Pan sycho'r moroedd dyfnion maith

Oddi ar Wicidestun
Os ydwyf wael fy llun a'm lliw Pan sycho'r moroedd dyfnion maith

gan Morgan Rhys

Iesu yw'r enw mawr di-goll

117[1] Crist Pen yr Eglwys.
M. C.

1 PAN sycho'r moroedd dyfnion maith,
A syrthio sêr y nen,
Oen Duw, a laddwyd ar y bryn,
Ar Seion fydd yn Ben.

2 Ei enw a bery tra fo haul,
Yn glodfawr byth y bydd;
Ac ni bydd diwedd ar ei glod
I dragwyddoldeb ddydd.


3 Bendithion rif y tywod mân,
A gwlith y ddaear lawr,
Sy 'nghadw i'r ffyddloniaid fry
Byth yn eu Harglwydd mawr.

4 Aed enwau'r byd i gyd yn ddim,
Dyrchafer Brenin nef;
Mae pob cyflawnder inni byth
Ynghadw ynddo Ef.

Morgan Rhys

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 117, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930