O na bawn yn fwy tebyg

Oddi ar Wicidestun

Mae O na bawn yn fwy tebyg yn emyn gan Eleazar Roberts (1825—1912). Mae'n emyn rhif 721 yn y llyfr emynau cyd enwadol Caneuon Ffydd 721[1]

O na bawn yn fwy tebyg
i Iesu Grist yn byw—
yn llwyr gysegru ‘mywyd
i wasanaethu Duw:
nid er ei fwyn ei hunan
y daeth i lawr o’r ne’ ;
ei roi ei hun yn aberth
dros eraill wnaeth efe.

O na bawn i fel efe,
O na bawn i fel efe,
O na bawn i fel efe,
O na bawn i fel efe.

O na bawn yn fwy tebyg
mewn gweddi i’r Iesu mad;
enciliai ef i’r mynydd
i alw ar ei Dad
yng nghanol dwfn ddistawrwydd,
ymhell o sŵn y dref,
fe hoffai ddal cymundeb
â’i Dad oedd yn y nef.

O na bawn fel yr Iesu
yn llawn awyddfryd pur
i helpu plant gofidiau
ac esmwytháu eu cur;
O na bawn fel yr Iesu
yn maddau pob rhyw fai
‘roedd cariad yn ymarllwys
o’i galon e’n ddi-drai.

Nodiadau[golygu]

  1. Gobaith Cymru—O na bawn yn fwy tebyg]