Neidio i'r cynnwys

Oriau yn y Wlad/Rhwng y Mynydd a'r Mor

Oddi ar Wicidestun
Y Rhodfa Drwy yr Yd Oriau yn y Wlad

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Bedd y Bardd

RHWNG Y MYNYDD A'R MOR.

"Boddlonaf ar fwthyn yn ymyl y bryn,
Ond i mi gael gweled y rhaiadr gwyn;
Tylodi a phrinder sydd well gyda Chymru
Na llawnder y byd a'i ogoniant oll hebddi."

—ISLWYN.

I.

Nos Sadwrn ydoedd,—yr olaf yn Mehefin. Yr oedd y prydnawn wedi bod yn fwll, yn enwedig yn y tren. Er agor y ffenestri led y pen, nid oedd awel d'od o unman. Yr oedd wynebau y merched oedd yn dychwelyd i Eifionydd yn ymddangos mor doddedig a'r ymenyn a gludasid ganddynt i farchnad Caernarfon. Safwyd, fel arfer, yn ngorsaf Bryncir i ddiodi'r peiriant. Ar achlysur tebyg y dywedodd Griffith Jones, Tregarth, wrth y wraig hono, oedd a photel yn ei basged, ac yn gofyn,—"Pam y mae yr engine yn sefyll cyn myn'd i'r stesion?" "O," meddai y ffraethebydd, "cael llymad mae hi, welwch chi; dydi hi ddim yn arfer cario potel."

Yn y maesydd ar dde ac aswy gwelem lanciau a lodesi bochgoch yn trin y gwair. Beth sydd wedi dod o hen orsaf—feistr Llangybi? Yr oedd yn dreat ei glywed yn gwaeddi enw y lle,—"Làn-jib-ei!" ar dop ei lais. Gorsaf fechan, wledig ydyw, ond byddai yr hen frawd—brodor o'r Ynys Werdd, onide?—yn gwneyd iawn am ddinodedd y fangre drwy floeddio yr enw gyda'r fath awdurdod a phe buasai ar blatform Euston. Ond pregethwr arall, mwy distaw, sydd yno yn awr. Wedi dangos y tocynau yn Chwilog, daethom i orsaf adnabyddus Afon Wen. Yno cawsom y fraint o aros hyd nes gwelai awdurdodau y "Cambrian" yn dda ein cludo ymaith. Ond yr oedd y nawn yn deg a'r cwmni yn llawen. Arwr yr ymgom ydoedd Mr. R. Parry, yr arwerthwr poblogaidd a chymdeithasgar. Y mae awr o'i gwmni yn un o'r pethau goreu i wrthweithio dylanwad y prudd-glwyf. Adroddai stori dda am flaenor Methodus yn myn'd at ryw sgweiar yn Lleyn i ofyn am brydles ar gapel newydd.

"Ydi trigain mlynedd yn ddigon gen ti?" ebai y sgweiar.

"Yr ydech chi yn garedig iawn, syr," ebai'r blaenor, "ond capel Methodus ydi o, cofiwch."

"Wneiff cant o blynyddoedd y tro?" ebai y tir-feddianydd.

"Diolch yn fawr," meddai'r gwladwr, "ond yr yden ni yn meddwl codi capel da iawn, syr,—siort ore rwan."

"Wel, ti cael mil o blynyddoedd, ynte "—

"Rhagorol, syr, yr ydech chi'n ffeind wrtho ni, ond"—

"Ond be?" ebai'r sgweiar, "ydi mil o blynyddoedd ddim yn ddigon? Ti deyd dy amser dy hun yntê."

"Wel, syr, gan ych bod chi mor ffeind, be ddyliech chi, tae'n ni yn ei gael o tan fore yr adgyfodiad?

"All right, John Jones," ebai'r sgweiar, "chi cael o tan y p'nawn hwnnw!"

Dyna, mae'n debyg, y brydles hwyaf ar gapel Methodus a roddwyd erioed.

Ar y llwyfan yr oedd amryw o borthmyn yn cyrchu tua ffair Pwllheli. Yr oedd golwg well-fed arnynt, ac yn bur aml aent i'r ystafelloedd hyny sydd yn cynwys darpariaeth ar gyfer mynych wendid, a deuent allan drachefn, a'u gwynebau mor goched a chrib ceiliog. Heblaw pobl y ffair, yr oedd yno, hefyd, amryw o genhadon hedd. Yn eu plith yr ydoedd yr hynaws ŵr, J. Rogers, B.A. Dywedai ei fod yn mynd i rywle yn Ffestiniog, ac yr oeddwn yn pryderu am ddiogelwch y "tren bach" wrth glywed am yr anturiaeth.

"Pam y mae y tren yma mor hir, deudwch?" ebai rhywun oedd wedi myn'd drwy ei dipyn stoc o amynedd. "O!" meddai gŵr bychan, llygadlym, "ond y Prince of Wales yna sy wedi drysu y trens i gyd. 'Does yna ddim trefn arnyn nhw er pan aeth o i Aberystwyth." Tybed fod ei Uchelder Brenhinol yn ymwybodol o'r agwedd yma ar ei ddylanwad cyhoeddus?

Pan ddaeth y tren o gyfeiriad Porthmadog gwelem fod rhywbeth yn y gosodiad wedi'r cwbl. Disgynodd amryw wŷr pwysig ar y platform. Yn eu mysg yr oedd professors Bangor, yn nghyda theilwng faer, beth bynag am gorfforaeth, Caernarfon. Wedi i'r uchelwyr hyn fyn'd i'w ffordd, cawsom ninau fyn'd rhagom tua Phwllheli. Ysgafnwyd y llwyth yn y 'Berch drwy i Mr. Parry fyn'd i lawr, ac yna daethom yn chwap i ddinas Dafydd a Solomon. Yn y stesion yr oedd cynrychiolaeth dda o gerbydau Lleyn, a'r gyriedyddion yn llygadu am lwyth. Gwelais un o weinidogion Criccieth yn esgyn i gerbyd taclus oedd yn galw yn ngorsafoedd Morfa Nefyn, Edeyrn, &c., a chan fod y gŵr yn awdurdod ar lawer o bethau, dilynais ei esiampl. Dywedid fod y cerbyd hwn ar y "lôn bost" yn cyfateb i'r hyn ydyw yr Irish Mail ar y rheilffordd. Sylwais fod y perchenog yn byw mewn lle ac iddo enw arwyddocaol,—"Tir Gwenith." Pa ryfedd fod ei feirch mor sionc? Aethom drwy heolydd y dref gyda rhwysg, ac yna i ganol y wlad. Erbyn hyn yr oedd gwres yr haul wedi lliniaru, a'r awel yn llwythog o beraroglau y weirglodd. Daethom yn ebrwydd i'r Efail Newydd, a gwelais yno un peth newydd,—nid amgen oedd hyny nac "eglwys," heb fynwent na chlochdy yn perthyn iddi o gwbl. Nid ydyw ond ty anedd hollol gyffredin. Y mae y cyferbyniad rhwng eglwys a chapel yn y pentref bychan hwn yn ffafr yr olaf ar hyn o bryd, ond nid doeth ydyw diystyru dydd. y pethau bychain. Yn fuan ar ol gadael yr Efail, daethom i goedwig ardderchog Bodûan. Y mae y brifffordd yn dirwyn drwy avenue o goed,—un o'r llanerchau mwyaf cysgodol a phrydferth yn yr holl wlad. Cawsom gipolwg ar y palasdy rhwng cangau deiliog, ac yn nes atom yr oedd yr adeilad harddwych a adwaenir wrth yr enw eglwys Bodûan. Carasem glywed y clychau melus yn adsain drwy y goedwig. Y mae gwrando arnynt, mewn llanerch fel hyn, yn myn'd a dyn o ran ei feddwl i gyfnod rhamantus y mynachlogydd yn Nghymru.

Ar ben yr allt y mae ty a gardd wedi eu hurdd—wisgo â blodau mwyaf hudolus; ac, heb fod yn nepell o'r fan, gwelais un o'm cyd-ysgolorion yn y dyddiau a fu, Robert Davies y Ddwyryd, ger Corwen,—yr hwn sydd yn llanw y swydd o bailif yn Bodûan.

Y mae R. D. yn fardd gwych, ond ofnaf fod ei delyn ar yr helyg. Paham? Parodd yr olwg arno, a'r ychydig eiriau a basiodd rhyngom i mi syrthio,—nid oddiar y cerbyd, ond i fath o ddydd—freuddwyd am adeg ddedwydd ar lanau y Ddyfrdwy. Ni ddeffroais yn iawn nes i'r gyriedydd alw fy sylw at aneddle lonydd oedd i fod yn llety i mi y noswaith hono. Ffarweliais â'm cyd—deithwyr diddan, a diflanodd y cerbyd yn y pellder, mewn gwir ddiogel obaith na ddaw relwê i Borthdinllaen tra byddo buan—feirch y "Tir Gwenith " yn carlamu dros y fro.

II.

Ael-y-bryn—dyna le braf,—yno
Daw'r gwanwyn gynaraf;
A dyna'r fan daw huan haf
Eilwaith, a'i wên olaf,

WEDI mwynhau gwydriad o'r llefrith puraf, ac ateb yr holiadau arferol, aethum i'r ardd, ac yno, yn nghanol dail a blodau y mwynheais rai o'r oriau hapusaf,—oriau euraidd, mewn gwirionedd. O un cyfeiriad, yr oedd mynyddoedd yr Eifl, yn glir a thawel, ac ambell gwmwl gwyn yn gorphwyso enyd ar eu hysgwyddau, tra yn croesi drostynt. I'r gorllewin, yr oedd y môr murmurol, a phelydrau yr haul yn dawnsio ar ei donau. Mewn perth gauadfrig yn ymyl, yr oedd aderyn pereiddfwyn, yn canu ei emyn hwyrol; ac O! y gyfaredd oedd yn ei gerdd. Yr oedd yn gwefreiddio fy nghalon, ac yn creu rhyw dangnefedd heddychol yr un pryd. Nos Sadwrn aderyn: mor ddymunol ydyw? Sut na fedrai dyn etifeddu yr unrhyw dangnef? Ni ddymunwn ddim amgen ar nos Sadwrn na'r olygfa hon,—gardd, aderyn, awel fwyn, hirddydd haf. Dyna'r pethau sydd yn troi y byd yn Baradwys, a phe buasai dyn wedi cadw yn nes at y math yma o bleserau, ni fuasai Paradise Lost yn ei hanes. Ond yn yr oriau dedwydd hyny, rhwng y mynydd a'r môr, teimlais mai nid breuddwyd bardd yn unig ydoedd "Adfeddianiad Gwynfa." Teimlais fod twymyn anesmwyth Bywyd yn cael ei leddfu am enyd; teimlais rin y goleuni hwnw na thywynodd ei hafal ar fôr na thir. "Dy lygaid a welant y tir pell "—tir y pellder. Gwelais balasdai swyn—hudol yn mro machlud haul; gwelais gymylau y gorwel yn cyfnewid o ogoniant. i ogoniant dan hudlath y Swynwr. Yna daeth y nos mor dawel, a'i mantell wedi ei hymylu ag aur coeth, fel mai o'r braidd y gellid dweyd mai nos ydoedd. Ac hyd yn oed wedi iddi ymledu dros fynydd a gwaen, yr oedd pelydrau porfforaidd yn aros yn y gorllewin, fel llysgenhadon gorsedd brenin y dydd.

Ond rhaid gado y cyfan, a thalu gwarogaeth i ddeddf fawr natur. Y mae dydd arall yn dynesu, yn nghyda'i bryder—ond ni chaiff yr ysbryd aflonydd hwnw ddod i mewn cyn ei amser. A phan y daw fel gŵr arfog, y mae genyf ystafell fechan i droi iddi,—ei henw ydyw Adgof. Yno yr af. gan gloi y drws yn ddistaw, ac eisteddaf enyd o flaen darlun aniflanol a wnaed gan artist perffaith yn ngoleuni yr hwyrddydd. Gardd, aderyn, hedd y mynyddau, murmur yr eigion, lliwiau digymar machlud haul—dyna rai o'r studies sydd yn y darlun. Os dymunai y darllenydd feddianu ei debyg, credaf y gellir ei gael, dros ychydig amser eto, ar yr un telerau—rhwng y mynydd a'r môr.

Nodiadau

[golygu]