd fi yn garedig, a chafwyd oedfa fach burion. Nid anghofiaf y tro tra bwyf byw. Gallaf dystio fod ymgeledd, sirioldeb a charedigrwydd y brodyr yn Llanfachreth yn felus a gwerthfawr ryfeddol i mi y noson hono. Yr oeddynt hwy yn gwenu, a minau yn gwenu wrth i mi adrodd iddynt helyntion y daith yno. Gallwn feddwl fod yn anmhosibl i wr dyeithr gyfarfod a brawd caredicach a siriolach na Mr. Edwards, y gweinidog.
Brodor o Llanfachreth ydyw y Parch. O. Waldo James. Dyddorol i mi oedd sylwi ar y ty lle y cychwynodd efe ei yrfa ddaearol.
O'r gymydogaeth hono y daeth rhieni y Parch. H. O. Rowlands, M. A., i America.
Tranoeth, yr oedd genyf i fyned i Soar, Llanfaethlu. Os oedd yr heolydd yn gauedig gan eira o'r blaen, yr oeddynt ar y ffordd hon yn llawer mwy felly. Ni allaf ddesgrifio mor annheithiadwy y ffordd. Cefais dipyn o ddefnydd sirioldeb, modd bynag, wedi cyrhaedd cymydogaeth Soar, wrth gyrchu at dy y gweinidog, yn nghymdeithas dau neu dri o frodyr oedd yn cyd-deithio, yn ngwaith un o honynt, wrth fethu cael daear galed, yn "enill ei bedolau" yn yr eira.
Y mae eglwys Soar ac eglwys Rhydwyn yn perthyn i'r un esgobaeth. Mr. Roberts, y gweinidog, sydd ddyn ieuanc parchus.
Nid oedd rhestr fy nghyhoeddiadau yn cynwys Rhydwyn. Da iawn hyny, yn gymaint a bod yr hin mor anffafriol, a'r heolydd mor anhygyrch. Pe yn gyfleus, buasai yn dda genyf allu galw yn Rhydwyn.
Brodor o Rhydwyn, Llanrhyddlad, ydyw y boneddwr adnabyddus T. Solomon Griffiths, Ysw., Utica, N. Y. Pa nifer bynag o dalentau a gafodd efe yn Rhydwyn. i farchnata a hwynt, gan ei arglwydd, gellir bod yn sicr ei fod ef yn ychwanegu atynt yn anrhydeddus yn ei wlad fabwysiedig.
Yn Llandegfan, ar fin afon Menai, yr oeddwn y Sabboth olaf yn Mon. Eglwys fechan sydd yno, ond mae y frawdoliaeth yn ffyddlon. Yn ddiweddar, bu farw yno hen frawd nodedig am ei ffyddlondeb, o'r enw W. Williams, ar ol yr hwn teimlid colled fawr. Mr. Williams, y mab, gyda'r hwn y lletywn, a geisiodd genyf wneyd englynion coffadwriaethol i'w anwyl dad. Dywedai iddo ef ei hun wneyd cynygion at gyfansoddi llinellau ar ei ôl, ond iddo fethu. Trwy ei fod yn ymbil yn daer arnaf, a minau yn tybied fod y testyn yn deilwng, cyfansoddais a ganlyn:
William Williams yn ei amser—oedd ddyn
Haeddianol a thyner;
Un oedd o luoedd lawer,
I'w rifo yn eiddo Nêr.
Bedyddiwr a bywyd addas,—a brawd
Ysbrydol ei urddas;
Aelod o Grist golud gras,
Gu feddodd yn gyfaddas.
Yr achos oedd yr uchaf—yn ei fryd,
A than ei fron amlaf;
Ac addoli mewn bri braf
Hir wnelai 'r gwr anwylaf.
Nid selog 'r hyd y Suliau—a rhyw oer
Ar yr ereill ddyddiau;
Yn ddiflin oedd flynyddau,
Yn bur o hyd gwnaeth barhau.
Ei waith a roes, gwnaeth ei ran—yn lewaidd
I loewi Llandegfan;
Hawliaf fi mai'r loewaf fan
Dda yno oedd ei hunan.
Y goe len dlos gangenog,—ger ei fedd,
Gar fod yn sefydlog;
Ei glod daen a i graen yn grog
I sylw rhai anselog.
Gelwais heibio i rai manau eraill yn y Sir, megys Cae'rceiliog, Rhosybol a Llangoed.
Adwaenir ynys Mon, er cyn cred a chof, wrth yr enw "Mon, mam Cymru." Dywedir mai ffrwythlonedd hynod yr ynys, rhagor parthau eraill y Dywysogaeth, a barodd iddi gael ei galw yn Fam Cymru. Cyn cynyddiad rhyfeddol y bobl yn y ganrif bresenol, cyfrifid fod Mon yn alluog i gynyrchu digonedd o rawn ac anifeiliaid i borthi holl drigolion Gwynedd, Powys, a'r Deheubarth. Ffrwythlonedd rhyfeddol daear eu trigias a alluogodd drigolion yr ynys trwy yr holl oesoedd, i gadw i fyny gymeriad uchel, ar gyfrif eu haelioni i'r rhai tlodion a rheidus. Mewn cyfeiriad at y digonolrwydd yma, yn nghyda pharodrwydd y trigolion i groesawu ymwelwyr â gwleddoedd breision, y canai un o'r beirdd :
"Gor-ddu yw brig y Werddon,
Gan fwg ceginau o Fon."
Hyny yw, cymaint oedd y ceginiau yn Mon, fel y cyrchid torchau mwg y ceginau dros y mor, nes pardduo y Werddon. Moesgar gyfeiriai Goronwy Owain at olud cynhenid ei wlad hefyd pan y dywedai:
"Henffych well, Fon, diriondir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail i Eden,
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiw-ddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Nêr a dyn wyd."