Oll synnwyr pen Kembero ygyd/Jach rydd ryuedd pa gwyn

Oddi ar Wicidestun
Hael Owain o bwrs y w­lad Oll synnwyr pen Kembero ygyd

gan William Salesbury

Leilai lymeit gayaf

JAch rydd ryuedd pa gwyn
Jr pant y red y dwfyr
Jro blonhogen
Jawn i pawp i gadw i hun



KAdarnach yw r edau yn gy frodedd
Kad maly, cad i werth
Kauas da ni chauas drwc
Kaledach glew, no maen
Kalon estran wrth Gymro
Kam wrando a wna cam ddoe­dyt
Kany eb gywydd
Kais yn y mwlwc
Kais varchoc dan draet i varch
Kaisiet powp dwfyr yw long
Kaisio swllt yngwalfa blaidd
Karet drwgchwaer kyn ni cha­rer
Karet yr afr i mynn bit e yn dduy bit yn wyn
Kas dyn yna, cas Deo vry

Kassec cloff, cloff hi e bol
Kas gwelet a geisio
Kas gwir ni charer
Kariat a orch vycca pop peth
Kas myharen, mieri
Kau r gorddlan wedy mynet y deueit allan
Kau r estabyl wedy dwyn y march
Kau tin wedy bramy
Kefaillt blaidd bugail diog
Keluydd kelet i aruaeth
Kell arglwydd yw y weilgi
Kell hauodwr yw i vuarth
Kenat vut drut ae cred
Kenau milgi a morwyn, ae mac­ko, ny chaiff i mwyn
Keintiach wedy brawt
Kerddodd a rwymodd
Ki chwrnoc holoc i bais
Kyd ar ki y cerdd i gynffon
Kymeint ar y werthvyt ac ar y bellen: ner cogel
Klywir corn kyn ni weler

Kludo heli ir mor
Knawd wedy traha tranck hir
Knaifier wedy praidd
Knaif Dauad varw
Kneuen yngenau henhwch
Knawd o egin meithrin das
Knawd aflwydd can ddiriait
Knawd anaf ar ddiriait
Knawdd o ben drythill draha
knawd cyssull dedwydd yn ddo­eth
Knawd digarad yn llys
Knawd wedy traha tramgw­ydd
Knawd buan o vain
Knawd ffo o fraeth
Knawd aelwyt ddiffydd, yn ddi­ffaith
Knawt gwarth o vynech gys­swyn
Koes yn lle morddwyt
Kof a lithr, llythr a geidw
Kof gan bawp a gar
Kofyl gwas dioc
Koffa dy din pan ystrewych
Kogor iar yn ydlam

Kosp ar ben iar
Kosp y llew yw maddy r arth
Kospi r arth yngwydd y llew
Kos din tayoc, ef a gach ith ddwrn
Kraffach nac euail
Krechwen yngenau ynfyd
Kol medd y vran pan gaffo ddi­gon
Krywyn kyn moch, moch kyn a ddamwain
Kryd ar hen, angeu ys dir
Kryny val y vor wialen
Kwlwm angenoc ar y genioc
Kwlwm oedioc a ddetyd
Kwymp y gwr yn y Rych
Kwymp ar galedlawr
Kyd boed da, nid Morda
Kyd vwyta a bonneddic ac na chyd chwarau
Kyd gwichio y venn hi a ddwc i llwyth
Kydles i bawb yw galw ychen
Kyd keler nownos ny chelir no­wmis

Kydymdaith can ci ei losgwrn
Kyuathrach i vwyta, kenetl i ymladd
Kyvaereddion gwrach waeth­waeth
Kyfoed vydd da a dedwydd
Kyuoethoc i werthy, a thlawt i brynny.
Kyfing ac eheng yw dewis
Kyfoethdc pop dedwydd
Kyffes pop rrwydd
Kyn ebrwydded vynd ir varch­nat, croen yr oen a chroen y ddauat
Kynniuer pen, kynniuer synnw­yr
Kyngor yn ol
Kynt y llysc yr odyn na r yscu­por
Kynt crupyl na e was
Kynt meddwl na gweithret
Kysgy val y pathew
Kystadl yw march ae varchwerth

Kystadl kerddet ar draet a mar­chogaeth ffon
Kystatl Howel a Heilyn
Kywir yn ing y gwelir