O'm blaen mi wela' ddrws agored

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
O'm blaen mi wela' ddrws agored,
A modd i hollol gario'r ma's
Yng ngrym y rhoddion a dderbyniodd
Yr Hwn gymerodd agwedd gwas;
Mae'r tywysogaethau wedi eu hysbeilio,
A'r awdurdodau, ganddo ynghyd,
A'r carcharwr yn y carchar
Trwy rinwedd ei ddioddefaint drud.


Fy enaid trist, wrth gofio'r frwydyr,
Yn llamu o lawenydd sydd;
Gweld y ddeddf yn anrhydeddus
A'i throseddwyr mawr yn rhydd;
Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth
A chladdu'r Atgyfodiad mawr;
Dwyn i mewn dragwyddol heddwch
Rhwng nef y nef a daear lawr.


Pan esgynnodd 'r Hwn ddisgynnodd
Gwedi gorffen yma'r gwaith,
Y pyrth oedd yn dyrchafu eu pennau
Dan ryfeddu yn eu hiaith;
Dorau'n agor, côr yn bowio
I Dduw mewn cnawd yr ochor draw;
Y Tad yn siriol a'i gwahoddodd
I eistedd ar ei ddeau law.


Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tân,
O! am bara i lynu wrtho,
Fy enaid, byth yn ddiwahân:
Ar ddryslyd lwybrau tir Arabia
Y mae gelynion fwy na rhi';
Rho gymdeithas dioddefiadau
Gwerthfawr angau Calfari.

Tarddiadau[golygu]