Pais Dinogad

Oddi ar Wicidestun
Pais Dinogad, fraith fraith,
O grwyn balaod ban wraith.
'Chwid, chwid, chwidogaith!'
Gochanwn, gochenyn wythgaith.
Pan elai dy dad di i helia,
Llath ar ei ysgwydd, llory yn ei law,
Ef gelwi gwn gogyhwg:
'Giff, Gaff; daly, daly, dwg, dwg!'
Ef lleddi bysg yng nghorwg
Mal ban lladd llew llywiwg.
Pan elai dy dad di i fynydd
Dyddygai ef pen i wrch, pen gwythwch, pen hydd,
Pen grugiar fraith o fynydd,
Pen pysg o Rhaeadr Derwennydd.
O'r sawl yd gyrhaeddai dy dad di â'i gigwain,
O wythwch a llewyn a llynain,
Nid angai oll ni fai oradain.