O Arglwydd! na cherydda fi

Oddi ar Wicidestun

Mae O Arglwydd! na cherydda fi yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


O Arglwydd! na cherydda fi
Yn mhoethni dy gynddaredd;
Ac na chosba fi yn dy lid,
O blegid fy anwiredd.


Arglwydd! dy drugaredd dod,
Wyf lesg mewn nychdod beunydd;
Arglwydd ! tyrd, iachâ fi'n chwyrn,
Mae f 'esgyrn oll mewn cystudd.


Duw, gwared f 'enaid, dychwel di,
Iachâ fi â'th drugaredd;
Nid oes yn angau gof na hawl;
A phwy a'th fawl o'r pridd-fedd?


Yr Arglwydd, clybu ef fy arch,
Rhof finnau barch a moliant;
Fe dderbyn weddi'r tlawd a'i waedd,
Am hyn fe haedd ogoniant.