Owain Aran (erthyglau Cymru 1909)/Y Bardd Parod
← Athrylith Bore Oes | Owain Aran (erthyglau Cymru 1909) gan Edward Williams (Llew Meirion) |
Yr Athraw → |
II. Y BARDD PAROD.
BETH feddylier o'r englynion canlynol, pan nad oedd ond bachgen, nid yn unig oherwydd eu cynghaneddion cryfion, ond o ran purdeb iaith ac arddull lenyddol? "Erfyniad am heddwch" yw y testyn, yr adeg yr oedd cyfandir Ewrop yn llawn berw, a'r Hungariaid yn cael eu gorthrymu gan yr anghenfil Haynau hwnnw, pryd yr ymddangosodd Louis Kossuth fel amddiffynnydd y genedl orthrymedig honno. Gwrandewch,―
"Heddwch, tawelwch diwad—o filain
Ryfeloedd certh, anfad;
Iddynt y bo diweddiad,
Er byw'n llon, freinlon heb frad."
"Gresyn, yn Ffrainc a Rwsia—ymhyrddiant
Am orddwys ryfela;
O mor llon, dirion, a da
Bo heddwch i feib Adda."
"A'r Awstriaid sydd fel yr estrys,——llawn mall
Yn amhwyllig echrys,—
Dreigiau hyllion drwg 'wyllys,
Rhuthrant, brwydrant mewn brys.
"Trwyadl bu'r Hungariaid, truain,——cufwyn,
Ac hefyd gwyr Rhufain;
Mae achos rhoi trom ochain
Hyd fedd, yn rhyfedd i'r rhain."
"Eang adfydus anghydfodau—'n wir
Sydd mewn eraill fannau,
Ac aml eiddig ymladdau
Terwynion, gwylltion yn gwau."
"Bydded fflwch Heddwch o hyd,—tra eirian
Trwy Ewrob heb adfyd;
Hafal cyrhaeddo hefyd
Yn glau, trwy barthau y byd."
"Edrycher am fawr ymdrechion—buddiawl
Na byddo lladd dynion;
Ie, llwydd gynyddo llon
Fyd hylwydd, heb fatelion."
"Gadawn y gwg, dyna gân
Anhyrwydd Owain Aran."
Yr oedd gan Owain galon fawr, ac y mae lle i dybied ei fod wedi bod unwaith, o'r hyn lleiaf, yn dioddef yn drwm o dan glefyd yr organ honno, nid oherwydd unrhyw afiechyd anianyddol arni, megis fatty degeneration, fel y bydd y meddygon yma yn ysgrifennu ar dystysgrif marwolaeth ambell un; ond clefyd arall ag sydd yn effeithio ar bawb o honom, fwy neu lai, ar adegau, ond fel y mae goreu y lwc nid yw yn "glefyd i farwolaeth." Serch, neu gariad at wrthddrych ydyw hwnnw, a'r gwrthddrych a effeithiodd ar Owain yn y cysylltiad hwn oedd merch ieuanc o'r enw Gwen, a chyfansoddodd dri englyn yn llawn o deimlad byw, ac yn dangos yn eglur ei fod yn meddu ar y gwendid neu y nerth hwnnw sydd yn rhoddi pawb allan o'r cyfrif am ragoroldeb ond rhyw un, ac i Owain Gwen oedd honno. Dyma fel y canodd,—
"Adwaenaf ar hyd Wynedd—enethod
Glân eithaf eu buchedd,
Rai tirion, gwychion eu gwedd,―
Yn goronog o rinwedd.
Ond, os i ferch y dewisaf fi—ganu,
Cofio Gwen raid i mi;
Ni anwyd merch fwy heini,
Nac ail Gwen i'm golwg i.
"Gwen fêl eiriau, Gwen fal arian—ei lliw,
Gwen â llais fel organ;
Gwen wen, dlos, Gwen hynod lân,
A Gwen oreu gan Aran."
Gallai hefyd gydymdeimlo â rhai mewn profedigaeth; a theimlir mewn ambell englyn, ffrwd fywiol o'r rhinwedd uchel-dras hwnnw yn rhedeg tuag at y rhai a brofid felly. Dyma i chwi engraifft o hynny mewn englyn a gyfansoddodd ar ol Harriet, merch i Mr. a Mrs. Robert Jones y Tanner, a chwaer fach i'r diweddar, erbyn hyn, Mrs. Chidlaw Roberts,—
"O'i hol, ei rhiant haelion—na weler
Yn wylo deigr heilltion;
Diau Harriet, em dirion—yn iach fry
Sy'n lleisio'n felus yn llys nefolion."
Y mae hwnyna yn deilwng o unrhyw fardd englynol a adnabu Cymru erioed. Wele un arall ar farwolaeth merch ieuanc dduwiol iawn o'r enw Sarah Jones,—
'Ha! er daearu y dirion—Sara,
Seren y gwyryfon;
Yng ngoleu wlad angylion
Onid hardd yw enaid hon?"
Cyfansoddodd Owain feddargraff, pa un ai i'w roddi ar ei fedd ei hun, ynte ar ol rhywun arall nis gwn, ond y mae yn ddigon agored i fod ar fedd unrhyw un, boed dduwiol neu anuwiol, tlawd neu gyfoethog, a dyma fo,—
"O'r nef, ar ein daear ni,—'r munudyn
Yr amneidia Celi,
Dihunaf, cyfodaf fi
Uwchlaw llwch a chlo llechi."
Dyma feddargraff chwaer yng nghyfraith fechan i mi ym mynwent Rhyd y Main,—
Rhyw olwg byrr a welodd, yn y byd;
Dan ei boen ni ddaliodd;
Ond yn ddifraw draw hi drodd,
I wlad engyl diangodd."
Dyma i chwi englyn penigamp eto ar ol bachgen ieuanc a fu farw mewn canlyniad i dorri aelod mewn damwain,―
Os anaf roes i huno—y gwiwlanc,
Na wylwch am dano;
Y nef yw ei drigfan o:—
Dianaf ydyw yno."
'Doedd waeth gan Aran yr iaith Saesneg na'r Gymraeg i nyddu englynion iddi. Gwrandewch ar ddau neu dri. Ar achlysur priodas Mrs. Roberts, Ty'n y Cefn, Corwen, mam Mr. R. R. Roberts, yr arwerthydd, a chwaer i Mr. Meyrick Jones, canodd,―
"In love may they be living—for a long
Fair life without ceasing;
And happiness' gate opening—to them now,
Yes, really, so we are all saying."
Dyma ei englyn i'r Mul,―
"So well he'll sing a solo—in the field
With a full crescendo;
Rolling, and ending, you know
With a tender rallentando."
Dyma eto ddau englyn a gyfansoddodd i'w hen feistr, Mr. R. O. Williams, National School, ar ol ei glywed yn canu y crwth un noson,—
Who merits his admiring—but Williams?
He'll beat all to nothing;
No soul have I heard to sing
A tune so entertaining.
"When he plays, Oh how pleasing—is the sound
As though saints were harping;
I was, I felt, on the wing
Far in heav'n for one ev'ning."
Digwyddai fod yn aros un noson mewn ffermdy yn ardal Rhyd y Main lle yr arferid siarad dipyn o Saesneg; a gofynnai gwraig y ty iddo,—"What will you have for supper, Mr. Aran?" Ac atebodd Owain hi mewn munud gydag englyn,―
"I want not fflummery, whatever,—nor porridge,
When you prepare supper;
In fact, always prefer
A bit of bread and butter."
Yr oedd gan Owen Owens, Dolfanog (Llety Rhys) gŵn dan gamp, ac y mae yn gofyn i Owain eu hanfarwoli âg englyn, a chredwn ei fod yn gwybod rhywbeth am deithi y cŵn, ac yr hoffai rai o honynt yn fwy na'u gilydd, a dywedai am danynt,—
"Ffenix yn aml a ffonier—a hir oes
I Quarie a Belsier,
Venus i fyw einioes ferr,
A Rumsey am hir amser.'
Yr oedd hefyd gan yr un gŵr ffon nodedig, a byddai yn ei hoetian ar rai adegau yn bur fygythiol, a chyfarchodd Owen hi,—
"Wele ffon, gan Ddolffanog,—ddiwyrgam,
Rydd ergyd gynddeiriog;
A phan drawo'r ffon droiog,
Nid mor gynted y rhed rôg."
Ar rai o'i bleser—rodfeydd aeth i ymweled â'i gyfaill a'i ddisgybl Dafydd Ifans, Hafod y Meirch (Nant y Gwyrddail yn awr) un prydnhawn Sadwrn, a daeth yn gawod drom o wlaw. Gofynnodd Aran iddo a oedd ddim am noswylio. "Tydi hi ddim yn saith eto,' "atebai Dafydd Evans. Ebai yntau mewn eiliad,—
"Heno cei 'swylio cyn saith,—ys ydyw
Nos Sadwrn gwlyb diffaith;
Ond dydd Llun, er tywydd llaith,
Ti weithi gymaint wythwaith."
Yn 1855 agorwyd ysgoldy cenedlaethol ym Mryn Coedifor,—yr ysgol elfennol gyntaf a godwyd yn yr ardal fel y cyfryw, er fod rhyw fath o ysgol yn cael ei chadw o bryd i bryd yng nghapel Siloh a Hen Gapel Rhyd y Main, a byddai gwyr ieuainc yn dyfod ar eu tro i wasanaethu ynddi. Yr ydym yn cael yn y flwyddyn 1849 fod Owen Evans (wedi hynny ac yn awr, Dr. Owen Evans, Lerpwl) yn athraw yno am ryw dymor, ac o'i flaen ef deuai Thomas Roberts (Scorpion) yno ar ei dro o Lanuwchllyn i gynnal dosbarthiadau ddysgu Gramadeg Cymraeg, a gwnaed llawer iawn o ddaioni drwyddynt. Felly yr oedd yn y Brithdir hefyd; bu yr hen Ellis Edwards Pen y Bryn yn cadw dosbarthiadau yn y gaeaf i ddysgu ychydig o ddarllen, ysgrifennu, rhifyddu, a gramadeg Cymraeg. Ac i'r ardal hon y daeth Owain Aran i gychwyn gyrfa athraw.