Patrymau Gwlad/Ar Ynys Iâ

Oddi ar Wicidestun
Y Penllâd Patrymau Gwlad

gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol)

Y Prif Ddirgelwch

AR YNYS IÂ

(I Wleidyddwr)

Er ffrindiau sy'n ei adael o
Gan hedeg ymaith mewn ynfydrwydd
I'r Chwith neu'r Dde, fel adar to,
A'u hwyneb adref o'r enbydrwydd;

Saif wrtho'i hun ar ynys iâ
A'r poethder yn ei chyflym doddi;
Ydy' o ar ddiflannu? Na,
Rhy heini fydd er hyn i'w foddi.

Nodiadau[golygu]