Owain Aran (erthyglau Cymru 1909) (testun cyfansawdd)
← | Owain Aran (erthyglau Cymru 1909) (testun cyfansawdd) gan Edward Williams (Llew Meirion) |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Owain Aran (erthyglau Cymru 1909) |
Owain Aran
Gan
Edward Williams (Llew Meirion)
Erthygl o Cymru Gol O.M.Edwards
Cyf 37, 1909
Owain Aran.
I. ATHRYLITH BORE OES.
YN hen fynwent Eglws St Mair, Dolgellau, ar yr ochr orllewinol, y mae carreg arw ac arni wedi eu torri, nid yn hollol "âg anghelfydd law," y tri gair,-
BEDD
OWAIN ARAN
heb na dyddiad genedigaeth na marwolaeth, heb air i ddweyd mab i bwy ydoedd, na pha alwedigaeth a ddilynai tra yn nyddiau ei gnawd. Nid oes na phennill nac adnod arni i ddangos pa un ai ieuanc ai hen ydoedd, nac unrhyw fynegiad arall ond i Gymro ag sydd erbyn hyn wedi hen arfer cysylltu ffug-enw â phriodoledd bardd neu gerddor. Ac ni buasai gennym y wybodaeth hon am ei orweddle, y mae lle i ofni, oni bai i ryw ddieithrddyn ddyfod ar ei rawd i'r gymydogaeth a holi am "fan fechan bedd un yr ystyriai efe ei bod yn ddyled arno, ac yn fraint iddo, dalu gwarogaeth i'w orffwysfa olaf fel un o feib athrylith Gwalia wen. Nis gwyddom a ydoedd Owain wedi rhoddi "gorchymyn am ei esgyrn"
"I'w dodi i orffwys, heb gwynfan na galar,
Na chodi'r un gofnod i ddangos y fan."
Ond fodd bynnag, hyn sydd ryfedd, fod torri ar gerrig beddau yn rhan o grefft ei dad, ac yntau ei hun wedi bod wrth y gwaith hwnnw, fel y cawn sylwi ymhellach ymlaen. Yn awr adroddaf yr hanes pa fodd y torwyd y geiriau a nodais ar yr hen garreg arw sydd ar ei gorwedd. Daeth dieithrddyn yn araf gerdded rhwng colofnau dinas y meirw Llanfair Bryn Meurig, a gwelai yr hen wraig a ofalai am yr Eglwys, sef Lowri Humphreys, yn dod o'r deml, a gofynnodd iddi a wyddai hi a oedd un o'r enw Owain Aran wedi ei gladdu yn rhywle yn y fynwent honno ers rhyw hyn a hyn o flynyddoedd.
Hithau a'i harweiniodd at hen feddrod un o hynaf iaid Owain, gan ddweyd mai yno y claddwyd ef, ac na chladdwyd neb yn y bedd- rod hwnnw ers rhai ugeiniau o flynydd- oedd o'i flaen. Y mae yntau yn synnu nad oedd hyd yn oed sill wedi ei thorri ar y garreg i goffadwriaeth un a ystyriai efe yn wir deilwng o hynny; ac y mae yn gofyn eilwaith a oedd hi yn gwybod am rywun yn y dref yn medru torri llythrenau ar gerrig; a hithau yn ateb yn y fan fod brawd i Owain wrth ei swydd yn gwneyd hynny, ac yn lled awgrymu y buasai yn dda ganddo gael y gwaith. Wedi cael Gruffydd, brawd Owain, i'r lle, y mae'r gŵr dieithr yn cytuno âg ef am ryw swm o arian i dorri y tri gair "Bedd Owain Aran" ar y maen garw, a dyna yr unig gofnod sydd ar y maen yn ei gysylltiad âg Owain. Enw y cymwynaswr a wnaeth y weithred hon ydyw Eifionnydd. Yn flaenorol i hyn nid ydym yn deall fod neb yn gofalu am wybod dim am argel wely Aran, na neb yn or-awyddus i wybod pa le y claddwyd ef. Yn wir, yr wyf wedi bod yn holi llawer o'i gyfoed, a'r rhai a wyddent lawer am dano pan yn fyw, nad ydynt yn cofio ei gladdedigaeth nac ymha fynwent y claddwyd ef. Gallesid meddwl y buasai marwolaeth a chynhebrwng un oedd mor neillduol o athrylithgar wedi gosod nod arbennig ar gof y rhai a'i hadwaenent mor dda, ac a feddyliant yn awr —mor uchel o'i alluoedd, ond nid felly y mae. Y mae ei Exodus mor dywyll i'w gydnabyddion ag oedd ei Genesis iddynt yn ei faboed. Priodol iawn y gallasai Aran druan ofyn yn iaith bardd anhysbys eto i mi,―
"Tra'r llaw hon yn pydru, fydd son am fy nghanu?
Fydd gwladwr all nodi fy llety'n y Llan,
Neu ddeigryn i'w golli os clywir fy enwi
Cydrhwng yr Eryri a'r Aran?"
Yr oedd rhywbeth cyfriniol ym mywyd Owain yn blentyn ac yn llanc, yn ol pob tystiolaeth wyf wedi gael. Nid oedd ei gyfoedion yn hollol ddall i'r ffaith ei fod yn meddu ar nodweddion arbennig nad oeddynt hwy yn gyfranog o honynt yn eu hafiaeth diniwed, ac feallai, ar brydiau, direidus. "Toeddan' ni ddim yn ei gymyd o fel hogia erill, rwsut," meddai un wrthyf oedd yn byw heb fod ond ychydig o lathenni o'i gartref.
Os mai yng ngro afon Aran y byddai y plant yn ymryson lluchio cerrig at rywbeth neu gilydd, codi pont o fân gerygos ac adeiladu melin, a threfnu rhôd i droi, drwy rym rhidys o ddwfr, y byddai Owain. Bryd arall, byddai wedi dyfeisio rhyw ryfeddod i synnu ei gyfoedion mewn cyfeiriad gwahanol.
Mab ydoedd i Lewis a Chati Roberts, ac yr oedd yn un o naw o blant. Saer coed, crogwr clychau, torrwr ar gerrig beddau, trwsiwr dodrefn coed a phres ac alcan a haearn, un yn paentio a phapyro, gwerthu clocsiau, a phob rhyw gelf, ydoedd ei dad. Dyn bychan cyflym-droed, ac yn meddu ar ddawn eithriadol, i wylo, oedd Lewis Roberts. Yr oedd yn gallu ar bob gwaith, ac yn dysgu ei blant yn y gwahanol ganghennau hyn, ac yn ddiddadl yr oeddynt oll yn eithriadol yn nestlusrwydd y gwahanol oruchwylion yr ymgymerent â hwynt. Am Cati Roberts, yr oedd hithau yn meddu ar ryw fath o alluoedd nad ydynt yn gyffredin iawn i wragedd o'i sefyllfa hi. Ar adegau deuai tyrfaoedd o German Bands ar draws y wlad, ac yn eu tro ymwelent â Dolgellau, a byddai eu hymddangosiad yn arwydd digamsyniol "fod yr haf yn agos." Lletyent yn ddieithriad yn nhy Lewis a Chati Roberts, ac yn ei mynych gyfathrach â hwynt yr oedd yr hen wraig wedi pigo digon o Ellmyneg i allu deall eu hanghenion, ac i ddal, am ryw hyd, ymgom gyffredin â hwy. Nid wyf yn deall fod aelwyd Lewis Robert yn enwog ar gyfrif unrhyw duedd a meithriniad at lenyddiaeth na barddas; ond cafodd celfau, yn y gwahanol gyfeiriadau a nodais, sylw mawr gan y plant, nid o gariad atynt fel y cyfryw, ond fel moddion i gadw y cefn yn glyd, a'r ffrynt yn weddol lawn. Hefyd yr oeddynt oll yn bencampwyr mewn chwibanu, tynnu darluniau, a rhyw fân driciau sleight of hand. Yr oedd Owain yn fwy celfydd na'r un o honynt yn y cyfeiriadau hyn, gallai daflu ei lais, a chwareu y fife,—anhebgorion i un oedd wedi argraffu ar feddyliau ei gyfoedion ei fod yn amgenach o ran ei alluoedd na hwy. Aeth un diwrnod i un o hen dai y Penbryn Glas, yr hwn oedd ar y pryd yn amddifad o drigiannydd, ac wrth edrych o'i gwmpas canfu lewyrchiad pelydryn heulog yn llathru ar ryw gornel dywyll o'r ystafell. Y mae ar unwaith yn gweled posibilrwydd rhyw ddyfais fach o'i eiddo ei hun, ac y mae yn ceisio darnau o wydrau toredig hen looking glass ac yn eu cyfleu yn y fath fodd fel ag i adlewyrchu y golygfeydd oddiallan ar bapyr gwyn oedd wedi ei osod mewn bocs oddifewn, ac yn y fan dyna Benbryn Glas wedi ei droi yn camera obscura sefydlog a gwahoddai ei gyfoedion bychain yno weled mulod y ffatrioedd, a dynion yn mynd a dod ar hyd ffordd y Wenallt, a hwythau yn y siamber gauedig!
Nid ydym yn gwybod pa faint o addysg fydol na chrefyddol a gafodd. Ond y mae un peth yn eithaf eglur, na bu heb arddangos gwybodaeth helaeth ac eang cyn bod yn bymtheg oed. A dyma ni yn awr wedi dyfod at anhawsder ag sydd o bryd i bryd wedi, ac yn bod, yn un o ddyrysbynciau mawr meddylegwyr pob oes. Mae i'r naill fel y llall eu hagweddau a'u gwahaniaethau. Beth sydd yn cyfrif am yr hyn a elwir yn prodigies yn y byd meddyliol ac anianyddol? Cymerer Mozart, Kubelik, Mischa Elman, yn engreifftiau o rai wedi ennill llwyr feistrolaeth ar deithi uchaf cerddoriaeth o bump i wyth a deg oed? Mae llawer o rai eraill y gallasem eu henwi, a enwogasant eu hunain cyn dyfod i oedran a alwn ni yn gyfrifol, mewn cyfeiriadau eraill. Neu, gadewch i ni ddyfod yn nes eto,-beth sydd yn cyfrif am alluoedd sydd yn dadblygu i dwf mor eithriadol o ddisglair, pryd y mae'r am- gylchedd yn hollol anfanteisiol i'r tyfiant? Onid oedd hyn yn dyrysu rabbiniaid Palestina pan yn dystion o alluoedd proffwyd ieuanc a thlawd oedd yn synnu y wlad â'i wybodaeth a'i ddysg, a'r awdurdod â pha un y llefarai nes iddynt orfod gofyn gyda syndod diobaith,—Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth ac yntau heb ddysgu?" Cofier mai gofyn y cwestiwn yr oeddynt o safbwynt meddyleg (phsychology) ac heb freuddwydio am ddwyfoldeb y proffwyd. Yr oeddynt yn gwadu hynny. Y mae llawer wedi ceisio rhoi enw ar y peth hwn, gan nad beth ydyw. Talent, medd rhai, athrylith medd eraill, awen medd y lleill. Ond beth yw y naill neu y llall, neu yr oll? Dywed yr hen Sam. Johnson mai rhodd natur yw talent— "gift of nature, and that the word is synonomous with quality, as talent of gold." Eraill a ddywedant mai defnyddiad medrus o'r hyn sydd yn bod yw talent, hynny yw, gwrteithiad gallu cynhennid o eiddo y meddwl. Athrylith medd Carlyle yw "Immense capacity of taking pains," gallu enfawr i gymeryd trafferth. Nage medd Johnson,—"Disposition of nature by which anyone is qualified for some peculiar employment ―tueddiad neu ogwyddiad anian drwy ba un y cyfaddasir un at unrhyw waith arbennig. Athrylith, yn ol un arall, yw y gallu i greu defnyddiau; ac awen yw yr hyn sydd yn rhoddi brwdfrydedd yn yr oll. A dyma ni yn Owain Aran wyneb yn wyneb a'r broblem yma—llanc, nad oedd dim yn yr amgylchiadau o dan ba rai y magwyd ef yn rhoddi un tueddiad at lenyddiaeth yn ei ffurf uchaf, nac, yn wir, mewn unrhyw ffurf, nac at farddoniaeth fel gwyddor, nac at gerddoriaeth ychwaith fel y cyfryw; ac eto cawn ei fod, fel yr awgrymasom, yn meddu ar ddirnadaeth glir a gwybodaeth helaeth o'r naill a'r llall; yn feistr ar y Gymraeg yn ei gwedd fwyaf clasurol, yn ei hieithwedd a'i gramadeg, yn feddiannydd ei theithi yn ei harddull a'i cheinder. Meistrolodd hefyd y pedwar mesur ar hugain cerdd tafawd yn eu holl gyfrinion; yr oedd yn rhifyddwr cyflym, ac yn gerddor gwych. Gallai gynghaneddu, darllen, ac esbonio i'w ddisgyblion holl ddirgelion cerdd a thant; a gellid ychwanegu ei fod yn alluog iawn mewn cerfio ar faen a delid, yn ogystal ag arlunio mewn du a gwyn. Ac eto nid oes gennym wybodaeth ei fod wedi ymboeni rhyw lawer er ennill y tir a wnaeth; yn wir yr oedd ei amgylchedd (environments) y fath fel y mae yn hawdd credu nas gallai ei fod yn cael unrhyw symbyliad, y tu faes iddo ei hun, i ym- berffeithio nac ychwaith i ymhyfforddi. Ond waeth beth sydd yn cyfrif am ei alluoedd, dangosodd yn ieuanc iawn ei fod yn meddu ar feddwl o uwch gradd na bechgyn yn gyffredin yn yr oedran cynnar o ddeuddeg i bymtheg oed.
Ganwyd Owain Aran yn y flwyddyn 1836, mewn ty ar lan yr afon Aran, y nesaf ond un i'r Fronheulog. Nid efe oedd yr hynaf na'r ieuengaf, o'r plant; ond cymerodd ei le yn drydydd yn y rhestr o naw; ac y mae digon wedi ei awgrymu gennym yn barod i ddangos yr amgylchedd ymha un y dygwyd ef i fyny yn deuluol. 'Doedd manteision addysg Dolgellau yr adeg honno hanner mor loew ag ydynt heddyw. Yr oedd yr Ysgol Rad yn bod, ond nis gallwn gael allan fod Owain wedi bod ynddi. Yr unig ysgol y bu yn ei mynychu oedd yr Ysgol Genedlaethol, am ba hyd nis gwyddom; ond clywsom ar awdurdod dda nad oedd ganddo ddillad priodol i fyned yno pan oedd Arolygydd y Llywodraeth yn arholi y plant yno un tro. Pa fodd bynnag, ni chafodd un cynorthwy i'w wybodaeth o'r iaith Gymraeg yn yr ysgol honno, oherwydd yr oedd defnyddio gair Cymraeg ynddi hi yn gyfystyr â'r pechod nad oedd maddeuant am dano, ond cospedigaeth—heb iawn.
Pa bryd y dechreuodd Aran gymeryd dyddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth, nid wyf yn gwybod; nac ychwaith trwy ba gyfrwng y daeth i feddu ar y ddirnadaeth a'r wybodaeth helaeth o reolau cynganedd gaeth. Yr oedd er yn ieuanc iawn yn hynod barod ar ei dafod, ac yr oedd sydynrwydd ei gwestiynau a'i atebion cynghaneddol yn wybyddus i bawb. Dywed y rhai oedd yn ei adnabod yn dda pan yn hogyn ei fod yn holi neu yn ateb cwestiwn, bob amser bron, ar fath o gynghanedd. Yr oedd clec y gydsain iddo mor hawdd ag anadlu, ac yr oedd y cyflymder a'r sydynrwydd hwnnw sydd yn naturiol i rai o ardymer nwyfus a chwareus yn rhoddi min ar ei ymadrodd. Er engraifft, un bore Sul gwelai cyfoed ef yn myned a llian ar ei fraich a chlap o sebon yn ei law at afon Aran, ac y mae yn gofyn iddo, "Lle wyt ti'n myn'd, Owan?" "I dorri Sabboth â dŵr a sebon," meddai yntau, yn hollol ddifraw. Bryd arall gwelai yr hen Ddafydd Tomos y Llwyn (Dewi Wnion) ef yn llifio cord o goed i Griffith Jones y pobty, ac y mae Dewi yn gofyn, "Be 'ti 'neyd 'nei di dd'eyd ddyn?" "O!" meddai Owain, "croes-gytio er crasu i Gutyn". Dro arall, yr oedd dau gi yn ymladd ar un o lanerchau y dref yma, ac ar achlysur felly y mae tipyn o helynt, nid yn unig rhwng y cwn, ond rhwng pobl yn aml. Yr oedd yn digwydd fod Bardd Dochan yn gwylio yr ymladdfa, ac Owain heb fod ymhell, a dyma'r hen fardd yn dweyd, "Cŵn annwn yn cynenu." Ie," meddai Owain, ond un go dost yw'r hen gi du."
Gallai roi colyn ar flaen rhai o'i linellau a barai i'r sawl a'i haeddai gilio i'r cysgodion yn lled fuan. Un noson pan yr oedd Owain yn dyddori ei gyfeillion â'i ddywediadau ffraeth, pwy ddaeth i roi ei big i fewn ond John Evans (Swallow), y criwr trefol, yr hwn a ystyriai ei hun yn rhywun ac felly yr oedd—a gwelai mai Owain oedd wrthi, a gwnaeth linell gynghaneddol a gofynnodd, mewn tipyn o wawd, gallesid meddwl,-
"Ai Aran sydd yma'n roario?"
Teimlodd Owain fod John Evans yn intrudio, ac atebodd,―
"O'r Aran i'r Eryri
Oes un â cheg fwy na chwi?"
Un tro tua gwyliau Nadolig daeth dieithrddyn o Sais at Owain, a gwialen pysgota ganddo, ac y mae yn gofyn iddo a oedd yna bysgod yn yr afon. Y mae Owain yn edrych dipyn yn syn fod gŵr yr enwair yn meddwl am fynd i bysgota ym mis Rhagfyr, ac y mae yn ei ateb,-"O! yes, any amount; but,—
"Fishing is not in fashion;—in winter,
'Tis wanted but mutton;
Reel your line, leave rod alone,
In summer you'll have salmon.
Yr oedd y parodrwydd i ateb mewn cynghanedd yn dal yn gryf ynddo hyd y diwedd. Pan yr oedd ef a Blodeuyn Mawrth, sef Mr. Robert Pugh, Helygog, yr hwn oedd yn ddisgybl i Owain tra ym Mryn Coedifor, yn dychwelyd o un o dai ffermydd Rhyd y Main, y maent yn dod at ffos, a 'doedd dim ond ei neidio er mynd i'r ochr arall iddi. Y mae Mr. Pugh yn cymeryd wib ac yn dweyd, "Wyf neid- iwr ofnadwy." Dyma Owain ar ei ol fel ergyd a neidiodd ymhellach a dywedodd, "Ar y maes mae neidiwr mwy."
Yr oedd hefyd yn llawn o'r hyn a elwir yn sense of the ridiculous. Yr oedd yn well cerfiwr ar gerrig beddau na'i dad ac na'i frawd, ac un diwrnod, tra wrth y gwaith hwnnw ym mynwent Eglwys Dolgellau, y mae ei sylw yn cael ei dynu at bedair llinell oedd yn nodweddiadol iawn o lenyddiaeth cerrig beddau; a chyda llaw credaf fod yma faes dyddorol iawn fel astudiaeth yn llenyddiaeth y beddau. Os am wybod y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir am gymeriad llawer un sydd yn huno o dan dywyrch ein mynwentydd, peidiwch byth a chredu cyfrinach eu bedd-argraffiadau. Ni bydd i Ananias a Saphira byth farw tra y bydd ambell i garreg fedd yn aros. Ond am y rhigwm y galwyd sylw Owain ato, gallai fod yn ddigon gonest, ond bernwch chwi,—
"Remember me as you pass by,
As you are now, so once was I;
As I am now, so you will be,
Prepare yourself to follow me."
'Doedd Owain ddim yn siwr o derfyn taith y llefarwr marwol, ac y mae yn ysgrifennu yn ddwfn ar y gistfaen,—
"To follow you I'm not content,
Unless I know the way you went!"
Y mae yr argraff bron a gwisgo i ffwrdd, ond dengys yn amlwg fod Owain yn meddu ar natur hawdd ei gogleisio.
Byddai Owain yn myned ar ei dro yn hogyn i swyddfa y Dysgedydd a'r Cronicl bach, ac un tro gwelodd englyn o waith yr hen fardd Meurig Ebrill yn cael ei gy— sodi. Testyn yr englyn ydoedd sen i gacynen oedd wedi pigo yr hen fardd tra yn ei wely. Fel y mae rhai yn cofio, daeth rhyw ffit ar Feurig i fynd i'w wely ryw ddiwrnod, ac yno y bu am flynyddoedd heb fod dim afiechyd organaidd yn ei boeni, rhywbeth rhwng monni ac iselder ysbryd. Ond sut bynnag, cafodd y gacynen hyd iddo, a gwnaeth yn weithredol yr hyn a faentumid yn lled gyffredin gan fodau uwch yng ngraddfa bodolaeth oedd ei angen ar yr hen fardd, sef ei bigo yn lled arw iddo ddod o'i wely. Ac fel hyn y dolefai Meurig ei gŵyn yn yr englyn,―
"Ffyrnig, wenwynig wenynen,—freith wyllt
A frathodd fy nhalcen;
Chwyddodd, amhurodd fy mhen,—
Mae 'nau olwg mewn niwlen!"
Ysgrifennodd Owain englyn ar y foment, yn diolch i'r wenynen am ei chymwynas, ac yn deisebu arni i orffen cyflawni ei gwaith rhagorol ar yr hen fardd, a dyma yr englyn, yr hwn a gyhoeddwyd yn y rhifyn dilynol o'r Cronicl,—
"Wenynen gymen, ddi-gas—eto dos
At y dyn anaddas;
Piga, niweidia'r hen was,
Ac ei anfon o'i gynfas."
Ni wyddai Meurig pwy oedd yr awdwr am mai Pleidiwr y Wenynen roddodd Owain fel ffugenw, ond ffromodd yr hen wr yn aruthr, a chafodd allan rywfodd mai Aran oedd yr awdwr, a gofynnodd i Owen ei ŵyr, sef Mr. Owen Jones y Crydd, a allasai e' roi cweir i Owain Aran, ac os gallai iddo fo ei rhoddi.
Yn 1851 cawn fod Owain wedi dyfod i amlygrwydd neillduol fel englynydd drwy iddo yn y flwyddyn honno fyned i Eisteddfod Porthmadog, yr hon Eisteddfod a gynhelid am dri diwrnod. Nid oedd ond llanc pymtheg oed yr adeg honno. Pa fodd yr aeth nis gwyddom,—pa un ai cerdded ynte trafaelio ar step y goitsh fawr a redai y pryd hynny rhwng Dolgellau a Chaernarfon. Gwyddom bron i sicrwydd nad oedd ganddo, druan, foddion i dalu y fare fel teithydd arferol. Sut bynnag, cyrhaeddodd yno, ac yn fuan deallodd fod gwobr am englynion difyfyr yn cael eu cynnyg.
Y ddau ddiwrnod cyntaf englynion i lywyddion am y dydd a roddid yn destynau; ond gwelodd y swyddogion fod perygl yn hynny erbyn y trydydd diwrnod, gan y rhoddai hynny i'r cystadleuwyr bob lle i gasglu mai englyn i lywydd y dydd fyddai y testyn y trydydd niwrnod, ac y maent yn penderfynu rhoddi testyn newydd, a hwnnw oedd "Llwch y Fynwent." Clywodd Owain am y gystadleuaeth, ac anfonodd englyn sydd erbyn hyn wedi glynu ar gof gwerin fel un o'r englynion goreu o ran cynghanedd (euphony), hyseinedd, a naturioldeb, er feallai nad yw ei dduwinyddiaeth yn hollol orthodocsaidd yn ei linell olaf. Ymgeisiodd llu o feirdd gorchestol, a thynned oedd y gystadleuaeth fel y gofynnodd y bardd o Gefn y Meusydd, yr hwn oedd y beirniad, am gynorthwy Caledfryn i farnu y goreu o'r goreuon. Ac i Aran y dyfarnwyd y wobr, yr hwn a ymddangosai yn wylaidd a thlodaidd yr olwg tra yn ymofyn y wobr. Ac yn y fan yma nis gallwn lai na sylwi ar coincidence rhyfedd mewn cysylltiad ag Eisteddfod Madog. Ymhen ugain mlynedd wedi hyn cafwyd cadeir— fardd buddugol yn yr Eisteddfod honno ym mherson gwr ieuanc llawn mor swil a diymhongar, sef Huw Puw (Clynog), un o ddisgyblion cyntaf Owain Aran, a phan y dywedodd Clynog mai un o Ryd y Main ydoedd, i'r hen anwylfardd Cynddelw waeddi dros y lle,—"Dim rhyfedd wir; y mae yna chwarel o feirdd yn Rhyd y Main." Ac Owain Aran oedd agorwr y chwarel hefyd. Ond dyma englyn Aran yn gywir i "Lwch y Fynwent,"——
"Y cnwd hwn yw cnawd dynol—pwy edrych!
Wedi pydru'n hollol;
Ond drwy fedr Un Anfeidrol
Ei gnwd wneir yn gnawd yn ol."
Amheuodd un o'r colledigion nad Owain ac efe ond hogyn pymtheg oed, llwydaidd ei olwg, oedd awdwr yr englyn. Gofynnodd iddo roddi engraifft o'i allu, ac y mae yn rhoi testyn iddo, ac im tyb i, y mae y testyn yn index go lew i gymeriad yr amheuwr. "Yr Asyn" ydoedd y testyn. A dyma bortread o'r hirglust yn ol Aran,—
Hen ruswr yw yr asyn—aneisior,
Gwrthnysig a chyndyn;
Hwn wna ffwl o fonau ffyn:
Pan 'nada pwy nai hedwyn."
Dywed un arall wrthyf na roddwyd yr un testyn i Owain, ond rhoddi herr iddo wneyd englyn ar rywbeth, a dyma Owain yn dweyd hwn heb nac atalnod gwynt,―
"Heddyw e gawn oll dê ddigon a—chig
Moch ac wyau gyda
Menyn doraeth ar fara
Twymn, oni bydd o'n fara da?"
Nid wyf yn credu fod llwyddiant Owain yn Eisteddfod Madog wedi troi ei ben, fel y gwna ambell fuddugoliaeth swllt neu ddeunaw mewn cyfarfod llenyddol effeithio ar rai o honom. Gallesid tybio y buasai bellach yn ymgynnyg am bob gwobr am englyn yng nghyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau Cymru, ac y buasai yn cerdded iddynt fel pedlar barddonol, yr un fath ag y gwna pedleriaid cerddorol sydd ar hyd a lled y wlad yn awr, yn cynnyg ar bob rhyw challenge solo, am eu bod wedi digwydd ennill pisyn deuswllt yn y fan a'r fan am her unawd agored i'r byd. Ond na; ni roddodd Owain ei athrylith er arian, na'i gân er delwau bathedig. Nid wyf yn gwybod ei fod wedi anfon nemawr o'i gyfansoddiadau i gystadleuaeth erioed, ac eithrio feallai ddwywaith neu dair ar ol Eisteddfod Madog, ac unwaith o'r nifer yna yr oedd wedi anfon ei gynyrchion i law yn rhy ddiweddar. Yr achlysur hwnnw oedd pan y cynygid gwobr yn Eisteddfod Corris tua'r flwyddyn 1856 neu 1857 am dri englyn i'r "Chwarelwr." A dyma hwy,―
"O cheir hwyl, i'r chwarelwr—y canaf,
Dacw hynod weithiwr:
Onid yw gamp nodi gŵr,
Mewn teiroes, mwy anturiwr?
"Efe ar lithrig ddirfawr lethredd―craig,
Neu crogi'n ei dannedd,
Bwyai dyllau 'mhob dullwedd,
O hyd mewn bywyd—min bedd.
"Ond rhag corwynt, a rhew garwaf,—rhag gwlaw,
Rhag gwlyb dywydd gaeaf,
Uwch fy mhen cysgodlen caf—
Mân lechau, mwy ni wlychaf."
Yr achlysur arall oedd pan y cynhygiai y diweddar archlenor, Mr. Robert Oliver Rees, wobr o Weithiau Dafydd Ionawr am yr englyn goreu i'w ddodi ar ei feddfaen ym mynwent newydd Eglwys Dolgellau. Yr oedd hyn yn 1851, sef y flwyddyn yr enillodd Owain yn Eisteddfod Madog, a chofier mai pymtheg oed ydoedd. Daeth cant namyn chwech o englynion i law, ac ymgeisiodd beirdd gwychaf Cymru. Mor dynn eto oedd y gystadleuaeth fel y gofynnodd Eben Fardd i Ellis Owen Cefn y Meusydd, yr hwn fel y cofiwch, oedd un o feirniaid Owain ym Mhorthmadog pan y gofynnodd am gynorthwy Caledfryn i dorri y ddadl ar bennill "Llwch. y Fynwent,i benderfynu y goreu. Dyfarnwyd englyn Owain Aran yn fuddugol o'r 94 a anfonwyd i law, a dyma fe,—
"I'r Anfeidrol Ior yn fydrydd―y bu
Gyda'i bêr awenydd;
Ei holl waith diwall ieithydd,―
O'i ol yn anfarwol fydd."
Trueni garw na ddodasid yr englyn ar y pyramid; paham, nid wyf yn gwybod.
Y tro arall y mae gennym sicrwydd iddo ymgeisio mewn cystadleuaeth oedd mewn cyfarfod llenyddol yn y Brithdir, pryd y cynhygid gwobr am englyn i'r "Gath," ac er i lu o feirdd gorchestol gynnyg aeth y wobr a'r clod i Aran. Dyma hwnnw,—
"Un lemdroed, llawn cyflymdra—ydyw'r gath,
A drwg iawn am ladrata;
Gwedi nos dal llygod wna,
Un o'i phawen ni ffoa."
Yr englyn argraffedig cyntaf o'i eiddo wyf wedi dyfod ar ei draws yw hwnnw ar y "Ddiod Feddwol" a gyhoeddwyd yn y Cronicl bach am Ionawr, 1851, yr hwn sydd fel y canlyn,—
"Llyma fîr llawn o fariaeth,—a diod
Andwyol i'r archwaeth;
Dwfr i ddyn, neu loew—wyn laeth,
Beunydd sydd well wlybaniaeth."
Go dda i fachgen pymtheg oed, onide? Dyma englyn difyfyr a gyfansoddodd pan welodd sign ger Llyn Talyllyn yn hysbysu yn Saesneg pa bryd i ddechreu pysgota a pha bryd i roi y goreu i hynny,—
"Ni chaniateir genweiriaw—i chwi
Cyn chwech, pan yn dyddiaw,
A byddaf i'ch rhybuddiaw
Hyd y nos pan wedi naw."
II. Y BARDD PAROD.
BETH feddylier o'r englynion canlynol, pan nad oedd ond bachgen, nid yn unig oherwydd eu cynghaneddion cryfion, ond o ran purdeb iaith ac arddull lenyddol? "Erfyniad am heddwch" yw y testyn, yr adeg yr oedd cyfandir Ewrop yn llawn berw, a'r Hungariaid yn cael eu gorthrymu gan yr anghenfil Haynau hwnnw, pryd yr ymddangosodd Louis Kossuth fel amddiffynnydd y genedl orthrymedig honno. Gwrandewch,―
"Heddwch, tawelwch diwad—o filain
Ryfeloedd certh, anfad;
Iddynt y bo diweddiad,
Er byw'n llon, freinlon heb frad."
"Gresyn, yn Ffrainc a Rwsia—ymhyrddiant
Am orddwys ryfela;
O mor llon, dirion, a da
Bo heddwch i feib Adda."
"A'r Awstriaid sydd fel yr estrys,——llawn mall
Yn amhwyllig echrys,—
Dreigiau hyllion drwg 'wyllys,
Rhuthrant, brwydrant mewn brys.
"Trwyadl bu'r Hungariaid, truain,——cufwyn,
Ac hefyd gwyr Rhufain;
Mae achos rhoi trom ochain
Hyd fedd, yn rhyfedd i'r rhain."
"Eang adfydus anghydfodau—'n wir
Sydd mewn eraill fannau,
Ac aml eiddig ymladdau
Terwynion, gwylltion yn gwau."
"Bydded fflwch Heddwch o hyd,—tra eirian
Trwy Ewrob heb adfyd;
Hafal cyrhaeddo hefyd
Yn glau, trwy barthau y byd."
"Edrycher am fawr ymdrechion—buddiawl
Na byddo lladd dynion;
Ie, llwydd gynyddo llon
Fyd hylwydd, heb fatelion."
"Gadawn y gwg, dyna gân
Anhyrwydd Owain Aran."
Yr oedd gan Owain galon fawr, ac y mae lle i dybied ei fod wedi bod unwaith, o'r hyn lleiaf, yn dioddef yn drwm o dan glefyd yr organ honno, nid oherwydd unrhyw afiechyd anianyddol arni, megis fatty degeneration, fel y bydd y meddygon yma yn ysgrifennu ar dystysgrif marwolaeth ambell un; ond clefyd arall ag sydd yn effeithio ar bawb o honom, fwy neu lai, ar adegau, ond fel y mae goreu y lwc nid yw yn "glefyd i farwolaeth." Serch, neu gariad at wrthddrych ydyw hwnnw, a'r gwrthddrych a effeithiodd ar Owain yn y cysylltiad hwn oedd merch ieuanc o'r enw Gwen, a chyfansoddodd dri englyn yn llawn o deimlad byw, ac yn dangos yn eglur ei fod yn meddu ar y gwendid neu y nerth hwnnw sydd yn rhoddi pawb allan o'r cyfrif am ragoroldeb ond rhyw un, ac i Owain Gwen oedd honno. Dyma fel y canodd,—
"Adwaenaf ar hyd Wynedd—enethod
Glân eithaf eu buchedd,
Rai tirion, gwychion eu gwedd,―
Yn goronog o rinwedd.
Ond, os i ferch y dewisaf fi—ganu,
Cofio Gwen raid i mi;
Ni anwyd merch fwy heini,
Nac ail Gwen i'm golwg i.
"Gwen fêl eiriau, Gwen fal arian—ei lliw,
Gwen â llais fel organ;
Gwen wen, dlos, Gwen hynod lân,
A Gwen oreu gan Aran."
Gallai hefyd gydymdeimlo â rhai mewn profedigaeth; a theimlir mewn ambell englyn, ffrwd fywiol o'r rhinwedd uchel-dras hwnnw yn rhedeg tuag at y rhai a brofid felly. Dyma i chwi engraifft o hynny mewn englyn a gyfansoddodd ar ol Harriet, merch i Mr. a Mrs. Robert Jones y Tanner, a chwaer fach i'r diweddar, erbyn hyn, Mrs. Chidlaw Roberts,—
"O'i hol, ei rhiant haelion—na weler
Yn wylo deigr heilltion;
Diau Harriet, em dirion—yn iach fry
Sy'n lleisio'n felus yn llys nefolion."
Y mae hwnyna yn deilwng o unrhyw fardd englynol a adnabu Cymru erioed. Wele un arall ar farwolaeth merch ieuanc dduwiol iawn o'r enw Sarah Jones,—
'Ha! er daearu y dirion—Sara,
Seren y gwyryfon;
Yng ngoleu wlad angylion
Onid hardd yw enaid hon?"
Cyfansoddodd Owain feddargraff, pa un ai i'w roddi ar ei fedd ei hun, ynte ar ol rhywun arall nis gwn, ond y mae yn ddigon agored i fod ar fedd unrhyw un, boed dduwiol neu anuwiol, tlawd neu gyfoethog, a dyma fo,—
"O'r nef, ar ein daear ni,—'r munudyn
Yr amneidia Celi,
Dihunaf, cyfodaf fi
Uwchlaw llwch a chlo llechi."
Dyma feddargraff chwaer yng nghyfraith fechan i mi ym mynwent Rhyd y Main,—
Rhyw olwg byrr a welodd, yn y byd;
Dan ei boen ni ddaliodd;
Ond yn ddifraw draw hi drodd,
I wlad engyl diangodd."
Dyma i chwi englyn penigamp eto ar ol bachgen ieuanc a fu farw mewn canlyniad i dorri aelod mewn damwain,―
Os anaf roes i huno—y gwiwlanc,
Na wylwch am dano;
Y nef yw ei drigfan o:—
Dianaf ydyw yno."
'Doedd waeth gan Aran yr iaith Saesneg na'r Gymraeg i nyddu englynion iddi. Gwrandewch ar ddau neu dri. Ar achlysur priodas Mrs. Roberts, Ty'n y Cefn, Corwen, mam Mr. R. R. Roberts, yr arwerthydd, a chwaer i Mr. Meyrick Jones, canodd,―
"In love may they be living—for a long
Fair life without ceasing;
And happiness' gate opening—to them now,
Yes, really, so we are all saying."
Dyma ei englyn i'r Mul,―
"So well he'll sing a solo—in the field
With a full crescendo;
Rolling, and ending, you know
With a tender rallentando."
Dyma eto ddau englyn a gyfansoddodd i'w hen feistr, Mr. R. O. Williams, National School, ar ol ei glywed yn canu y crwth un noson,—
Who merits his admiring—but Williams?
He'll beat all to nothing;
No soul have I heard to sing
A tune so entertaining.
"When he plays, Oh how pleasing—is the sound
As though saints were harping;
I was, I felt, on the wing
Far in heav'n for one ev'ning."
Digwyddai fod yn aros un noson mewn ffermdy yn ardal Rhyd y Main lle yr arferid siarad dipyn o Saesneg; a gofynnai gwraig y ty iddo,—"What will you have for supper, Mr. Aran?" Ac atebodd Owain hi mewn munud gydag englyn,―
"I want not fflummery, whatever,—nor porridge,
When you prepare supper;
In fact, always prefer
A bit of bread and butter."
Yr oedd gan Owen Owens, Dolfanog (Llety Rhys) gŵn dan gamp, ac y mae yn gofyn i Owain eu hanfarwoli âg englyn, a chredwn ei fod yn gwybod rhywbeth am deithi y cŵn, ac yr hoffai rai o honynt yn fwy na'u gilydd, a dywedai am danynt,—
"Ffenix yn aml a ffonier—a hir oes
I Quarie a Belsier,
Venus i fyw einioes ferr,
A Rumsey am hir amser.'
Yr oedd hefyd gan yr un gŵr ffon nodedig, a byddai yn ei hoetian ar rai adegau yn bur fygythiol, a chyfarchodd Owen hi,—
"Wele ffon, gan Ddolffanog,—ddiwyrgam,
Rydd ergyd gynddeiriog;
A phan drawo'r ffon droiog,
Nid mor gynted y rhed rôg."
Ar rai o'i bleser—rodfeydd aeth i ymweled â'i gyfaill a'i ddisgybl Dafydd Ifans, Hafod y Meirch (Nant y Gwyrddail yn awr) un prydnhawn Sadwrn, a daeth yn gawod drom o wlaw. Gofynnodd Aran iddo a oedd ddim am noswylio. "Tydi hi ddim yn saith eto,' "atebai Dafydd Evans. Ebai yntau mewn eiliad,—
"Heno cei 'swylio cyn saith,—ys ydyw
Nos Sadwrn gwlyb diffaith;
Ond dydd Llun, er tywydd llaith,
Ti weithi gymaint wythwaith."
Yn 1855 agorwyd ysgoldy cenedlaethol ym Mryn Coedifor,—yr ysgol elfennol gyntaf a godwyd yn yr ardal fel y cyfryw, er fod rhyw fath o ysgol yn cael ei chadw o bryd i bryd yng nghapel Siloh a Hen Gapel Rhyd y Main, a byddai gwyr ieuainc yn dyfod ar eu tro i wasanaethu ynddi. Yr ydym yn cael yn y flwyddyn 1849 fod Owen Evans (wedi hynny ac yn awr, Dr. Owen Evans, Lerpwl) yn athraw yno am ryw dymor, ac o'i flaen ef deuai Thomas Roberts (Scorpion) yno ar ei dro o Lanuwchllyn i gynnal dosbarthiadau ddysgu Gramadeg Cymraeg, a gwnaed llawer iawn o ddaioni drwyddynt. Felly yr oedd yn y Brithdir hefyd; bu yr hen Ellis Edwards Pen y Bryn yn cadw dosbarthiadau yn y gaeaf i ddysgu ychydig o ddarllen, ysgrifennu, rhifyddu, a gramadeg Cymraeg. Ac i'r ardal hon y daeth Owain Aran i gychwyn gyrfa athraw.
III. YR ATHRAW.
AR ol ymadawiad y Parch. Owen Evans o Ryd y Main, ni cheid ond ysgol nos yno, yr hon a gedwid gan un o'r enw Robert Richards o'r Brithgwm, hyd nes, fel y dywedwyd, i'r ysgol bresennol gael ei hadeiladu a'i hagor yn y flwyddyn 1855. Nid oedd athrawon trwyddedig yn hawdd eu cael yr adeg honno; ond caed allan fod llanc pedair ar bymtheg oed yn Nolgellau yn meddu ar ddawn neillduol mewn dysg, ac yn o debyg o wneyd y tro, a thrwy dipyn o berswadio cafwyd gan Owain i ymgymeryd â'r swydd o fod yn ysgolfeistr. Mae yn debyg mai Mr. R. O. Williams yr ysgolfeistr a'i cymhellodd i fyned, am y gwyddai y gŵr craffus hwnnw feallai fwy am Owain nag odid neb. Yr oedd Rhyd y Main yr adeg hon wedi cael blas ar addysg, ac yn llawn awydd am wneyd eu goreu dros yr ysgol newydd. Nid oedd Owain wedi cael unrhyw hyfforddiant fel athraw; ond yn fuan y mae yn dangos yn hynod eglur fod y gallu a'r ddawn i gyfrannu addysg yn gref ynddo. Gwrandawer ar un o'i ddisgyblion yn ei ddarlunio yn y cymeriad o ysgolfeistr,—
"Daeth Owain Aran i gadw ysgol ym Mryn Coedifor pan oedd yn bur ieuanc. Efe oedd yr athraw cyntaf a fu yn yr ysgol honno. Nid oedd yn athraw trwyddedig; er hynny, meddai ar holl gymhwysderau athraw llwyddiannus. Yr oedd yn deall i'r dim pa fodd i gyfranu addysg i'r plant, ac yr oeddynt yn dysgu popeth dan ei ofal, megis heb yn wybod iddynt eu hunain. Byddai yn chwareu gyda'r plant yn adeg chwareu, ac yr oedd drwy hynny yn eu denu i'w garu ac ufuddhau iddo ymhob peth. Ymledodd ei glod fel ysgolfeistr yn fuan drwy yr holl ardal, a byddai amryw o rai hynach na phlant am fis neu ddau yn y gaeaf yn dyfod i'w haddysgu, yr hyn a fu o fantais fawr iddynt."
Nid wyf yn meddwl y gellid cael gwell tystiolaeth i'w allu hyd yn oed gan Arholwr y Llywodraeth na'r dystiolaeth yna o eiddo ei ddisgybl talentog Graienyn. Yn fuan wedi dechreu ar ei waith fel ysgolfeistr dyddiol daeth dirprwyaeth gref ato i ofyn iddo sefydlu dosbarth er meistroli gramadeg a rheolau barddoniaeth gaeth yn fwy trwyadl, ac y mae dosbarth lliosog yn cael ei ffurfio, a dyma dystiolaeth Graienyn eto am dano yn y cysylltiad hwn,―
Ond er cymaint ei glod fel ysgolfeistr, yr oedd yn tynnu llawn cymaint o sylw fel bardd a llenor. Yr oedd yn gynghaneddwr cywrain ac yn englynwr da cyn ei fod yn bymtheg oed. Bu ganddo ddosbarth yn y gaeaf yn dysgu gramadeg a rheolau barddoniaeth. Yr oedd amryw o aelodau y dosbarth hwnnw yn ddynion mewn oed; er hynny yr oeddynt yn yfed ei addysg fel plant; ac y mae yr adgof am y dosbarth yn beraidd a dymunol, er fod y rhai a'i mynychent wedi mynd bron i gyd i ffordd yr holl ddaear; a gallaf ddweyd erbyn hyn, 'mai myfi yn unig a adawyd i fynegi hyn i chwi.' Yr oedd gan Owain Aran dalent arbennig gyfrannu addysg, ac yr oedd hwyl a mynd ar bob peth a gymerai mewn llaw; a bu ei lafur yn foddion i godi ysbryd llenyddol a barddonol uchel yn yr ardal, y fath na welwyd na chynt na chwedyn. Yr oedd yn fardd naturiol; ond er cymaint ei serch at farddoniaeth byddai yn cynghori ei ddisgyblion bob amser i beidio rhoddi eu holl feddwl at farddoniaeth; ond yn hytrach i ymroi â'u holl egni i ddysgu yr iaith Saesneg a phethau bendithiol eraill.
Dyma dystiolaeth llenor galluog arall a fu dan addysg Owain yn y dosbarthiadau hyn, yr hwn a fu yn parotoi ei hun ar ol hyn i fod yn ysgolfeistr, ond a newidiodd ei feddwl, ac aeth i'r weinidogaeth, ac a fu yn weinidog llwyddiannus am lawer o flynyddoedd, a hwnnw oedd y Parch. John Eiddon Jones. Dyma a ddywed y gŵr hwnnw,—
Mewn canlyniad i'r dosbarthiadau hyn trodd y myfyrwyr allan yn gyfansoddwyr da yn y mesurau caethion, a chynyrchwyd ysbryd barddonol a llenyddol yn y gymydogaeth na welwyd yn fynych ei fath, fel y daeth yr ymdrechfa am gyfansoddi englyn yn y cyfarfodydd llenyddol yn bwnc y teimlid y dyddordeb mwyaf ynddo gan y gymydogaeth.
Chwarel Cynddelw, onide? O'r nifer mawr a allesid enwi o'r rhai a fynychent y dosbarthiadau hyn, yr oedd Graienyn; Clynog; Robert Roberts, Carleg; Griffith Edwards; Hugh Edwards; Robert Pugh (Blodeuyn Mawrth); Helygog; Ieuan Alchen; Gutyn Ebrill; Dafydd Ifans, Nant y Gwyrddail, &c. Yr oedd Owain yn un bur ofalus am drylwyredd yn ei ddisgyblion, a gallai geryddu yn gystal ag hyfforddi. Cymerwn yr hanesyn hwn yn engraifft,―
"Un noson, yn y dosbarth barddonol, rhoddai yr athraw dipyn o gerydd i un o'i ddisgyblion, am fod gwall cynghanedd yn ei englyn. Bore drannoeth, yr oeddynt yn cyfarfod â'u gilydd, a rhag i'r disgybl dorri ei galon cyfarch— odd yr athraw ef fel hyn,—
'Go rywiog yw yr awen—gan William,
Gwn olwg ei dalcen,
Ei lewyrch wyneb lawen,
Un llun a bardd yn ei ben.'
Bu y cyfarchiad yna yn foddion i'r disgybl hwnnw wneyd mwy o ymdrech nag erioed i ennill cymeradwyaeth ei feistr, drwy wneyd gwell gwaith. Ac fel yna yr ymddygai bob amser at ei ddisgyblion; os byddai raid archolli wrth geryddu, gofalai am fod y feddyginiaeth wrth law, felly nid oedd y perygl lleiaf i'r un o honynt dorri ei galon. Byddai ei holl gyfarwyddiadau yn eglur, a'i ddull o ddweyd yn hyderus a chalonogol."
Deallai i'r dim pa fodd i argraffu ar feddyliau ei ddisgyblion amcan ac ystyr hyd yn oed atalnodau yn eu perthynas a chywirdeb llenyddol. Cymerai fwrdd du, a thynnai ar hwnnw ffurfiau y gwahanol arwyddion, megis rhyfeddnod, holnod, neu ofynnod, sillgoll, &c., ac yna y mae yn eu hesbonio o un i un fel hyn. Tynnai lun neu ysgrifennai arwydd holnod neu gwestiwn. Yna esboniai ef mewn englyn,―
(?) Wele fanwl ofyneb,——hwn gofir
A ofyn am ateb;
Oes un mor ddall, anghall, heb
Dda weld fy nefnyddioldeb?
Yn nesaf Rhyfeddnod,—
(!) Rhyfeddnod yn bod, os bydd,—felly a
Fo, llais y darllenydd;
Trwy'n byd traws, ei achaws sydd
I'w gael o ben bwy gilydd!
Y Sillgoll (Apostrophe),—
(') Syller, y sillgoll sy i hollol—fod
I feirdd yn oddefol;
Tra hoff yw, er rhwystro'r ffol,
Anrhywiog dorri'r rheol.
Y Gwallnod,—
(^) Gwallnod roi'r yn benodol is geiriau,
Neu os gair diffygiol;
Yn y llinell ganlynol
Gwel y ceirair rhyw ^air ar ol.
Y Sernodau,―
(***) Sernodau'n ddiau gwnawn ddeawl—yn lle
Hen hyll air anfoesawl,
Bob amser sydd arferawl
Gan dduon gym'dogion ***.
Yna daw at y full stop,—
(.) Gweler yn awr, 'rwy'n galw, —yn ddi—ddadl
Ddiweddeb i sylw;
Ac yn union cân hwnnw
Da iawn ŷnt oll—dyna nhw.'
Tebyg na fu neb ag yr oedd ei gwmni yn hyfrytach i'w gyfeillion nag oedd cwmni Owain Aran i rai o gyffelyb anian— awd. Medd Graienyn,—
"Yr oedd ganddo allu eithriadol i ddifyru cwmni; a hynny efallai yn bennaf am ei fod yn englynwr mor barod a phert—yr oedd y cynghaneddion megis ar flaenau ei fysedd, a chyfansoddai faint a fynnai o englynion yn ddifyfyr, a byddai rhyw darawiad doniol, neu gynghanedd gywrain, neu wers bwrpasol ymhob un o honynt. Un min—nos yn yr haf yr oedd ef a dau gyfaill yn myned heibio ffermdy Dolgamedd. Aeth un o'r cyfeillion i'r ty ar neges, ac arosodd yntau a'r cyfaill arall yn y ffordd hyd nes y daeth allan. Wrth ei weled yn hir yn dyfod gwnaeth Aran yr englyn hwn,
"Y gwr, O, gwna drugaredd,―ti elli,
Tywyllwch sy'n cyrraedd;
Tro gwarthus, wallus ddi—wêdd
Dal gymaint yn Dolgamedd."
"Dro arall yr oedd ef a Mr. Robert Pughe a minnau (Graienyn) yn cael ein pwyso mewn clorian. Yr oeddwn i yn drymach o gryn lawer na'r un o'r ddau arall, ac yr oedd Robert Pughe ddeunaw pwys yn drymach nag Owain Aran, yr hwn a wnaeth yr englyn canlynol mewn munud,―
Rhyw ewin o ddyn, Owain yw,―ysgafn,
Aeth yng ngwysg ei gydryw;
Erthyl od wrth Wil ydyw,
A deunaw pwys o dan Puw.'
"Dro arall yr oedd ar ymweliad ag un o'r ffermdai yn yr ardal, a daeth un o'r merched, gan yr hon yr oedd ŵy iâr yn ei llaw i'r ty, a dywedodd, Mi roi i yr ŵy yma yn wobr i chi —os gwnewch englyn iddo fo.' Very well,' meddai yntau, ac wedi edrych o'i gwmpas am hanner munud, dywedodd,—
"E gâr rhai gael jwg i'w rhan—a phibell
A phob sothach aflan;
Ond prydydd o awenydd wan,
A gâr ŵy iâr, yw Aran.'
Fel yna, pa le bynnag yr ai, yr oedd y parodrwydd hwnnw a'i nodweddai yn ei wneyd yn ffafrddyn gan ei holl gydnabod. Yr oedd ei lafur tra yn Rhyd y Main i addysgu y werin a'i phlant, y pum mlynedd y bu yno, bron yn anhygoel. Cyfododd ddosbarth arall i addysgu egwyddorion cerddoriaeth, a meistrolodd llu o'i ddisgyblion y gangen honno i'r fath raddau nes aeth eu clod hwy a'u hathraw led led y wlad. Ymroddodd i'r gwaith yn yr ysgol ddyddiol nes iddo weled llwyddiant mawr arni, ac y mae ei englynion i "Sian Fach," un o'i ysgoloresau bychain a fu farw yn ieuanc iawn, yn dangos yn eithaf eglur, pa mor ddwfn bynnag oedd serch y plant tuag ato ef, nad oedd ei gariad a'i ymlyniad yntau ynddynt hwy ddim llai,—
ENGLYNION I SIAN FACH.
"Mae brathiad, gnoad egniol,—yng nghiliau
Fy nghalon hiraethol;
Gweld ymysg aelodau'n hysgol
Ryw un, dirion un, yn ol.
"Diau Sian sy'n dwys huno,—Sian fach,
Sy'n fud yn gorffwyso;
Onid trwm meddwl un tro
Na chaf mwy ond ei chofio?
Y ddoe, O laned oedd hon,—llawen wên
Llanwai'i hwyneb tirion;
Heddyw, nid llawn gwrid na llon
Yw ei dwyrudd, ond oerion!
Llawer gwaith y bu'n teithiaw—i'w hysgol,
Ni wnai esgus peidiaw;
Pur siriol f'ai prysuraw
Yno a'i llyfr yn ei llaw.
"Ie'r llyfr oedd ei hoff fri,—ac o'i llyfr
Cai ei llawn foddloni
Rhoi addysg bleser iddi,
Fe ddaliai'i holl feddwl hi.
"Pur rhwydd ai dros bob brawddeg,—yn ddiau
Yn y ddwy iaith wiwdeg,
Helaeth ddealltwriaeth teg
Mynsai Sian mewn Saesoneg.
"Da cofiai benodau cyfain,—a nid
Oedd ond naw o'i hoedran;
Ni cheid o ferch hyd y fan
Yn well am ddysgu allan.
"Ni fu'n faich i'r fenyw fechan―rifo
Rhyfedd symiau allan;
Ac am swm, prin caem i Sian
Ei chydradd mewn uwch oedran.
Hyd hoedl holl ieuenctyd y wlad,—on fydd
Am Sian fach yn wastad;
A'i dwylaw, er mewn daliad,
Mae'i hinc a'i phen mewn coffhâd.
"Er mai rhan fechan o fuchedd―welodd,
Nid a i wael annedd,
Ond rhawg i fwynhau trigfan hedd,
Yr hon na ddaw arni ddiwedd."
Yr ydym yn ei gael ymhen y pum mlynedd yn derbyn galwad daer i fod yn athraw yn y Bala, ac y mae yno drachefn yn ymdaflu o ddifrif i'r gwaith, a chymaint oedd eu gwerthfawrogiad o hono yno fel y maent yn gwneyd tysteb iddo ar derfyn blwyddyn a hanner o arosiad, cyn ei fyned i Fryneglwys, ger Corwen, i gadw ysgol. Ni bu ym Mryneglwys yn hir, gan iddo oeri a dechreu clafychu yno oherwydd anwyd a gafodd wrth fyned i blygain Nadolig mewn eglwys tua phedair milldir oddiyno. Yn gynnar yn 1863 y mae yn gorfod rhoddi yr ysgol i fyny; ac yn dyfod gartref i Ddolgellau i farw, yn ddyn ieuanc saith ar hugain oed. Bu yn dihoeni am rai misoedd, a gwelid yn amlwg fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd ynddo, a bu farw yn Wnion Terrace, sef yr enw a elwid ar y rhes tai oedd yn gwynebu yr afon Wnion ger hen dollborth y Bont Fawr, cyn adeg y rheilffordd, Medi 18, 1863, yn saith ar hugain mlwydd oed. Yn 1875 cynygiwyd gwobr am hir a thoddaid ar ei ol gan Bwyllgor Eisteddfod Meirion, a derbyniwyd deg o gyfansoddiadau, a dyfarnwyd y pennill canlynol o eiddo ei gyfaill, ei ddisgybl, a'i edmygydd Graienyn, yn oreu,—
Llyncu da addysg wnai y llanc diddan,
Ei dasg anwyl oedd dysgu ei hunan,
A thrwy ei ferr—oes athraw fu Aran
Garai ddiwygio y rhai oedd egwan;
A thlos farddoniaeth lân—o'i ddwylaw gaid,
Dilynai'i enaid oleuni anian."
"Heddwch i'w lwch!"
Dolgellau.LLEW MEIRION.
NODIAD. Dylaswn ddweyd mai etching o waith Owain Aran ei hun yw y darlun a ymddangosodd uwchben y rhan gyntaf o'r ysgrifau hyn, a hynny drwy eistedd o flaen looking glass ac ardebu ei hun felly.—LL. M.
Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.