Pan fo'r enaid mwya' gwresog

Oddi ar Wicidestun
gan Ann Griffiths
Pan fo'r enaid mwya' gwresog
Yn tanllyd garu'n mwya' byw,
Y mae'r pryd hynny yn fyr o gyrraedd
Perffaith sanctaidd gyfraith Duw;
O! am gael ei hanrhydeddu
Trwy dderbyn iechydwriaeth rad,
A'r cymundeb mwya' melys,
Wedi ei drochi yn y gwaed.


Rhyfeddu a wna' i â mawr ryfeddod
Pan ddêl i ben y ddedwydd awr
Caf weld fy meddwl, sy yma'n gwibio
Ar ôl teganau gwael y llawr,
Wedi ei dragwyddol setlo
Ar wrthrych mawr ei Berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
 phur a sanctaidd ddeddfau'r nef.

Tarddiadau[golygu]