O Seion fryn y daeth Duw Naf

Oddi ar Wicidestun

Mae O Seion fryn y daeth Duw Naf yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


O Seion fryn y daeth Duw Naf,
Hon sydd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch a goleuni mawr,
A llewyrch gwawr o'i gwmpas.


O! cesglwch ataf fi fy saint,
Y rhai, drwy ryddfraint brydferth,
A wnaethant amod â myfi,
A'i rhwymo hi drwy aberth.


Dy oglud dod ar Dduw yn drwm
A thâl yr offrwm pennaf;
Cân ei fawl ef, a dod ar led
D' adduned i'r Goruchaf.