Oriau yn y Wlad/Yn Mrig yr Hwyr
← Gweled Anian | Oriau yn y Wlad gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Bardd y Gwanwyn → |
YN MRIG YR HWYR.
["AR y ffordd adref yr oeddwn yn pasio mynwent Llandwrog, ac yno ar gofgolofn wenlliw Ioan Arfon yr oedd bronfraith yn canu yn felus odiaeth. Nid oedd un aderyn arall i'w glywed; yr oedd yn llwyd—dywyll, ond canai y fronfraith â'i holl egni ar fedd y bardd. Safais i wrando. Yr oedd yr olygfa a'r melodi yn fy nghyffwrdd yn y tawelwch a'r unigedd,—y fronfraith, fin nos, mewn mynwent, yn canu ei hwyrgan ar fedd y bardd."]
I.
Huan dydd, aeth dan gudd, llonydd yw'r llwyni,
Cathlau swyn, adar mwyn, 'nawr sy'n distewi.
Nifwl gwyn doa'r bryn, huna y blodau,
Daeth y nos, hafaidd dlos, gyda'i chysgodau.
Tyner "Ust!" ar fy nghlust, sibrwd freuddwydion;
Ysgafn chwa ddwed "Nos Da," yn yr encilion.
II.
Ond mae un, cerddor cun, a'i emyn buredig,
Uwch y bedd, mangre hedd, yn arllwys ei fiwsig;
Cana'n ber, yn ngoleu ser, uwch yr oer annedd,
Hunfa werdd, un o feib cerdd a chynghanedd:
Gantor llon, yn fy mron deffry adgofion,
Cofiaf gân, awen lân, y mwyn Ioan Arfon.