O Arglwydd! amled ydyw'r gwŷr
Gwedd
Mae O Arglwydd! amled ydyw'r gwŷr yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
O Arglwydd! amled ydyw'r gwŷr
Y sydd drallodwyr imi!
A llawer iawn i'm herbyn sydd
ddydd i ddydd yn codi.
Tithau, Arglwydd ! yn mhob man,
Ydwyt yn darian imi:
Ti yw'm gogoniant; tua'r nen
Yn codi 'mhen i fyny.
Ar Dduw, yr Arglwydd, â'm holl lais
Y gelwais yn dosturaidd:
Ac ef a'm clybu i ar frys
O'i uchel freinlys sanctaidd.
Yr Arglwydd byth o achos hyn
Y perthyn iachawdwriaeth :
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith
Ei fendith yn dra helaeth.