O Iesu croeshoeliedig

Oddi ar Wicidestun

Mae O Iesu croeshoeliedig yn emyn gan John Henry Hughes (Ieuan o Leyn) (1814 - 1893)

O Iesu croeshoeliedig,
Gwaredwr dynol-ryw,
ti yw ein hunig obaith
tra bôm ar dir y byw;
dan feichiau o ofalon
sy’n gwneud ein bron yn brudd
mae d’enw, llawn diddanwch,
yn troi ein nos yn ddydd.


O Iesu croeshoeliedig,
boed mawl i’th enw byth,
doed dynion i’th foliannu
rifedi’r bore wlith;
aed sôn ymhell ac agos
am aberth Calfarî,
nes llenwi â gorfoledd
bob rhan o’n daear ni.