Noson o Farrugl (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Noson o Farrug (testun cyfansawdd)

gan Robert Griffith Berry

Y Ddrama
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Noson o Farrug
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
R. G. Berry
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




List of Plays and Dramas

IN ENGLISH AND WELSH.

1. HELYNT HEN AELWYD NEU HELBUL TAID A NAIN. (R. Williams.)
2. YR HEN GRYDD. (J. Lloyd Jones.)
3. THE VILLAGE WIZARD. (Dr. Naunton Davies.)
4. DEWIN Y PENTREF. (Dr. Naunton Davies and Ifano Jones.)
5. BEDDAU'R PROFFWYDI. (W. J. Gruffydd.)
7. RUTH. (J. J. Williams.)
8. ASGRE LAN. (R. G. Berry.)
9. AR Y GROESFFORDD. (R. G. Berry.)
10. THE POACHER. (J. O. Francis.) (See No. 82.)
12. THE BAKEHOUSE. (J. O. Francis.)
13. CHANGE. (J. O. Francis.)
14. NOSON O FARRUG. (R. G. Berry.)
15. Y PWYLLGOR. (D. T. Davies.)
16. YR HEN DEILIWR. (J. Lloyd Jones.)
17. THE GREAT EXPERIMENT. (Dr. Naunton Davies and Stanley Drewitt.)
18. THOSE WHO WAIT. (E. Cove.)
20. RYBECA. (Gwili.)
22. YR HEN SCWLIN. (J. Lloyd Jones.)
23. DAFYDD AP GWILYM. (Harry Evans.)
24. PLANT Y PENTREF. (Megfam.)
25. "OWAIN GLYNDWR" SERIES."
27. HANNAH COMES ROUND. (G. J. Griffith.)
28. CASTELL MARTIN. (D. T. Davies.)
29. FFROIS. (D. T. Davies.)
30. THE SECOND SON. (Dr. Naunton Davies.)
31. THE EPIDEMIC. (Dr. Naunton Davies.)
32. A MONOLOGUE FOR ME. (Dr. Naunton Davies.)
33. THE CONVERSION. (Dr. Naunton Davies.)
34. THE SCHEMER. (Dr. Naunton Davies.)
35. THE ARROGANCE OF POWER. (Dr. Naunton Davies.)
36. THE HUMAN FACTOR. (Dr. Naunton Davies.)
37. THE CRASH. (Dr. Naunton Davies.)
38. COLLI AC ENNILL. (W. Bryn Davies.)
39. THE FOUR-LEAVED CLOVER. (Betty Eynon Davies.)
40. Y FAM. (Betty Eynon Davies and Kate Roberts.)
42. SANTA CLOS. (Megfam.)
43. "TWCO 'FALAU." (Megfam.)
44. CANU CAROLAU. (Megfam.)
45. PEN-BLWYDD MEGAN. (Megfam.)
46. MERCHED Y MWMBWLS. (Megfam.)

The Educational Publishing Co.,

28, Charles Street, Cardiff,

and Principality Press, Wrexham.

Sole Agents in Wales for Messrs. Samuel French, Ltd.

Welsh Drama Series No. 14.

NOSON O FARRUG

Drama Fer mewn Un Act

Gan

R. G. BERRY

Awdur "Asgre Lân," "Ar y Groesffordd," etc.



LONDON:

SAMUEL FRENCH, LTD., PUBLISHERS, 26, Southampton Street, Strand, W.C.2.

MANCHESTER : SAMUEL FRENCH, LTD., 59, Cross Street.

NEW YORK:

SAMUEL FRENCH, INC., PUBLISHER, 25, West 45th Street.

SOLE AGENTS IN WALES:

THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO.

28, Charles Street, Cardiff, and Principality

Press, Wrexham.



Rhaid cael caniatâd i chwarae'r ddrama hon.

Copyright under the Copyright Act, 1910.


All applications to perform this play must be addressed to the Publishers.

No performance may take place unless an official licence from the.
Publishers has been obtained.



CYMERIADAU:

WILIAM HUWS — Tad.
ELIN HUWS — Mam.
JANE — Y Ferch.
DIC — Y Mab.



NOSON O FARRUG

GOLYGFA.

[Cegin mewn mewn ffermdy bychan. Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân. Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar dde yn agor i'r buarth. Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth. Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr. Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter. Croger almanac uwchben y lle tân. Pan gyfyd y llen, gwelir ELIN Huws mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân. Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd. Gwelir ei merch JANE yn smwddio bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith. Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur. Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur.]

JANE: Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch â hel meddylia.

ELIN (yn procio'r tân): Mae'r breuddwyd ges i neithiwr wedi 'ngneud i'n reit anesmwyth.

JANE (yn awdurdodol): Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer.

ELIN (yn gwynfanus): Da ti, Jane, paid â 'nghipio i mor chwyrn, achos dydw i ddim y peth fûm i o ran f'iechyd.

JANE: 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na.

ELIN: Hawdd y gelli di siarad, 'ngeneth i: rwyt ti wedi cael iechyd di-dor ar hyd dy fywyd : fuost ti rioed fis yn sâl i mi gofio, ac fel y dywed yr hen air, "Nid cyfarwydd ond a wypo." Ac anodd iawn i rai fel dy dad a thitha gydymdeimlo'n iawn â phobol wanllyd. Dyna dy dad

JANE: Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd-mod i'n tynnu ar ôl 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo.

ELIN: Waeth hynny na rhagor, rwyt ti'n debycach yn dy ffordd i ochor dy dad nag i f'ochor i. Cofia, ddeydis i rioed air bach am dy dad; dyn cyfiawn ydi o; mae o'n garedig hefyd yn 'i ffordd 'i hun, ond mae 'na rywbeth caled yno fo er hynny.

JANE: O ie, ewch ymlaen-rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth stiff yn 'y natur i. Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun.

ELIN: Do, Jane bach, rwyt ti wedi bod yn dda i mi, a ddylwn i ddim achwyn, ond mod i ambell waith yn teimlo'th fod braidd yn ddi-amynadd hefo fi. Hwyrach fod y bai arna i; rwy'n mynd yn fwy plentynnaidd efallai wrth fynd yn hynach.

JANE: Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach.

ELIN: Dyna'n union fel y bydd dy dad yn arfer deyd amdano'i hun.

JANE: Wel, mi gadawn hi ar hynyna. Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi?

ELIN: Jane bach, rwyt ti'n mynd o dy ffordd rwan i mhlesio i: 'dwyt ti'n malio dim botwm corn am freuddwydion.

JANE: Na, na, deydwch y breuddwyd : mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o.

ELIN: Mi freuddwydis neithiwr fod Dic, dy frawd, wedi dod adre a bod golwg torcalonnus o wael a llwm arno fo. Roedd o mor blaen o flaen 'y ngolwg i ag rwyt ti, ac roedd o'n edrach fel un yn dihoeni-ia, roedd golwg un yn marw arno fo. Mae'r breuddwyd wedi 'ngneud i'n anesmwyth iawn.

 [Distawrwydd.]

ELIN: 'Dwyt ti'n deyd dim, Jane.

JANE: 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn.

ELIN: Gwn, 'ngeneth i-rwyt ti 'run farn â dy dad. Dyma dros bum mlynedd wedi mynd heibio er pan safodd dy dad ar garreg yr aelwyd 'ma- anghofia i byth mo'i eiriau: mi warniodd fi nad oeddwn i enwi Dic yn i glyw o hynny allan; a wnes i byth, ond ma' 'nghalon i ar dorri i gael siarad amdano fo hefo dy dad, ond fod ofn gneud hynny arna i.

JANE: Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ôl rhoi'r ddeddf i lawr.

ELIN: Dyna'r noson-yr un noson pan yr aeth o ar 'i draed ar y gadair i osod almanac i fyny uwchben y lle tân 'ma, i guddio llun Dic bach rhag i neb gael gweld y llun, ond ŵyr dy dad ddim pa mor amal rydw i'n codi cwr yr hen almanac hefo'r procar i sbio ar 'y machgen. Dic bach benfelyn ydi o i mi er 'i holl ddrwg.

JANE (yn frochus): Dic bach, wir! Mae'n ddigon hen i fod wedi torri'ch calon chi beth bynnag er's dros bum mlynedd: mae'n ddigon hen i fod wedi gneud 'y nhad ddeng mlynedd yn hynach na'i oed. 'Dydw i ddim yn synnu na fyn 'y nhad ddim clywed i enw yn y tŷ 'ma. Dic bach, ai ê? Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth.

ELIN: "A anghofia mam ei phlentyn sugno (Sych ei llygaid â chwr ei ffedog.) Beth bynnag ddeydi di a dy dad, Dic, f'unig fachgen ydi o i mi, a dyna fydd o byth. O'r tad! sgwn i ymhle mae o'r noson rewog 'ma. Dic, Dic! pam rwyt ti wedi 'nghadw i am bum mlynedd heb yr un cipolwg arnat ti ac heb yr un gair o dy helynt?

JANE: Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid.

[Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ôl i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo. Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur.]

TAD (dan ymdwymo): Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: 'roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan.

ELIN: Mae hi'n galed ar bob crwydryn digartref ar noson fel heno.

TAD (yn dal i ymdwymo): Mae'r crwydriaid, fel rheol, yn derbyn 'u haeddiant y nhw, mi wranta, sy'n gyfrifol am 'u cyflwr. Jane, 'dwyt ti ddim bron dwyn y smwddio 'na i ben? Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost.

JANE: Rwyf bron wedi gorffen.

TAD (yn eistedd i dynnu'i legins a'i esgidiau): Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul.

JANE: Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê?

TAD: Ie.

ELIN: Pwy ydi'r pregethwr fory, Wiliam?

TAD: Ezra Davies, Llanllios.

JANE (dan bacio'r taclau smwddio): Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo.

TAD: Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da.

JANE: Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag.

TAD: Be sy o'i le arno?

JANE: Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd. Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall byta popeth, yn lle pigo fel cyw iâr?

TAD: Paid â beio dyn am rhyw fân betha fel yna. (Cyfyd i osod y legins a'r esgidiau wrth y bwcedaid datws: yna â at y dresal i gael y Beibl, ac ar ôl symud y bwrdd yn nes i'r tân, cymer gadair ac egyr y Beibl.) Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys. Leiciech chi ddarllen heno, Elin ?

ELIN: Na, mae'n well gen i beidio heno.

TAD: Pam? Ydych chi ddim yn dda heno?

ELIN: Ydw, cystal ag arfar, ond mod i'n methu peidio meddwl am y cre'duriaid tlawd sy allan yn yr oerfel yr hwyr 'ma.

TAD: Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen?

ELIN: Darllenwch y ddameg ola yn y bymthegfed o Luc.

TAD: O'r gore. Jane, ddaru ti folltio'r drws?

JANE: Naddo. (A at y drws.)

ELIN: Paid â'i folltio fo 'rwan, 'ngeneth i.

TAD: Pam? (Nid etyb ELIN.) Bolltia fo fel arfar. (Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam. Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid. Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen.) "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." (Tyn y spectol oddi ar ei lygaid gan gymryd arno fod angen ei glanhau eilwaith.) Ac ar ôl ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon."

 [Clywir curo gwan ar y drws.]

ELIN: 'Rhoswch funud, Wiliam, 'rwy'n meddwl i mi glywed sŵn curo.

TAD: Ddylai dim gael torri ar y darllen.

ELIN: Ond mae hi'n oer iawn i gadw neb i aros heno y tu allan.

 [Curir eilwaith dipyn yn drymach.]

TAD: Jane, gwell agor y drws efallai : hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory.

 [Tyn JANE y follt ac egyr y drws.]

JANE: Pwy sydd yna ?

DIC (yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded. Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm): Jane!

ELIN (yn codi yn egwan ar ei thraed a'i llais yn grynedig): Pwy sydd 'na, Jane? Dic annwyl, ai ti sydd yna, dywed? Tyrd at y tân, 'machgen bach i, i dwymo dy ddwylo oerion. Mae 'meddwl i wedi bod hefo ti drwy gydol nosweithia'r barrug 'ma.

TAD (yn dreng): Elin, steddwch i lawr, a pheid- iwch â chyffroi'ch hunan.

ELIN: Wiliam, Wiliam! sut y medra i beidio, a Dic bach wedi dwad adre ar ôl blynyddoedd o fod. i ffwrdd. "Fy mab hwn oedd farw ac a aeth yn fyw drachefn, efe a gollesid ac a gaed."

TAD (yn chwerw): Wraig! rhag cwilydd i chi adrodd geiria mor gysegredig uwchben creadur fel acw (gan gyfeirio ei fys ato), sy wedi dwyn gwarth ardal gyfa arno ni; 'nacw sy'n gyfrifol am ddwyn y bedd flynyddoedd yn nes atoch chi, ei fam, ac ataf innau, ei dad. Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni ?

ELIN: O, Wiliam! mi lladdwch o â'ch geiriau brathog!

DIC (yn neshau'n wylaidd at y bwrdd ac estyn ei law i'w dad): 'Nhad, newch chi ysgwyd llaw hefo fi?

TAD (yn tynnu ei spectol yn bwyllog a'i gwthio i'r câs): Na wna.

ELIN: Wiliam! Dic ydi o! yr unig fab sy gynno ni!

TAD: Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ôl pan y gadawodd i gartref mewn gwarth. Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely.

 [Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio.]

ELIN: Aros, Jane bach, mae'n siwr fod ar Dic eisio bwyd. Fe gymeri damaid, yn nei di, 'machgen i?

DIC: Na, does dim taro arna i heno, mam: mi elli fynd i dy wely, Jane.

ELIN: 'Ngwas bach i, rhaid iti gymryd rhywbeth i'w fyta; pryd y cest di fwyd ddwaetha?

DIC: Wel wir, dydw i ddim yn cofio'r funud 'ma, ond fedra i fyta dim rwan beth bynnag.

JANE: Dyma fi'n mynd ynteu.

 [A drwy ddrws y grisiau gyda'r gannwyll.]

ELIN: Tyrd at y tân, 'machgen i. (A DIC ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo.) Gwarchod pawb! mae dy ddwylo di fel y clai; da ti, twyma nhw'n dda. Cymer gwpanaid o dê, Dic bach, i 'mhlesio i.

DIC: Na, wir, mam, fedra i ddim, ond mi leiciwn gael gorfadd ar y soffa 'ma o flaen y tân, os ydi 'nhad yn fodlon: mi rydw i wedi blino. Mi â i ffwrdd ben bore fory ond i mi gael gorffwys heno.

TAD: Na, 'dei di'r un cam o'r tŷ 'ma tan fore Llun rwyt ti wedi torri digon ar y Saboth y blynyddoedd dwaetha; thorri di mono fory o'r tŷ yma: os dyna dy fwriad, gwell i ti fynd oddi yma heno nesa. Cofia, un o'r ddau beth—aros yma tan fore Llun, neu fynd heno. Rwan, Elin, mi'ch helpiaf chi tua'r llofft.

ELIN: Ond beth am wely i Dic?

DIC: O, mi gysga i ar y soffa 'ma ond cael rug neu flancad drosta i.

TAD (yn mynd at ddrws y grisiau): Jane, tafl rug a blancad i lawr.

ELIN: Cofia gadw tanllwyth o dân, 'machgen i. Yn wir, wn i ddim sut i d'adael di dy hun yn y gegin 'ma.

TAD (o ymyl drws y llofft): Rydach chi wedi gorfod i adael gannoedd lawer o nosweithia'r chwe blynedd dwaetha pan nad oedd waeth ganddo amdanoch, a 'does bosib' na fedr o fod heb i fami heno. (Daw oddi wrth ddrws y llofft gyda rug a blancad, a theifl hwy'n ddidaro i lawr ar yr aelwyd.) Dyna nhw i ti. Rwan, Elin, rhowch ych braich i mi'ch helpu i'r llofft.

ELIN (yn ymaflyd yn ei fraich i godi): Rois di 'run gusan i mi, Dic, ar ôl bod i ffwrdd c'yd.

DIC (yn cusanu ei fam): Dyna hi, mam.

ELIN: Dydi o ddim ond fel doe gen i gofio dy gusanu di wrth dy roi i gysgu yn y gwely. Nos dawch, 'machgen gwyn i. O'r tad! dydw i ddim yn leicio'r lliw gwelw 'na sydd ar dy ruddia di a'r hen besychu gwag 'na. (Teifl fraich y tad oddi wrthi ac eistedd i lawr.) Wiliam, ewch i'ch gwely; symuda i 'run cam o'r gornel 'ma heno: 'dydi Dic ddim yn ffit i'w adael i hunan : mae o'n edrach fel corff.

DIC: Rwan, mam bach, os nad ewch i'ch gwely, dyma fi'n mynd allan y funud 'ma i ganol yr oerfel. Ewch hefo 'nhad, mi wna i'r tro yn iawn yma.

TAD (yn craffu ar DIC): Chlywis i mono ti mor 'styriol o dy fam ers plwc byd. (Yn oeraidd.) Rwan mae iti ddeyd os wyt ti'n sâl.

DIC: Nag ydw.

ELIN: Deyda'r gwir, 'ngwas annwyl i, faint sy ers pan mae'r pesychu 'na arnat ti ? Mi rydw i'n drwgleicio'r hen glic gâs 'na sy yn dy frest di.

DIC: Ewch i'ch gwely, mam: mi fydda i fel y gôg fory-os bydda i byw.

TAD: Rwan, Elin, mi awn.

ELIN (yn codi drwy help y tad, a cherdda'n llesg yn ei fraich at ddrws y grisiau, ond wrth y drws try ei golwg yn ôl): Cofia di roi digon ar y tân, mae llond y bocs o lo, ac mi fyddwn ar ein traed cyn i ti ddeffro bore fory. Nos dawch, Dic bach.

DIC: Nos dawch, mam. (Petrusa a dywed yn swil.) Nos dawch, 'nhad.

TAD (try yntau i edrych ar Dic, ond nid etyb): Rwan, Elin, gofalwch wrth ddringo'r grisiau.

[Gadewir Dic wrth ei hunan, a gwelir ef mewn cyfyng-gyngor dwys. Edrych o'i gylch, ac yn y man gwêl yr almanac; cyfyd ef i fyny a chenfydd ei lun ei hun oddi tano. Yna gesyd y rug a'r blancad a phopeth yn drefnus yn eu lle, ac â at ddrws y grisiau i glustfeinio. Gwisg ei gap a chyfyd goler ei gôt ac ar ôl ymdwymo am ychydig, diffydd y gannwyll ac â allan drwy y buarth dan wylo'n ddistaw a chau'r drws yn dawel. Am funud bach mae'r gegin yn wag a hanner tywyll. Yna daw'r tad i lawr o'r llofft wedi hanner tynnu oddiamdano. Mae'n cario coflaid o ddillad gwely yn ei freichiau, a cherdda'n dawel yn nhraed ei sanau i gyfeiriad y soffa. Ar ôl rhoi'r dillad i lawr, dealla nad oes neb ar y soffa. Goleua'r gannwyll, gan edrych mewn penbleth o'i gylch. Geilw'n'dawel, rhag cyffroi ELIN, "Dic, Dic." Brysia at ddrws y buarth, a chenfydd fod hwnnw heb ei folltio; egyr ef, ac ar y rhiniog geilw eilwaith megis dan ei anadl, "Dic, Dic bach! ymhle rwyt ti? Gan nad oes ateb yn dod, rhed yn awr at ddrws y grisiau, a geilw'n dawel, “ Jane, Jane, tyrd i lawr mewn munud." Tra mae JANE yn dod i'r gegin, gwisg ei esgidiau, a daw JANE i lawr.]

JANE: Be sy'n bod, 'nhad?

TAD (yn gynhyrfus): Mae Dic wedi mynd! Mi gadwn y newydd oddi wrth dy fam am dipyn ne mi fydd yn ddigon am i bywyd hi.

JANE (mewn braw a syndod): Dic wedi mynd! Mynd i ble?

TAD Y nefoedd a ŵyr! Ond mae rhywbeth yn deyd wrtha i mod i wedi gweld i wyneb o yn fyw am y tro dwaetha. (Ymddengys fel un yn cael ei rwygo'n ddistaw gan deimlad.) Fi gyrrodd o oddi yma heno: mi welodd nad oedd dim croeso iddo gan neb ond i fam. Goleu'r lantar 'na i mi chwilio'r buarth. (Goleua JANE y lantern, tra mae yntau'n gwisgo'r gôt uchaf sy'n crogi ar ddrws y grisiau.) Rwan saf di yn y drws hefo'r gannwyll 'ma tra bydda i'n chwilio'r buarth.

[A'r tad allan a saif JANE yn y drws gyda'r gannwyll. Ymhen rhyw funud clywir ELIN yn curo gyda'i ffon.]

JANE: 'Nhad, dowch i mewn, mae mam yn galw.

 [Daw'r tad i mewn yn frysiog.]

TAD: Dy fam yn galw? Be nawn ni? Dyma hi ar ben. Dos at draed y grisia, ond am dy fywyd paid â deyd fod Dic wedi mynd,-mi dorrith i chalon.

 [A JANE at ddrws y llofft, ond o hyd o flaen golwg yr edrychwyr.]

JANE: Oeddach chi'n galw, mam? (Ar ôl gwrando megis ar ei mam, sieryd â'i thad.) Mae hi'n gofyn ydi Dic yn waeth wrth ych bod chi a finna wedi dod i lawr. Be ga i ddeyd? Atebwch ar unwaith.

TAD (fel pe'n cael ei ddirdynnu): Dywed rywbeth ond y gwir; mi faddeuir y celwydd i ni'n dau, gobeithio.

JANE (wrth ei mam): Anghofio cloi'r drysau ddaru 'nhad a finna. (Etyb ofyniad arall o eiddo'i mam.) Ydi, mae Dic yn cysgu'n sownd. (Daw oddi wrth y grisiau at ei thad.) Rwan, 'nhad, be' gawn ni neud, achos does dim amsar i'w golli ?

TAD (yn eistedd â'i ben ar y bwrdd): Mi ddeydaist y gwir rwan wrth dy fam, rwy'n ofni,—ma' nghalon i ne 'nghydwybod i'n deyd fod Dic yn cysgu'n sownd, mor sownd fel na ddeffrith o byth. O! mae arna i ofn mynd allan a'i gael o'n farw.

JANE: Mi awn hefo'n gilydd.

TAD: Na, aros di unwaith eto wrth y drws hefo'r gannwyll yn dy law. Dic allan yn y barrug mawr yma yn y dillad teneu 'na a'r pesychu trwm yna yn i falu o'n ddarna!

 [A allan unwaith eto gyda'i lantern, a saif JANE wrth y drws agored gyda'r gannwyll. Ymhen tipyn daw'r tad yn ôl dan wylo ac eistedd wrth y bwrdd â'i ben i lawr.]

JANE (â'i braich am ei wddf): 'Nhad bach, welis i rioed mono chi fel hyn: ga i fynd i chwilio am Dic?

TAD: O, rydw i wedi i gael o! Mae o wedi marw allan yn y berllan! Does dim dowt nad dod adre i farw 'roedd o!

JANE (yn gyffrous): Wedi marw! Dic wedi marw !

TAD: Mae o wedi marw cyn i mi gael ysgwyd llaw a dod yn ffrindia hefo fo. Jane bach, nei di 'nghoelio i, mi ddois i lawr yn un pwrpas o'r llofft i gymodi â fo, ond mi rydw i'n rhy hwyr! "O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom. O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab."

[LLEN.]

WILLIAM LEWIS (ARGRAFFWYR) CYF., CAERDYDD.

List of Plays and Dramas

IN ENGLISH AND WELSH

47. THE RETURN. (M. J. Lewis-James.)
48. ALBERT'S WAY OUT. (Muriel S. M. Evans.)
49. Y TRYSOR CUDD. (D. Lloyd Jenkins.)
50. IOLO. (John D. Lewis.)
51. BRANWEN. (D. T. Davies.)
52. GWAED YR UCHELWYR. (Saunders Lewis.)
53. Y DDRAENEN WEN. (R. G. Berry.)
54. THE CROWNING OF PEACE (CORONI HEDDWCH). (J. O. Francis.)
55. OWAIN GWYNEDD. (D. R. Jones.)
56. THE DARK LITTLE PEOPLE. (J. O. Francis.) (See No. 63.)
57. Y DIEITHRYN. (D. T. Davies.)
59. CROSS CURRENTS. (J. O. Francis.) Welsh version, "Gwyntoedd Croesion,"
by Silyn Roberts.
62. GWYNTOEDD CROESION. (J. O. Francis.) Welsh translation of "Cross
Currents," by R. Silyn Roberts.
63. Y BOBL FACH DDU. (J. O. Francis.) Welsh translation of "The Dark Little
People," by John Hughes.
64. ANRHYDEDD. (T. Gwynn Jones.)
65. DWYWAITH YN BLENTYN. (R. G. Berry.)
66. TAIR DRAMA FER. (J. E. Parry.)
67. YR HEN GYBYDD. (J. Lloyd Jones.)
72. "TWYLLO HEN LWYNOG." (J. Ellis Williams.)
73. ABERTHAU PLANT. (Jason Thomas.)
74. TROI'R TIR. (D. T. Davies.)
75. FAUST. (Goethe.) (Translated by T. Gwynn Jones.)
76. Y CYBYDD. (Moliere.) (Translated by I. L. Evans.)
77. TODDI'R IA. (Idwal Jones.)
79. Y FFON DAFL. (J. Ellis Williams.)
80. Y FICER NEWYDD. (M. Brynwel Edwards.)
81. THE BEATEN TRACK. (J. O. Francis.)
82. Y POTSIER. (J. O. Francis.) Welsh translation of "The Poacher," by
Mary Hughes.
83. FFORDD YR HOLL DDAEAR. (J. O. Francis.) Welsh translation of
"The Beaten Track," by Magdalen Morgan.
84. Y CORN. (J. Ellis Williams.)
85. PA LESHAD—? (J. Ellis Williams.)
86. Y WLAD BELL. (J. Ellis Williams.)
87. "SYR GALAHAD." (J. Ellis Williams.)
88. Y JOAN DANVERS. (Frank Stayton.) Welsh translation by D. R. Davies
89. MEISTRY TY (Stanley Houghton.) Welsh translation of "The Master
of the House," by J. Ellis Williams.
90. PAWEN Y MWNCI. (W. W. Jacobs.) Welsh translation
of "The Monkey's Paw," by J. Ellis Williams.
91. FFILOSOFFYDD CLWT-Y-BONC. (Harold Chapin.) Welsh translation
of "The Philosopher of Butterbiggins," by J. Ellis Williams.
92. YR YMADAWEDIG. (Stanley Houghton.) Welsh Translation of "The
Dear Departed," by R. Ellis Jones.
93. DEUFOR-GYFARFOD. (John Oswald Francis.) Welsh translation of
"Change," by Magdalen Morgan.
95. Y TARW COCH. (Bernard Gilbert.) Welsh translation of "The Old Bull,"
by J. Ellis Williams.

96. PRIS Y GLO. (Harold Brighouse.) Welsh translation of "The Price of
Coal," by J. Ellis Williams.
97. LITTLE VILLAGE. (J. O. Francis.)
98. YSBRYD SIENCYN GRUFFYDD. (W. W. Jacobs.) Welsh translation of
"The Ghost of Jerry Bundler," by G. Prys Jones.
99. TORRI'R DDADL. (E. Loueluck Rees.)
100. PEN Y DAITH. (J. Ellis Williams.)
101. Y SETL DDERW. (Harold Brighouse.) Welsh translation of "The Oak
Settle," by G. Prys Jones.
102. DEWIS ANORFOD. (Harold Brighouse.) Welsh translation of "Hobson's
Choice," by Magdalen Morgan.
103. UNIGRWYDD. (Harold Brighouse.) Welsh translation of "Lonesome-
Like," by R. Ellis Jones.
104. GWRAIG Y FFERMWR. (Eden Phillpotts.) Welsh translation of "The
Farmer's Wife," by D. Mathew Williams.
105. Y PWYLLGORDDYN. (J. Ellis Williams.)
106. Y BRIODAS ARIAN. (Eden Phillpots.) Welsh translation of "Devonshire
Cream," by Jeremiah Jones.
107. DIREIDI A RHAGFARN. (Daniel Williams.)
108. CANWYLLBRENNAU'R ESGOB. (Norman McKinnel.). Welsh
translation of "The Bishop's Candlesticks," by John Pierce.
109. DIALEDD. (W. Stuckes.) Welsh translation by G. Prys Jones.
110. Y LLYTHYR GLAS. (D. Roberts.)
 DRAMA TOMOS. (J. Ellis Williams.)
 TAITH Y PERERIN. (J. Ellis Williams.)
111. Y GANG. (Tom Anthony.)
112. ANN MARLOWE "A Woman of Passion." (Florence Howell.) Welsh
translation by Mary Hughes.
113. HOWELL OF GWENT. (J. O. Francis.)
114. CYSGOD Y CWM ("The Shadow of the Glen"). (John M. Synge.) Welsh
translation by Jeremiah Jones.
115. Y DA A'R DRWG ("The Good and the Bad"). (Phillip Johnson.)
Welsh translation by Robert Griffith.
116. ARIAN AM DDIM ("Money for Nothing"). (F. Morton Howard.) Welsh
translation by Robert Griffith.
117. DYCHMYGION ("Legend"). (Phillip Johnson.) Welsh translation by
D. Bernard Davies.
118. PA LE MAE DY GOLYN? (A. Edward Richards.)

The Educational Publishing Co.,

28, Charles Street, Cardiff, and Principality Press, Wrexham.

Sole Agents in Wales for Messrs. Samuel French, Ltd.

Nodiadau[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.