Oriau Gydag Enwogion/Doethion Groeg

Oddi ar Wicidestun
Y Tadau Pererinol Oriau Gydag Enwogion

gan Robert David Rowland (Anthropos)

DOETHION GROEG.

I BAWB sydd wedi talu sylw i hanesiaeth, yn enwedig hanesiaeth y cynoesoedd, y mae cyfaredd o swyn yn enw Groeg. Gwlad a fu am ganrifoedd yn frenhines teyrnasoedd, ac yn ganolbwynt gwybodaeth a gwroldeb, cryd aur gwyddoniaeth a chelfyddyd, mamaeth rhyfelwyr, athronwyr, a beirdd; "The land," ys dywed Byron,

"Where burning Sapho loved and sung,
Where grew the arts of war and peace.
Land of lost gods and god-like men."

Groeg yn nyddiau ei gogoniant! Dyna faes bras i ddychymyg ymdroi o'i gylch, pan oedd y duwiau yn byw ar Olympus, pan oedd yr awenesau yn ymdrochi yn ffynhonau Helicon, pan oedd y temlau mynor yn disgleirio ar bob bryn, a phan oedd Athen yn gyrchfan doethion, yn brif-ysgol gwyddor a chelf, ac yn llygad Groeg.

Onid y gwledydd lleiaf o ran maintioli sydd wedi bod yn fagwrfa i enwogion? Dyna Gymru, gwlad ein tadau, bechan ydyw o ran maint, ac eto mae athrylith wedi ei chysegru â'i phresenoldeb drwy yr oesau. Uniawn y gelwir hi yn "wlad beirdd a cherddorion, rhyfelwyr o fri," gwlad Taliesin a Llywelyn, magwrfa Inigo Jones, a John Gibson, a llu ereill sydd wedi cerfio eu henwau â phin o haiarn yng nghraig anfarwoldeb dros byth.

Drachefn, dyna wlad Canan; nid ydyw hithau ond ysmotyn yn ymyl cyfandiroedd Asia ac Affrica, eto, pa mor gyfoethog mewn enwogion? Uniawn y galwyd hi gan yr ysbiwyr gynt yn "wlad y cewri." Dyna ydyw wedi bod yn ystyr uwchaf y gair; gwlad Dafydd a Solomon, gwlad Esaiah a Daniel, gwlad Paul yr Apostol, ac Ioan y Difeinydd, a gwlad wedi ei chysegru â phresenoldeb Emmanuel mewn cnawd!

Y mae yr un peth yn gymhwysiadol at wlad Groeg. Nid ydyw hithau ond bechan iawn o'i' chymharu â'r gwledydd y bu gynt yn llywodraethu arnynt; ac eto, meithrinodd dô ar ol tô o wroniaid. Y mae yn hynod ar gyfrif ffrwythlondeb ei thir mewn ystyr anianyddol, ac y mae mor hynod am ffrwythlonder ei henwogion. Yn mysg ei beirdd y ceir Homer, Hesiod, Pindar, Sapho, ac Anacreon; yn mysg ei haneswyr y mae Herodotus, a Xenophon; yn mysg ei hathronwyr y mae Socrates, Aristotle, Diogenes, a Plato; ac yn mysg ei rhyfelwyr y mae Alcibiades, Pericles, a Leonidas.

Where sprung the arts of war and peace."

Y mae'r desgrifiad yna yn gywir. Rhestrir rhyfeloedd Groeg yn mysg y pymtheg brwydrau mawrion fu yn foddion i newid gwyneb teyrnasoedd. Yno yr ymladdwyd brwydr ofnadwy Marathon a Thermopolo. Pob parch i'r chwe' chant dewrion yn Balaclava,—" Honour the charge they made!

"Into the valley of death
Rode the six hundred."

Ond nid oedd y charge yn fwy gogoneddus na gwrthsafiad arwrol tri chant o Roegwyr, dan lywyddiaeth Leonidas, yn nyffryn cul Thermopolo, pan yn ceisio atal ymgyrch byddin anferth y Persiaid. Er fod yr ymladdfa yn un mor anghyfartal, a phob gobaith am ennill y dydd allan o'r cwestiwn, eto safodd pob un yn ei le fel derwen, ymladdasant hyd yr anadl olaf, a gorfu i'r Persiaid wneyd eu ffordd i Groeg ar draws cyrff y dewrion hyn. Y mae beddargraff felly yn Ffrainc, uwch ben bedd milwr, —"Siste Viator, heroem calcas!"—(Yn araf, ymdeithydd! Yr wyt yn sangu ar wron). Gwroniaid fel yna oedd Leonidas a'i fyddin ddewr. Ym mhen llawer canrif ar ol hyn, safai Byron ar y llecyn, ac wrth fyfyrio ar yr orchest a wnaed yno, llanwyd ei ysbryd nes peri iddo floeddio allan,

"Of the three hundred, grant but three,
To make a new Thermopolœ."

Fe gynyrchodd Groeg ryfelwyr, ond y mae yn enwog, hefyd, am ddosbarth arall o ddynion mawr, sef y dosbarth hwnnw sydd yn caru heddwch, yn cysegru eu dyddiau i efrydiaeth a myfyrdod.

Dyna Socrates, y penaf o athronwyr Groeg. Ganwyd ef yn Athen tua'r flwyddyn 470 c.c. Hanai o deulu cyffredin, ond yn ngrym ei ddoniau daeth yn un o ddysgawdwyr ei oes, ac yn wrthrych edmygedd a pharch pob oes ddilynol. Disgyblion iddo ef oedd y rhai a wnaethant enwau iddynt eu hunain yn y cyfnod hwn, megys Plato, Xenophon, Euclid, ac Alcibiades. Fe eglurai Socrates ei olygiadau mewn ymddiddan; ni ysgrifenodd linell erioed ei hun; yr ydym yn ddyledus am hyny i'w ddisgybl, Plato, yr hwn a groniclodd luaws mawr o'i ymddiddanion. Dysgai Socrates foes—wersi uchel a phur, a gellir meddwl fod ei ymarweddiad yntau yn hynod ddiwair a diargyhoedd. Credai yn modolaeth Duw anweledig, llywodraethwr pobpeth, ond ni anturiai fynegi nemawr am ei natur na'i briodoleddau. Credai hefyd yn anfarwoldeb yr enaid. Ar y pryd, addolid llu o dduwiau yn Groeg, a darfu i waith Socrates yn dysgu am Dduw arall, anweledig, ei arwain i afaelion erledigaeth dost. Dygwyd cynghaws o gabledd yn ei erbyn; profwyd ef yn euog, a dedfrydwyd ef i farw. Y ddedfryd a osodwyd arno ydoedd yfed gwenwyn. Cyfarfyddodd â'i dynged yn y modd mwyaf tawel ac urddasol.

Ganwyd Aristotle tua 384 c.c., yn nhref Stagira. Yr oedd yn ieuengach na Phlato; a bu yn ddisgybl iddo am ugain mlynedd. Yn wahanol i Plato, yr hwn a ddilynasai olygiadau ei athraw, Socrates, darfu i Aristotle ffurfio cyfundrefn o athroniaeth o'i eiddo ei hun. Bu Aristotle yn dra ffodus yn nechreu ei yrfa gyhoeddus i gael ei ddewis yn athraw i Alexander Fawr, oedd y pryd hyny yn fachgen. Bu yn ei ddysgu am wyth mlynedd, ac aeth yn ddwfn iawn i'w serchiadau. Wedi i Alexander esgyn i'r orsedd, dychwelodd Aristotle i Athen, a sefydlodd ysgol mewn llecyn coediog o'r enw Lyceum. Ei ddull o gyfranu addysg ydoedd drwy gerdded yn ol a blaen yn y rhodfeydd, ac am hyny gelwid ei ddisgyblion yn Peripatetics (cerddedwyr). Ysgrifenodd nifer anferth o lyfrau, amryw o ba rai sydd ar gof a chadw hyd y dydd hwn. Ysgrifenodd hanner cant o gyfrolau ar anianyddiaeth naturiol. Darfu i'w ddisgybl, Alexander Fawr, anfon allan filoedd o bobl i wahanol barthau o'r byd i gasglu specimen o greaduriaid byw, a ffrwyth yr anturiaeth ydyw y gwaith y cyfeiriwyd ato. Er heb fod yn fardd ei hun, ysgrifenodd lyfr ar "Reolau Barddoniaeth." Gallesid meddwl mai Plato fuasai yn ymgymeryd â gwaith o'r fath, oblegid y mae yn amlwg fod ei feddwl ef yn un awenyddol; y mae barddoniaeth yn disgleirio yn ei ryddiaith; ond am Aristotle, meddwl clir, ond oer, y rhesymegydd oedd yr eiddo ef, ac eto y mae yn ysgrifenu ar reolau barddoniaeth.

Ond Plato ydyw y mwyaf adnabyddus a'r helaethaf ei ddylanwad o holl athronwyr Groeg. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 429 c.c. Nid oedd ei ddechreuad yn ddinod fel Socrates; hanai o deulu pendefigaidd. Ei enw ar y cyntaf oedd Aristocles, ond cafodd ei newid i Plato. Ystyr yr enw ydyw llydan. Mae llawer o chwedlau yn cael eu dweud am dano yn ei febyd. Dyma un,—Tra yr oedd ei rieni yn offrymu i'r duwiau ar fynydd Hymettus, gadawsant y plentyn i orwedd ar wely o fyrtwydd. Yn y cyfamser, disgynodd haid o wenyn ar ei wefusau, ond ni wnaethant y niwed lleiaf iddo. Amcan y chwedl, dybygid, ydyw rhag-gysgodi melusder a swyn ei hyawdledd. Gallasai Plato, ar gyfrif ei safle gymdeithasol, ddringo i swyddi uchel yn y Llywodraeth, ond dewisodd neillduaeth. Yr oedd ei wlad ar y pryd newydd gael ei llethu gan ryfeloedd y Pelopponesus, ac yn cael ei harwain gan werinwyr penboeth, y rhai a geisient yr eiddynt eu hunain yn hytrach na lles y lluaws. Parodd sefyllfa pethau i Plato gashau bywyd swyddogol, ac ymneillduodd i efrydu gwladlywiaeth. Ffrwyth y llafur meddyliol hwn ydyw y Republic,—un o'r llyfrau hyny sydd yn cynnwys egwyddorion cyfansoddiadol pob teyrnas gyfiawn a da. "Y mae y deyrnas hon," ebai ef ei hun, "wedi ei sylfaenu ar reswm, ac nid ar nwydau dynion, ond nid ydyw i'w chael yn un man ar y ddaear." Mae'n gwestiwn a ydyw delfryd y Republic wedi ei gyrraedd eto. Pan yn ddyn ieuanc, daeth i gyffyrddiad â Socrates. Y mae chwedl dlos yn cael ei dyweyd ynglŷn â hyn. Dywedir i Socrates freuddwydio breuddwyd, a gwelai alarch ieuanc yn ehedeg tuag ato oddi ar allor un o'r duwiau, ac wedi gorffwys enyd ar ei fynwes, ehedodd i fro y cymylau, ac oddi yno arllwysai y fath fiwsig melodaidd nes swyno duwiau a dynion. Drannoeth, cafodd Plato ei ddwyn ger ei fron, a theimlai Socrates ar y pryd fod ei freuddwyd wedi cael ei gyflawni. Fel yna, y mae rhamant wedi paentio y berthynas oedd rhwng y ddau athronydd. Cafodd Plato ei symbylu at bynciau mawrion athroniaeth gan Socrates; ond ni fuasai Socrates byth yn cyrraedd y fath ddylanwad oni bai am waith Plato yn casglu, yn addurno, ac yn grymuso ei olygiadau. Bu efe am ddeng mlynedd yn eistedd wrth draed Socrates, hyd farwolaeth y doethawr. Wedi hyny, ymneillduodd i dref o'r enw Megara, dipyn o bellder o Athen, lle yr ymgysegrodd i'r gorchwyl o ysgrifenu y gweithiau hyny sydd yn meddu y fath ddylanwad ar efrydwyr athronyddol ym mhob parth o'r byd hyd heddyw, ac a barhant i lefeinio meddyliau hyd ddiwedd amser.

Gwnaeth Plato wasanaeth mawr i'w oes trwy ddyrchafu meddyliau dynion at yr ysbrydol a'r anweledig. Y mae crefydd yn ffurfio rhan fawr o'i athroniaeth. Yn mysg pethau ereill, sonia yn fynych am anfarwoldeb. Ceir hyn, yn benaf, yn y llyfr a elwir Ymddyddanion. Yn hwnnw, y mae yn siarad gan mwyaf ym mherson Socrates. Fel y nodwyd o'r blaen, cafodd Socrates ei ddedfrydu i farw oblegid ei olygiadau crefyddol. Ond cafodd adeg ei farwolaeth ei ohirio dros dymor, am y rheswm a ganlyn,—Arferai yr Atheniaid anfon llong unwaith yn y flwyddyn i Delos, yn llwythog gydag anrhegion i'r duw Apolo. A phan gychwynai y llestr, yr oedd y dref i gael ei phuro; nid oedd un dienyddiad i gymeryd lle hyd nes y deuai yn ol. Condemniwyd Socrates pan oedd y llestr hon ar fin cychwyn, a bu yn hwy nag arferol ar ei thaith. Yn y cyfamser, yr oedd cyfeillion Socrates yn bur awyddus i'w ryddhau trwy lwgr-wobrwyo y ceidwad, ond ni wnai efe gydsynio â hynny. Ei resymau dros beidio cydsynio oedd, yn gyntaf, ei ddyledswydd tuag at ei wlad, os oedd yr awdurdodau wedi ei gondemnio, dylasai ufuddhau, a phlygu i'w dynged; yn ail, os troseddai ddeddfau ei wlad, y byddai ei chwaer ddeddfau yn sicr o'i gondemnio mewn byd arall. Gofynwyd iddo ar un achlysur, a ydoedd yn credu y byddai yr enaid fyw byth. Atebodd yn gadarn ei fod; ond, fel y gallesid meddwl, hynod o eiddil ydyw ei resymau. Nid oedd bywyd ac anllygredigaeth wedi cael eu dwyn i oleuni y pryd hyn. Ambell i belydryn oedd yn tywynnu ar y meddwl dynol trwy nos paganiaeth. Dyma un o resymau Socrates. Beth sydd yn cadw bywyd yn y corff? meddai. Ateb,—Yr enaid. A ydyw bywyd yn un o elfenau hanfodol yr enaid? Ydyw. Yna, nis gall yr enaid ei hun farw. Fel yna yr oeddynt hwy yn ymresymu y pwnc. Nid ydyw Plato yn gallu dirnad y gwirionedd fod yn rhaid i ddrwg gael ei gosbi, fod llywodraeth foesol Duw yn gofyn am ryw ystad lle y caiff pob camwri ei uniawni, rhinwedd ei wobrwyo, a'r lle y caiff y bywyd dynol ymddatblygu yn oes oesoedd.

Yr oedd Socrates a Phlato, yn ol y goleuni a feddent, yn credu mewn anfarwoldeb personol, ac yn dyheu am dano. Mae lle i ofni fod doethion Groeg yn peri cywilydd wyneb i luaws o ddoethion yr

oes oleu hon." Mae llawer o honynt hwy yn diddymu anfarwoldeb personol, ac yn gwynfydu uwchben yr hyn a elwir ganddynt yn anfarwoldeb dylanwad. Eu hiaith ydyw,

"May I reach
That purest heaven, and be to other souls
That cup of strength in some great agony.
Be the sweet presence of a good diffused,
And in diffusion ever more intense,
So shall I join the choir invisible,
Whose music is the gladness of the world."

Yn ol yr athrawiaeth yna, nid oes dim yn bod wedi'r "cyfnewidiad rhyfedd" ond enw, ac yn ol fel y byddo dyn wedi llwyddo i wneyd marc yn y byd, y cedwir hwnnw rhag cael ei olchi ymaith yn llwyr gan dònau amser. Anfarwoldeb yn wir! Gwell genym anfarwoldeb Plato a Socrates na hwnyna; ond mwy gogoneddus a mil melusach ydyw athrawiaeth yr Hen Lyfr na'r cwbl ynghyd,—" Ac nis gallant farw mwyach." Diolchwn am y goleuni sydd yn ein meddiant, a rhodiwn ynddo. ******* Bellach, yr ydym yn terfynu y gyfrol fechan hon o enwogion gwahanol wledydd a chyfnodau. Yr ydym wedi eu dethol o lawer dosbarth a gradd. Yn eu mysg, ceir yr esboniwr, y seryddwr, y gwladweinydd, y duwinydd, y llenor, a'r bardd. Hyderwn fod aros yn eu cwmni wedi bod yn foddion i weini rhyw gymaint o fwynhad, ac i gynyrchu edmygedd at yr hyn sydd fawr, a da, a dyrchafedig.



GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.

Nodiadau[golygu]