Ni welodd llygad dyn erioed
← Na foed im feddwl, ddydd na nos | Ni welodd llygad dyn erioed gan William Williams, Pantycelyn |
Gwnaed concwest ar Galfaria fryn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
224[1] Hawddgarwch Crist
888. 888.
1 NI welodd llygad dyn erioed,
Ni chlywodd clust o dan y rhod
Am neb cyffelyb iddo Ef:
O! Rosyn Saron hardd ei liw:
Pwy ddyd i maes rinweddau 'Nuw?
Efe yw bywyd nef y nef.
2 Fe ddaw diwrnod-doed pan ddêl,
A'r llygaid yma'u hun a'i gwêl,
Pan ymddangoso'i fawredd Ef,
Mewn rhwysg a harddwch, parch a bri,
Ymhlith cwmpeini aneirif ri'
Fydd yn rhyfeddod nef y nef.
3 O! f'enaid, edrych arno'n awr,
Yn llanw'r nef, yn llanw'r llawr,
Yn holl ogoniant dŵr a thir;
Nid oes, ni fu erioed, ni ddaw,
O'r dwyrain i'r gorllewin draw,
Gyffelyb i'm Hanwylyd pur.
4 Mi garaf fy Anwylyd mwy,
Ddioddefodd trosof farwol glwy',
Agorodd ffynnon loyw fyw;
I olchi'r holl archollion wnaed
Gan bechod cas, o'm pen i'm traed,
Y dyfroedd dardd dan groes fy Nuw.
- William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 224, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930