O Arglwydd dyro i'm dy ras
Gwedd
Mae O Arglwydd dyro i'm dy ras yn emyn gan Evan Jones (Ieuan Gwynedd) (1820 - 1852)
- O Arglwydd dyro im' Dy ras,
- I deithio tua'r wlad;
- Rho imi gymorth dan bob ton
- I gofio Tŷ fy Nhad.
- I eglyws Crist derbyniwyd fi, -
- Duw, nertha f'enaid gwan,
- I lynu wrth y Groes o hyd
- Nes dod o'r byd i'r lan.
- Rho im' Dy lon gymdeithas Di,
- A chadw fi o hyd
- I rodio yn Dy lwybrau glân
- Tra byddwyf yn y byd.
- Rho nerth i ddilyn llwybrau'r praidd
- Wrth deithio'r anial dir;
- Nes delo'r awr im' ddyfod fry
- I ddinas Salem bur.