O Dangos im, fy Arglwydd Ner

Oddi ar Wicidestun

Mae O Dangos im, fy Arglwydd Ner yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


O Dangos im, fy Arglwydd Ner,
Pa amser y diweddaf
Rifedi 'nyddiau; a pha hyd
O fewn y byd y byddaf.


Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw;
A'm heinioes daw byr ddiwedd;
Diau, yn d' olwg di, o Dduw !
Fod pob dyn byw yn wagedd.


O! paid â mi, gad i'm gryfhau
Cyn darfod dyddiau 'mywyd;
A gwna â mi sy 'mron fy medd
Drugaredd a syberwyd.