O anfon di yr Ysbryd Glan

Oddi ar Wicidestun

Mae O anfon di yr Ysbryd Glan yn emyn gan John Hughes, Pontrobert (1775-1854). Mae'n Emyn rhif 568 yn y llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd

O anfon di yr Ysbryd Glân
yn enw Iesu mawr,
a’i weithrediadau megis tân
O deued ef i lawr.

Yn ôl d’addewid fawr ei gwerth,
O Arglwydd, tywallt di
dy Ysbryd Sanctaidd gyda nerth
i weithio arnom ni.

O’th wir ewyllys deued ef
i argyhoeddi’r byd
ac arwain etifeddion nef
drwy’r anial maith i gyd.

Yn ôl d’addewid, Iesu mawr,
yr awron anfon di
y gwir Ddiddanydd yma i lawr
i aros gyda ni.