Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd
Gwedd
← O! Sancteiddia f'enaid, Arglwydd | Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd gan David Charles (1762-1834) |
Mae dy Ysbryd Di yn fywyd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
260[1] Gwaith yr Ysbryd Glân ar y Galon.
87. 87. 47.
1 NERTHOEDD y tragwyddol Ysbryd,
Yn haeddianau'r dwyfol Iawn,
A wna'r fynwes ddiffaith galed
I ffrwythloni'n hyfryd lawn
O rasusau,
Pêr blanhigion nefol wlad.
2 Creigiau tanllyd Salem waedlyd,
A fu'n bloeddio ag un llef,
Am Dywysog mawr y bywyd,
"Ymaith! O! croeshoelier Ef!"
Gwnaeth i'r rheini
Wylo edifeirwch pur.
3 Os disgynni, addfwyn Ysbryd,
I ryw fynwes ddu fel hyn,
A'i haddurno â phur ddelw'r
Hwn fu farw ar y bryn,
Mawl a seinia
Trwy'r holl nefoedd fawr am hyn.
David Charles (1762-1834)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 1, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930