Neidio i'r cynnwys

Ni all angylion nef y nef

Oddi ar Wicidestun
O! na chawn i olwg hyfryd Ni all angylion nef y nef

gan William Williams, Pantycelyn

Na foed im feddwl, ddydd na nos
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

222[1] Mawredd Cariad Crist.
888. 888.

1 NI all angylion nef y nef
Fynegi maint ei gariad Ef,
M:ae angau'r groes yn drech na'u dawn:
Bydd canu uwch am Galfari
Na dim a glybu angylion fry,
Pan ddelo Salem bur yn llawn.

2 Am iddo farw ar y bryn,
Cadd f'enaid bach ei brynu'n llyn,
A'i dynnu o'i gadwynau'n rhydd:
Wel, bellach, dan ei haeddiant Ef,
Fel cysgod rhyw gedrwydden gref,
Gorffwysaf mwy yng ngwres y dydd.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

[golygu]
  1. Emyn rhif 222, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930