O! Deuwch, ffyddloniaid

Oddi ar Wicidestun
O! deuwch, ffyddloniaid,
oll dan orfoleddu,
O! deuwch, O! deuwch
i Fethlehem dref:
Wele, fe anwyd
Brenin yr angylion:
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o'r nef!
O! cenwch, angylion,
cenwch, gorfoleddwch;
O! cenwch, chwi holl
ddinasyddion y nef:
Cenwch "Gogoniant
i Dduw yn y goruchaf!"
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o'r nef!
O! henffych, ein Ceidwad,
henffych well it heddiw:
Gogoniant i'th enw
trwy'r ddaear a'r nef:
Gair y Tragwyddol
yma'n ddyn ymddengys:
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn
Grist o'r nef!

Cyfieithiad anadnabyddus o Ladin John F Wade (1710-1786)