O! fy Iesu bendigedig
Gwedd
← Arglwydd Iesu, arwain f'enaid | O! fy Iesu bendigedig gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) |
Dyma gariad fel y moroedd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
212[1] "Y pethau ni welir sydd dragwyddol."
87. 87. D.
1.O! FY Iesu bendigedig,
Unig gwmni f'enaid gwan,
Ym mhob adfyd a thrallodion
Dal fy ysbryd llesg i'r lan;
A thra'm teflir yma ac acw
Ar anwadal donnau'r byd,
Cymorth rho i ddal fy ngafael
Ynot Ti, sy'r un o hyd.
2 Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf
Ar sigledig bethau'r byd,
Ysgwyd mae y tir o danaf,
Darnau'n cwympo i lawr o hyd;
Ond os caf fy nhroed i sengi,
Yn y dymestl fawr a'm chwŷth,
Ar dragwyddol Graig yr Oesoedd,
Dyna fan na sigla byth.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 209, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930