O! am fywyd o sancteiddio
Gwedd
Mae O! am fywyd o sancteiddio yn emyn gan Ann Griffiths (1776-1805)
- O! am fywyd o sancteiddio
- Sanctaidd enw pur fy Nuw,
- Ac ymostwng i'w ewyllys
- A'i lywodraeth tra fwy' byw;
- Byw gan addunedu a thalu,
- Dan ymnerthu yn y gras
- Sydd yng Nghrist yn drysoredig,
- I orchfygu ar y maes.
- O! na chawn i dreulio 'nyddiau
- Yn fywyd o ddyrchafu ei waed;
- Llechu'n dawel dan ei gysgod,
- Byw a marw wrth ei draed;
- Cario'r groes, a phara i'w chodi,
- Am mai croes fy Mhriod yw,
- Ymddifyrru yn ei Berson,
- A'i addoli byth yn Dduw.
- Dyma Frawd a anwyd inni
- Erbyn c'ledi a phob clwy';
- Ffyddlon ydyw, llawn tosturi,
- Haeddai gael ei foli'n fwy:
- Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
- Ffordd i Seion union yw;
- Ffynnon loyw, bywyd meirw,
- Arch i gadw dyn yw Duw.