Pa hyd, fy Arglwydd Dduw di-lyth ?

Oddi ar Wicidestun

Mae Pa hyd, fy Arglwydd Dduw di-lyth ? yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)

Pa hyd, fy Arglwydd Dduw di-lyth ?
Ai byth yr wyf mewn angof ?
Pa guddio'r wyt, Dduw ! pa hyd,
Dy lân wynebpryd rhagof ?


Pe llithrwn ddim, rhag maint yw'r llid,
Fe dd'wedid fy ngorchfygu;
A llawen fyddai fy holl gâs;
Dal fi o'th ras i fyny.


Mi yn dy nawdd a rois fy ffydd
A'm holl lawenydd eithaf;
Canaf i'm Duw a'm helpiodd i,
Gwnaf gerddi i'r Goruchaf.